Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth - Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Trwyddedu
Mae delio â gwybodaeth bersonol yn y ffordd gywir gan Gyngor Sir Ddinbych yn bwysig iawn i ddarpariaeth ein gwasanaethau ac i gynnal hyder y cyhoedd.
Data personol yw unrhyw wybodaeth sy’n gysylltiedig ag unigolyn, lle mae modd adnabod yr unigolyn yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r wybodaeth honno. Mae’r termau ‘gwybodaeth’ a ‘data personol’ yn cael eu defnyddio trwy gydol yr hysbysiad preifatrwydd hwn, gyda’r un ystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn delio â gwybodaeth bersonol yn gywir, ceisiwn lynu'n llawn at ofynion y ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Lluniwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn i egluro, mor eglur â phosib, yr hyn a wnawn gyda'ch data personol.
At ba ddibenion y defnyddir eich data personol
Defnyddir y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch i:
- Brosesu a phenderfynu ar geisiadau trwyddedu
- Prosesu hysbysiadau
- Darparu gwybodaeth y gofrestr gyhoeddus
- Ymchwilio i gwynion
- Cynnal gweithgarwch gorfodi rheoleiddio, gan gynnwys gydag asiantaethau partner
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y canlynol:
- Deddf Trwyddedu 2003
- Deddf Hapchwarae 2005
- Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
- Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847
- Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982
- Deddf Casgliadau o Dŷ i Dŷ 1939
- Deddf Heddlu, Ffatrïoedd ayyb. (Darpariaethau Amrywiol) 1916
- Deddf Hypnotiaeth 1952
Os nad ydych yn rhoi’r wybodaeth rydym ei angen pan ofynnwn amdano, gall hyn arwain at anallu'r Cyngor i wneud penderfyniad am eich cais trwyddedu, prosesu eich hysbysiad neu gydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol.
Pa fath o wybodaeth a ddefnyddiwn?
Rydym yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau:
- Enw
- cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Rhyw
- Cyfeirnod unigryw
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Manylion banc/talu
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Manylion Yswiriant Gwladol
- Lluniau/ffotograffau
- Rhif cofrestru’r cerbyd
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Tarddiad ethnig neu hiliol
- Euogfarnau neu droseddau
Ydym ni'n defnyddio gwybodaeth a dderbynnir gan ffynonellau eraill?
Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych yn uniongyrchol, ond rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth gan y ffynonellau allanol canlynol, yn ddibynnol ar y math o drwydded:
- Gwasanaeth Tân ac Achub
- Yr Heddlu
- Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd
- Byrddau Iechyd Lleol y GIG
- Gwasanaethau Mewnfudo
- Llysgenhatai Tramor os ydych yn wladolyn tramor neu wedi byw dramor
- Menter Twyll Genedlaethol
- Cofrestr Genedlaethol o Yrwyr Tacsi
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Cyllid a Thollau EM
- DVLA
- Awdurdodau lleol eraill
Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth gan wasanaethau canlynol y Cyngor:
- Iechyd yr Amgylchedd
- Safonau Masnach
- Cynllunio
- Gwasanaethau Plant
- Adnoddau
- Priffyrdd
- Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau
- Adran y Prif Weithredwr
- Gwasanaethau Cyfreithiol
Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Ni chaiff eich gwybodaeth ei drosglwyddo tu hwnt i’r Deyrnas Unedig.
Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth?
Rhannwn eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau:
- Gwasanaeth Tân ac Achub
- Yr Heddlu
- Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd
- Byrddau Iechyd Lleol y GIG
- Gwasanaethau Mewnfudo
- Llysgenhatai Tramor os ydych yn wladolyn tramor neu wedi byw dramor
- Menter Twyll Genedlaethol
- Cofrestr Genedlaethol o Yrwyr Tacsi
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Cyllid a Thollau EM
- DVLA
- Awdurdodau lleol eraill
Os oes cais neu fater angen cael ei ystyried gan Bwyllgor Trwyddedu’r Cyngor neu is-bwyllgor, bydd gwybodaeth amdanoch yn cael ei glywed yn gyhoeddus.
Mae amgylchiadau penodol eraill lle bydd rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, megis:
- Os yw’r Cyngor yn gorfod darparu’r wybodaeth trwy gyfraith
- Os oes angen datgelu'r wybodaeth er mwyn rhwystro neu ganfod trosedd
- Os yw’r datgeliad er lles hanfodol y person dan sylw
Am ba hyd y cedwir eich gwybodaeth
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth cyhyd â bodolaeth y drwydded neu hyd at 6 mlynedd ar ôl diwedd y cofrestru neu hawliad neu mewn achosion o awdurdodi digwyddiadau mwy gallwn gadw’r wybodaeth am hyd at 20 mlynedd, yn unol â Chanllawiau Cadw’r Cyngor.
