Newidiadau'n ymwneud ag ailgylchu a gwastraff

Services and information

Mae'r casgliadau gwastraff a deunydd ailgylchu'n newid.

O ddydd Llun 3 Mehefin 2024, rydym ni'n cyflwyno newidiadau i'r gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff, yn cynnwys darparu cynwysyddion newydd a chasglu deunydd ailgylchu yn wythnosol.

Bydd y newidiadau hyn yn ei gwneud yn haws i chi ailgylchu mwy o gartref, helpu i wella ansawdd y deunydd ailgylchu yr ydym ni'n ei gasglu a lleihau effaith casglu gwastraff ar ein hamgylchedd.

Bydd y gwasanaeth casglu gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn newid i bob 4 wythnos ar gyfer cartrefi sy’n defnyddio’r gwasanaeth bin ar olwynion (bob wythnos ar gyfer cartrefi sy’n defnyddio’r gwasanaeth bagiau).

Trolibocs

Byddwn ni'n danfon eich cynwysyddion newydd rhwng 23 Chwefror a 17 Mai 2024. Cadwch eich gafael arnyn nhw, ond peidiwch â'u defnyddio nhw eto. Byddwch yn derbyn pecyn gwybodaeth gyda’ch cynwysyddion newydd fydd yn y blwch top. Bydd hwn yn egluro'r newidiadau mewn mwy o fanylder, beth sy'n mynd i ble a sut ddylech gyflwyno eich cynwysyddion ar eich diwrnod casglu.

Darganfyddwch pryd byddwn yn danfon eich cynwysyddion ailgylchu newydd yn barod i chi eu defnyddio o ddydd Llun, 3 Mehefin 2024.

Beth sy'n newid?

Dysgwch fwy am y newidiadau i'ch casgliadau deunydd ailgylchu a gwastraff.

Pam ydym ni'n gwneud y newidiadau hyn?

Gwybodaeth ynghylch pam yr ydym ni'n cyflwyno newidiadau i'r gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff.

Canllawiau a gwybodaeth

Rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth casglu ymyl palmant yn cynnwys eich cynwysyddion deunydd ailgylchu newydd. 

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin am y newidiadau i'r gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff.

System bentyrru: Cyflwyno'r Trolibocs

Y dull mwyaf dibynadwy o gyflawni ailgylchu o safon uchel yw sicrhau bod deunyddiau megis papur a gwydr yn cael eu casglu ar wahân wrth ymyl y palmant. I wneud hyn yn effeithlon, yr ydym ni’n cyflwyno’r Trolibocs - system o focsys y gellir eu pentyrru i gartrefi gyflwyno’r rhan fwyaf o’u deunydd ailgylchu bob wythnos (ar gael i bob aelwyd sy’n defnyddio’r gwasanaeth bin ar olwynion).

Bydd aelwydydd sy’n derbyn y gwasanaeth bin ar olwynion hefyd yn derbyn bag glas y gellir ei ailddefnyddio er mwyn ailgylchu cardfwrdd.

Dysgwch fwy am y system Trolibocs ar gyfer deunydd ailgylchu sych.

Trolibocs

Casgliadau gwastraff nad oes modd ei ailgylchu

O fis Mehefin 2024, byddwn ni’n casglu eich gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob 4 wythnos o’ch bin glas neu ddu 240 litr ar olwynion (neu bob wythnos o’ch bag du y gellir ei ailddefnyddio / sachau pinc).

Dysgwch fwy am y newidiadau i'r gwasanaeth casglu gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Casgliadau gwastraff nad oes modd ei ailgylchu

Casgliadau tecstilau

Gwasanaeth casglu newydd, bob 4 wythnos yn rhad ac am ddim ar gyfer eich dillad a thecstilau, wedi'i ddarparu gan ein partner Co-Options.

Rhagor o wybodaeth am wasanaeth casglu tecstilau Co-Options.

Casgliadau tecstilau

Gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol

Gwasanaeth casglu wythnosol, yn rhad ac am ddim ar gyfer eich cynnyrch hylendid amsugnol, yn cynnwys clytiau tafladwy a chynnyrch hylendid amsugnol eraill (mae'n rhaid cofrestru). Ar gael ar gyfer y sir gyfan yn 2024.

Cofrestru a chael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol.

Gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol

Eitemau trydanol bach a batris y cartref

Byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu wythnosol rhad ac am ddim ar gyfer eich eitemau trydanol bach a batris y cartref yn 2024.

Dysgwch fwy am y gwasanaeth casglu eitemau trydanol bach a batris y cartref.

Eitemau trydanol bach a batris y cartref

Pecynnau gwybodaeth

Lawrlwythwch eich pecyn gwybodaeth.

Pecynnau Gwybodaeth