Casgliadau gwastraff ac ailgylchu: Be' sy'n newid?

O ddydd Llun 3 Mehefin 2024, rydym ni’n cyflwyno newidiadau i’r casgliadau gwastraff ac ailgylchu canlynol:

Gwasanaeth bin ar olwynion

Bydd newidiadau i'r gwasanaeth bin ar olwynion yn effeithio ar oddeutu 44,500 o aelwydydd.

Gwasanaeth bin ar olwynion presennol

Mae'r gwasanaeth bin ar olwynion presennol ar gyfer aelwydydd yn cynnwys:

  • Hyd at 240 litr o ddeunyddiau ailgylchu sych cymysg a gesglir o fin glas ar olwynion (bob pythefnos).
  • Hyd at 140 litr o ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu o fin du ar olwynion (bob pythefnos).
  • Hyd at 23 litr o wastraff bwyd o gadi gwastraff bwyd oren (bob wythnos). Darperir cadi bach arian i’w ddefnyddio yn y tŷ yn ystod yr wythnos.

Bin glas ar olwynion

Bin glas ar olwynion

Ar gyfer deunyddiau ailgylchu sych cymysg (bob pythefnos).

Bin du ar olwynion

Bin du ar olwynion

Ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu (bob pythefnos).

Cadi oren

Cadi oren

Ar gyfer gwastraff bwyd (bob wythnos) (a chadi bach arian ar gyfer y tŷ).

Gwasanaeth newydd

Bydd y gwasanaeth newydd ar gyfer aelwydydd yn cynnwys:

  • Hyd at 290 litr o ddeunydd ailgylchu wedi'i ddidoli bob wythnos, o:
    • System wahanu'r Trolibocs (deunyddiau ailgylchu sych ac eitemau trydanol bychain).
    • Bag glas amldro (ar gyfer ailgylchu cardbord).
    • Clip batris pinc (ar gyfer batris tŷ).
  • Hyd at 23 litr o wastraff bwyd i’w ailgylchu mewn cadi oren (neu un du efo caead oren o 2023 ymlaen) (ar gyfer gwastraff bwyd) a chadi bach arian i'w gadw yn y tŷ yn ystod yr wythnos.
  • Hyd at 240 litr o ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu bob 4 wythnos, o'ch bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion presennol. Byddwn yn darparu bin 240 litr ar olwynion i unrhyw aelwyd sydd heb un.
  • Casgliadau tecstilau bob 4 wythnos, mewn sachau gwyn untro. Darperir y gwasanaeth hwn gan Fenter Gymdeithasol Co-Options.
  • Hyd at 40 litr o gynnyrch hylendid amsugnol fel clytiau a gwastraff anymataliaeth bob wythnos, o gadi du gyda chaead porffor. Mae casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol yn wasanaeth am ddim dewisol, ac mae angen cofrestru ar ei gyfer.

Trolibocs

Trolibocs

Ar gyfer ailgylchu deunyddiau sych wedi’u didoli ac eitemau trydanol bychain (bob wythnos).

Bag glas amldro

Bag glas amldro

Ar gyfer ailgylchu cardbord (bob wythnos).

Clip batris pinc amldro

Clip batris pinc amldro

Ar gyfer batris tŷ (bob wythnos).

Cadi oren

Cadi oren

Ar gyfer gwastraff bwyd (bob wythnos) a chadi bach arian ar gyfer y tŷ.


Bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion

Bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion

Ar gyfer deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu (bob 4 wythnos), o'ch bin glas neu ddu 240 litr ar olwynion presennol.

Sach gwyn untro

Sach gwyn untro

Ar gyfer casgliadau tecstilau (bob 4 wythnos). Gwasanaeth dewisol.

Cadi du (gyda chaead porffor)

Cadi du (gyda chaead porffor)

Ar gyfer casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol (bob wythnos). Gwasanaeth dewisol. Mae'n rhaid cofrestru.

