Pam ein bod ni'n newid casgliadau gwastraff ac ailgylchu

Services and information

  • Rydym ni’n cyflwyno newidiadau i’n gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu i’w gwneud hi’n haws i aelwydydd ailgylchu hyd yn oed mwy gartref.
  • Bydd gwahanu deunyddiau gartref yn gwella ansawdd yr ailgylchu rydym ni’n ei gasglu a bydd hefyd yn golygu bod mwy o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn aros yn y DU ac yn cael eu hailgylchu fel cynnyrch newydd.
  • Mae ailgylchu mwy a lleihau gwastraff yn well i’n hamgylchedd, gan olygu ein bod yn lleihau ein hallyriadau carbon a helpu i atal newid hinsawdd.
  • Yn rhan o 'Strategaeth Mwy nag Ailgylchu' Llywodraeth Cymru, mae disgwyl i ni ailgylchu 70% o’r gwastraff rydym ni’n ei gasglu erbyn 2025.

Ailgylchu


Gyda chyfradd ailgylchu genedlaethol o dros 65%, Cymru yw un o’r gwledydd ailgylchu gorau yn y byd. Yn bennaf mae hyn wedi digwydd am fod pobl yn ailgylchu gartref ym mhob rhan o Gymru, a gyda’i gilydd mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn genedlaethol.

Yn rhan o Strategaeth Mwy nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru (gwefan allanol), mae disgwyl i Gyngor Sir Ddinbych ailgylchu 70% o’r gwastraff mae’n ei gasglu erbyn 2025.

Mae ailgylchu a rheoli ein gwastraff yn ein cynorthwyo i edrych ar ôl ein planed trwy leihau ein hôl-troed carbon. Mae hefyd yn helpu ni i roi hwb i Economi Gylchol Cymru trwy ailddefnyddio pethau a darparu adnoddau sydd wedi’u hailgylchu i greu cynnyrch newydd, sydd yn defnyddio llawer llai o ynni na phrosesu deunyddiau newydd, crai.

Rydym ni’n mynd i wynebu’r her hon drwy gasglu mwy o ddeunydd ailgylchu bob wythnos. Bydd y gwasanaeth newydd, estynedig yn gadael i bobl ailgylchu popeth y gallant a defnyddio eu cynwysyddion gwastraff na ellir eu hailgylchu ar gyfer deunyddiau na allwn ni eu prosesu ar hyn o bryd. Bydd ein dull newydd yn helpu i gadw mathau gwahanol o ailgylchu ar wahân, gwella ansawdd yr ailgylchu rydym ni’n ei gasglu, er mwyn i fwy o’r deunyddiau yma gael eu defnyddio fel cynnyrch newydd o fewn economi'r DU.

Mae ein gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei anfon i safle troi gwastraff yn ynni yng Nglannau Dyfrdwy (gwefan allanol), lle caiff ei losgi’n ddiogel a’i ddefnyddio i wneud trydan. Mae’r broses hon yn golygu mai dim ond canran fechan o wastraff sydd angen ei anfon i safle tirlenwi, sydd yn ei dro yn cyfyngu ar ryddhau methan (nwy tŷ gwydr cryf), ac yn atal cemegau a meicroblastigau rhag llygru’r tir.

Yn Sir Ddinbych, mae’n rhaid ailgylchu’r holl wastraff bwyd ac ni ellir ei roi yn eich bin gwastraff na ellir ei ailgylchu. Yn ffodus, mae gennym ni gyfleuster treulio anaerobig (gwefan allanol), lle caiff gwastraff bwyd ei dreulio i gynhyrchu ‘bio-nwy’, sy’n cael ei gasglu a’i ddefnyddio i gynhyrchu ‘ynni gwyrdd’ sy’n pweru cartrefi a chymunedau. Mae hefyd yn cynhyrchu bio-wrtaith y gellir ei ddefnyddio ym myd ffermio ac ar gyfer adfywio’r tir.


Dyluniad eicon gan Freepik (gwefan allanol)