Newidiadau'n ymwneud ag ailgylchu a gwastraff: Eitemau trydanol bach a batris y cartref

Byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu wythnosol rhad ac am ddim ar gyfer eich eitemau trydanol bach a batris y cartref yn mis Mehefin 2024.

Batris y cartref

Gallwn gasglu hen fatris y cartref i’w hailgylchu mewn clip batris pinc (neu fag untro clir) bob wythnos.


Clip batris pinc (Gwasanaeth bin ar olwynion)

Trolibocs a Clip Batri Pinc

Hen fatris y cartref.

(Batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9V)

Clipiwch y cwdyn pinc ailddefnyddiadwy ar handlen eich Trolibocs.

Ni fyddwn yn casglu’r batris canlynol:

  • Gwefrwyr batris
  • Batris car
  • Batris gwefradwy o liniaduron, ffonau symudol, offer pŵer neu hwfyrs
  • E-sigaréts neu fêps
  • Batris ‘botwm’ lithiwm-ïon, fel y rhai a ddefnyddir mewn cyfrifianellau, cymhorthion clyw neu oriorau

Bag plastig untro (Gwasanaeth bagiau)

Bag plastig untro

Hen fatris y cartref.

(Batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9V)

Ni fyddwn yn casglu’r batris canlynol:

  • Gwefrwyr batris
  • Batris car
  • Batris gwefradwy o liniaduron, ffonau symudol, offer pŵer neu hwfyrs
  • E-sigaréts neu fêps
  • Batris ‘botwm’ lithiwm-ïon, fel y rhai a ddefnyddir mewn cyfrifianellau, cymhorthion clyw neu oriorau


Eitemau trydanol bach

Gallwn gasglu eich eitemau trydanol bach (megis tostwyr a raseli trydan) bob wythnos.

Trolibocs
(Gwasanaeth bin ar olwynion)

Trolibocs

Eitemau trydanol bach, gan gynnwys:

  • Raseli trydan
  • Sychwyr gwallt
  • Heyrn
  • Tegellau
  • Offer pŵer
  • Radios
  • Tostwyr

Ni ddylai’r eitemau trydanol bach fod yn fwy na thaflen o bapur A4. Os yw’r eitem yn cynnwys batris y mae modd eu tynnu allan, dylid gwneud hynny a’u rhoi yn y cynwysyddion casglu batris.

Rhowch eich eitemau trydanol bach yn rhydd ar ben eich Trolibocs i'w casglu.

Gellir mynd ag eitemau trydanol mwy i’ch Canolfan Ailgylchu a Gwastraff agosaf.

Ar dop un o'ch bagiau amldro (Gwasanaeth bagiau)

Ar dop un o'ch bagiau amldro (Gwasanaeth bagiau)

Eitemau trydanol bach, gan gynnwys:

  • Raseli trydan
  • Sychwyr gwallt
  • Heyrn
  • Tegellau
  • Offer pŵer
  • Radios
  • Tostwyr

Ni ddylai’r eitemau trydanol bach fod yn fwy na thaflen o bapur A4. Os yw’r eitem yn cynnwys batris y mae modd eu tynnu allan, dylid gwneud hynny a’u rhoi yn y cynwysyddion casglu batris.

Rhowch eich eitemau trydanol bach yn rhydd ar dop un o'ch bagiau y gellir eu hailddefnyddio.

Gellir mynd ag eitemau trydanol mwy i’ch Canolfan Ailgylchu a Gwastraff agosaf.