Eich hawliau Diogelu Data
Mae hawl gennych i:
- Gael mynediad i’r data personol mae’r Cyngor yn ei brosesu amdanoch
- Cywiro unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn
- Tynnu’ch caniatâd i brosesu yn ôl, os mai hyn yw’r unig sail dros brosesu
- Gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, y corff annibynnol yn y DU sy'n amddiffyn hawliau gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hefyd hawl i:
- Wrthwynebu prosesu'ch gwybodaeth bersonol
- Dileu eich data personol
- Gosod cyfyngiadau ar brosesu'ch gwybodaeth bersonol
- Cludadwyedd data
Manylion Cyswllt
Am ragor o wybodaeth yn ymwneud â’r hysbysiad preifatrwydd hwn a’ch hawliau, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 9AZ
E-bost: dataprotection@denbighshire.gov.uk
Ffôn: 01824 706000
Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghyd â chanllaw pellach ar ddeddfwriaeth Diogelu Data ar :wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (gwefan allanol).
Polisi Cyngor Sir Ddinbych mewn perthynas â cheisiadau am wybodaeth, datgelu gwybodaeth a defnyddio gwybodaeth o ganlyniad i gofnod ar NR3
Yn y polisi hwn, mae’r ‘awdurdod cyntaf’ yn cyfeirio at awdurdod trwyddedu sydd wedi gwneud cofnod penodol ar y Gofrestr Genedlaethol Gwrthodiadau a Dirymiadau; mae’r ‘ail awdurdod’ yn cyfeirio at awdurdod trwyddedu sy’n ceisio gwybodaeth fwy manwl am y cofnod.
Egwyddorion trosfwaol
Mae’r polisi hwn yn ymwneud â’r defnydd y bydd Cyngor Sir Ddinbych (yr "awdurdod") yn ei wneud o’r gallu i gael gafael ar, a defnyddio gwybodaeth sydd ar y Gofrestr Genedlaethol o Wrthodiadau a Dirymiadau Trwyddedau Tacsis (NR3). Mae’r NR3 yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw achos o wrthod caniatáu, neu ddirymu, trwydded gyrrwr tacsis. Trwy gydol y polisi hwn, cyfeirir at ‘drwydded gyrrwr tacsis. Mae’r term generig hwn yn cyfeirio at drwydded gyrrwr cerbyd hacni, trwydded gyrrwr cerbyd hurio preifat a thrwydded gyfuno/ddeuol.
Mae’r wybodaeth hon yn bwysig yng nghyd-destun cais dilynol i awdurdod arall am drwydded yrru gan unigolyn y gwrthodwyd neu y dirymwyd eu trwydded yn y gorffennol.
Mae’r awdurdod hwn wedi cofrestru ar gyfer y NR3. Felly pan fo cais am drwydded yrru tacsi’n cael ei wrthod, neu pan fo trwydded gyrrwr tacsis bresennol yn cael ei dirymu, bydd y wybodaeth honno’n cael ei rhoi ar y gofrestr.
Pan fo cais am drwydded yrru newydd neu gais i adnewyddu trwydded yrru bresennol yn dod i law, bydd yr awdurdod hwn yn chwilio'r NR3. Dim ond swyddog sydd wedi cael ei hyfforddi i ddefnyddio NR3 ac sy'n gweithredu yn unol â'r polisi hwn fydd yn cael chwilio'r gofrestr. Os bydd yn canfod manylion sy’n ymwneud â'r ymgeisydd yn ôl pob golwg, bydd yn gwneud cais am fanylion pellach i'r awdurdod a roddodd y wybodaeth honno ar y gofrestr.
Bydd unrhyw wybodaeth a geir gan unrhyw awdurdod arall mewn perthynas â chais yn cael ei defnyddio mewn perthynas â’r cais hwnnw, ac i benderfynu arno, yn unig. Ni fydd yn cael ei defnyddio er unrhyw ddiben arall. Ni fydd unrhyw ddata a geir yn cael ei gadw am fwy o amser nag sydd ei angen mewn perthynas â phenderfynu ar y cais hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys cyfnod prosesu’r cais hwnnw, gwneud penderfyniad, rhoi gwybod i'r ymgeisydd am y penderfyniad hwnnw a'r broses apelio.
Er osgoi unrhyw amheuaeth, bydd unrhyw ddata o’r fath yn cael ei gadw am 35 diwrnod fan bellaf o ddyddiad cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad am y cais.
Mae’r cyfnod apelio yn para am 21 diwrnod o’r dyddiad y mae’r ymgeisydd/ deiliad trwydded yn cael hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad. Rhaid cyflwyno apêl o fewn y cyfnod amser hwnnw, ac ni chaniateir estyniad i’r cyfnod hwnnw (gweler Stockton-on-Tees Borough Council v Latif [2009] LLR 374). Fodd bynnag, i sicrhau bod y wybodaeth ar gael os bydd apêl yn cael ei chyflwyno a bod anghydfod ynghylch cyfnodau amser, pennir cyfnod o 35 diwrnod.
Pan wneir apêl i lys ynadon, bydd y data’n cael ei gadw nes y bydd yr apêl honno’n cael ei phenderfynu neu ei gollwng. Os mai llys ynadon sy’n penderfynu ar yr apêl, mae gan yr ymgeisydd hawl pellach i apelio i Lys y Goron. Dan yr amgylchiadau hyn, bydd y data’n cael ei gadw am 35 diwrnod fan bellaf o ddyddiad penderfyniad y llys ynadon. Os gwneir apêl i Lys y Goron, bydd y data’n cael ei gadw hyd nes y bydd yr apêl honno’n cael ei phenderfynu neu ei gollwng. P'un ai yw'r apêl yn cael ei phenderfynu gan lys ynadon neu Lys y Goron, mae'n bosib apelio'r penderfyniad drwy achos datganedig.
Rhaid cyflwyno unrhyw apêl drwy achos datganedig o fewn 21 diwrnod i benderfyniad y llys ynadon neu Lys y Goron (gweler Rheolau Trefniadaeth Droseddol R35.2). I sicrhau fod y wybodaeth ar gael os cyflwynir apêl drwy achos datganedig, a bod anghydfod ynghylch cyfnodau amser, pennir cyfnod o 35 diwrnod.
O ganlyniad, bydd y data’n cael ei gadw am 35 diwrnod fan bellaf o ddyddiad penderfyniad Llys y Goron (os gwnaed y penderfyniad gan y llys ynadon, mae’r cyfnod cadw eisoes wedi’i nodi). Os gwneir apêl drwy achos datganedig, bydd y data’n cael ei gadw hyd nes bydd pob achos llys sy’n gysylltiedig â’r apêl honno drwy achos datganedig (fydd yn cynnwys apeliadau posib i’r Llys Apêl a’r Goruchaf Lys) wedi cael eu penderfynu.
Mae penderfyniadau’r awdurdod lleol, y llys ynadon a Llys y Goron hefyd yn agored i adolygiad barnwrol. Yn gyffredinol, dylid arfer unrhyw hawl apelio yn hytrach nag adolygiad barnwrol, ond mae achosion wedi codi lle caniatawyd adolygiad barnwrol dan yr amgylchiadau. Rhaid gwneud unrhyw gais am adolygiad barnwrol yn "brydlon; ac mewn unrhyw achos, ddim hwyrach na 3 mis ar ôl i’r sail dros wneud y cais godi gyntaf" (gweler Rheolau Trefniadaeth Sifil R54.5). Os gwneir cais am adolygiad barnwrol ar ôl i unrhyw ddata perthnasol gael ei ddinistrio, bydd yr awdurdod hwn yn gwneud cais am y wybodaeth eto, ac yna’n cadw’r wybodaeth honno hyd nes bydd pob achos llys sy’n gysylltiedig â’r adolygiad barnwrol hwnnw (fydd yn cynnwys apeliadau posib i’r Llys Apêl a’r Goruchaf Lys) wedi cael eu penderfynu.
Bydd y data’n cael ei gadw’n ddiogel yn unol â pholisi cyffredinol yr awdurdod hwn ar gadw data personol yn ddiogel. Ar ddiwedd y cyfnod cadw, bydd y data’n cael ei ddileu ac/neu ei ddinistrio yn unol â pholisi cyffredinol yr awdurdod hwn ar ddileu a dinistrio data personol.
Gwneud cais am wybodaeth bellach mewn perthynas â chofnod ar NR3
Mae’r adran hon yn ymwneud â chyflwyno cais gan ail awdurdod.
Pan fydd yr awdurdod hwn yn cael cais am drwydded gyrrwr tacsis newydd, neu adnewyddu trwydded o'r fath, bydd yr awdurdod hwn yn gwirio'r NR3.
Bydd yr awdurdod hwn yn gwneud ac yna’n cadw cofnod ysgrifenedig (Gall hwn fod yn gofnod electronig yn hytrach na chopi caled "papur a phensil") eglur o bob chwiliad a wnaed o’r gofrestr. Bydd hwn yn cynnwys:
- dyddiad y chwiliad
- yr enw neu’r enwau y chwiliwyd amdanynt
- rheswm dros y chwiliad (cais newydd neu gais i adnewyddu)
- canlyniad y chwiliad
- defnydd a wnaed o ganlyniadau’r chwiliad (bydd y wybodaeth hon yn cael ei nodi ar y gofrestr yn nes ymlaen)
Ni fydd y cofnod hwn yn cael ei gyfuno ag unrhyw gofnodion eraill (h.y. ei gyfuno â chofrestr o drwyddedau a ganiatawyd), a bydd yn cael ei gadw am y cyfnod cadw o 25 mlynedd.
Os bydd yr awdurdod hwn yn canfod unrhyw ddata perthnasol (h.y. mae yna gofnod yn y gofrestr o’r un enw a manylion adnabod), bydd yn gwneud cais i'r awdurdod a gofnododd y manylion hynny (yr awdurdod cyntaf) i gael manylion pellach am y cofnod hwnnw. Bydd y cais hwnnw hefyd yn cynnwys manylion polisi diogelu data’r awdurdod hwn mewn perthynas â defnyddio unrhyw ddata a geir o ganlyniad i’r broses hon.
Bydd y cais hwn yn cael ei wneud gan ddefnyddio ffurflen a gymeradwywyd. Caiff ei bostio neu ei anfon dros e-bost i gyfeiriad cyswllt yr awdurdod a gofnododd y manylion hynny (yr awdurdod cyntaf), fydd i’w gweld yn y gofrestr.
Ymateb i gais am wybodaeth bellach mewn perthynas â chofnod ar NR3
Mae’r adran hon yn ymwneud ag ymdriniaeth yr awdurdod cyntaf o gais am wybodaeth gan yr ail awdurdod.
Pan fydd yr awdurdod hwn yn cael cais am wybodaeth bellach gan awdurdod arall, bydd cofnod ysgrifenedig eglur yn cael ei wneud o dderbyn y cais. Ni fydd y cofnod hwn yn cael ei gyfuno ag unrhyw gofnodion eraill (h.y. ei gyfuno â chofrestr o drwyddedau a ganiatawyd), a bydd yn cael ei gadw am y cyfnod cadw o 25 mlynedd. Gellir cyfuno’r cofnod hwn gyda’r cofnod ysgrifenedig o’r camau a gymerwyd o ganlyniad i’r cais.
Yna, bydd yr awdurdod hwn yn penderfynu sut i ymateb i’r cais. Mae’n anghyfreithlon darparu gwybodaeth fel ymateb cynhwysfawr i bob cais.
Bydd yr awdurdod hwn yn cynnal Asesiad o Effaith ar Ddiogelu Data. Bydd hwn yn ystyried sut y bydd yr awdurdod arall (yr ail awdurdod) yn defnyddio’r data, sut y bydd yn storio’r data hwnnw i osgoi ei ddatgelu heb awdurdod, cyfnod cadw’r data hwnnw a’r broses ar gyfer dileu neu ddinistrio’r data ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Os yw’r ail awdurdod wedi mabwysiadu polisi tebyg i hwn, disgwylir i’r broses hon fod yn ddigon syml.
Os yw’r awdurdod hwn yn fodlon gyda gweithdrefnau diogelu data’r awdurdod arall (yr ail awdurdod), yna bydd yn ystyried pa wybodaeth fydd yn cael ei datgelu (os nad yw’r awdurdod cyntaf yn fodlon â pholisi diogelu data’r ail awdurdod, ni all ddatgelu unrhyw wybodaeth. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n hanfodol bod trafodaethau’n cael eu cynnal ar unwaith rhwng swyddogion diogelu data’r awdurdod cyntaf a’r ail awdurdod). Swyddog sydd wedi’i hyfforddi i gyflawni’r swyddogaeth hon fydd yn penderfynu hyn.
Rhaid i unrhyw ddatgeliad fod yn ystyriol ac yn gymesur, gan ystyried hawliau gwrthrychau’r data a safle a chyfrifoldebau gyrrwr tacsis. Cedwir data ar y gofrestr NR3 am gyfnod o 25 mlynedd, ond ni fydd yr awdurdod hwn (yr awdurdod cyntaf) yn datgelu gwybodaeth mewn perthynas â phob cofnod. Caiff pob cais ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun.
Bydd yr awdurdod hwn yn datgelu gwybodaeth sy’n ymwneud â dirymu neu wrthod trwydded gyrrwr tacsis yn unol â’r terfynau amser sydd i’w gweld yn y Datganiad Polisi o ran Addasrwydd Ymgeiswyr a Deiliaid Trwydded yn y Masnachau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.
Polisïau trwyddedau, hawlenni a safonau masnach
Pan fo’r rheswm dros wrthod neu ddirymu trwydded yn ymwneud ag euogfarn (neu debyg a ddiffinnir yn y Polisi) sydd o fewn y terfynau amser a bennir yn y canllawiau hynny, bydd y wybodaeth yn cael ei datgelu. Pan fo’r rheswm dros wrthod neu ddirymu trwydded yn ymwneud ag euogfarn (neu debyg a ddiffinnir yn y Polisi) sydd y tu hwnt i’r terfynau amser a bennir yn y canllawiau hynny, ni fydd y wybodaeth yn cael ei datgelu. Fodd bynnag, ym mhob achos, rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau llawn y penderfyniad, ac efallai y bydd achlysuron yn codi lle darperir gwybodaeth ar wahân i'r hyn sy'n unol â'r polisi hwn.
Bydd unrhyw wybodaeth am euogfarnau’n cael ei rhannu yn unol â’r polisi hwn dan ran 2 atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018; hynny yw, mae’r prosesu’n angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd mewn cysylltiad ag ymarfer swyddogaeth a roddwyd i’r awdurdod drwy ddeddfiad neu reol gyfreithiol.
Bydd y swyddog yn cofnodi pa gamau a gymerwyd a pham. Bydd yr awdurdod hwn yn gwneud ac yna'n cadw cofnod ysgrifenedig (Gall hwn fod yn gofnod electronig yn hytrach na chopi caled papur a phensil) eglur o bob penderfyniad a wneir o ganlyniad i gais gan awdurdod arall. Bydd hwn yn cynnwys:
- dyddiad y daeth y cais i law
- sut y cynhaliwyd yr asesiad o effaith ar ddiogelu data, a’i gasgliadau
- yr enw neu’r enwau y chwiliwyd amdanynt
- a ddarparwyd unrhyw wybodaeth ai peidio
- os darparwyd gwybodaeth, pam y cafodd ei darparu (a manylion unrhyw gyngor pellach a gafwyd cyn gwneud y penderfyniad)
- os na ddarparwyd gwybodaeth, pam na chafodd ei darparu (a manylion unrhyw gyngor pellach a gafwyd cyn gwneud y penderfyniad) a
- sut a phryd y cafodd y penderfyniad (ac unrhyw wybodaeth) ei gyfleu i’r awdurdod a wnaeth y cais
Ni fydd y cofnod hwn yn cael ei gyfuno ag unrhyw gofnodion eraill (h.y. ei gyfuno â chofrestr o drwyddedau a ganiatawyd), a bydd yn cael ei gadw am y cyfnod cadw o 25 mlynedd.
Defnyddio unrhyw wybodaeth a gafwyd o ganlyniad i wneud cais i awdurdod arall
Pan fydd yr awdurdod hwn yn cael gwybodaeth o ganlyniad i gais a wnaed i awdurdod arall, bydd yn rhoi ystyriaeth i’r wybodaeth honno wrth benderfynu ar y cais am drwydded neu i adnewyddu trwydded gyrrwr tacsis. Bydd hyn yn unol â’r broses arferol o benderfynu ar geisiadau a amlinellir yn y Datganiad Polisi o ran Addasrwydd Ymgeiswyr a Deiliaid Trwydded yn y Masnachau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.
Bydd yr awdurdod hwn yn gwneud ac yna’n cadw cofnod ysgrifenedig eglur o’r defnydd a wneir o ganlyniadau’r chwiliad hwn (bydd y wybodaeth hon yn cael ei hychwanegu at y gofrestr a nodir uchod).
Gallai gwybodaeth a geir gyfiawnhau rhoi cryn bwys arno, ond nid dyma fydd unig sail unrhyw benderfyniad y bydd yr awdurdod hwn yn ei wneud mewn perthynas â’r cais.