Gwasanaeth casglu gwastraff nad oes modd ei ailgylchu (gwasanaeth bin ar olwynion)

Bydd pob cartref sy’n derbyn y gwasanaeth bin ar olwynion yn defnyddio bin 240 litr ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Os oes gennych fin du ar olwynion 140/180 litr a bin glas mwy ar olwynion 240 litr:

  • Defnyddiwch eich bin glas mwy ar olwynion 240 litr ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
  • Gosodwch y sticer (wedi’i gynnwys yn eich pecyn gwybodaeth) ar y bin hwn a fydd yn ei wneud yn amlwg i ni pa un y byddwch yn ei gadw.
  • Rhowch gorau i ddefnyddio’r bin du ar olwynion 140/180 litr gan wneud yn siŵr ei fod yn wag.
  • Byddwn yn casglu eich bin du ar olwynion 140/180 litr gwag rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Gwener 2 Awst 2024.

Os oes gennych fin du ar olwynion 240 litr a bin glas ar olwynion 240 litr:

  • Defnyddiwch y bin ar olwynion 240 litr sydd yn y cyflwr gorau ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
  • Gosodwch y sticer (wedi’i gynnwys yn eich pecyn gwybodaeth) ar y bin hwn a fydd yn ei wneud yn amlwg i ni pa un y byddwch yn ei gadw.
  • Rhowch gorau i ddefnyddio’r bin ar olwynion 240 litr arall a gwnewch yn siŵr ei fod yn wag.
  • Byddwn yn casglu eich bin ar olwynion 240 litr gwag arall rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Gwener 2 Awst 2024.

Byddwn yn dosbarthu bin 240 litr ar olwynion i gartrefi ar y gwasanaeth bin ar olwynion sydd heb un.

Rhagor o wybodaeth am y newidiadau i’r gwasanaeth casglu gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Gwasanaeth bagiau

Bydd newidiadau i'r gwasanaeth bagiau yn effeithio ar oddeutu 1,400 o aelwydydd. Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer eiddo sy’n anaddas i gael cynwysyddion ar olwynion.

Gwasanaeth bagiau presennol

Mae'r gwasanaethau bagiau presennol yn cynnwys:

  • Hyd at ddwy sach untro glir ar gyfer deunyddiau ailgylchu sych cymysg (bob pythefnos).
  • Hyd at ddwy sach untro binc ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu (bob pythefnos).
  • Hyd at 23 litr o wastraff bwyd o gadi gwastraff bwyd oren (bob wythnos). Darperir cadi bach arian i'w ddefnyddio yn y tŷ yn ystod yr wythnos.

Sach glir

Sach glir

Ar gyfer deunydd ailgylchu sych cymysg (bob pythefnos) Sachau untro.

Sachau pinc

Sachau pinc

Ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu (bob pythefnos). Sachau untro.

Cadi oren

Cadi oren

Ar gyfer gwastraff bwyd (bob wythnos) a chadi bach arian ar gyfer y tŷ.

Gwasanaeth bagiau newydd

Bydd y gwasanaeth bagiau newydd ar gyfer aelwydydd yn cynnwys:

  • Gwasanaeth casglu deunyddiau ailgylchu wedi'u ddidoli bob wythnos, yn defnyddio:
    • Bag glas tywyll amldro ar gyfer ailgylchu papur.
    • Bag coch amldro ar gyfer ailgylchu caniau metel, tuniau, ffoil a photeli, potiau, tybiau, hambyrddau a chartonau plastig.
    • Bag gwyrddlas amldro ar gyfer ailgylchu poteli a jariau gwydr.
    • Bag glas amldro ar gyfer ailgylchu cardbord.
    • Cadi oren (neu un du efo caead oren o 2023 ymlaen) (ar gyfer gwastraff bwyd) a chadi bach arian i’w gadw yn y tŷ yn ystod yr wythnos.
    • Bag plastig untro (ar gyfer batris tŷ).
  • Eitemau trydanol bach (bob wythnos)
  • Bag du amldro yn cynnwys 1 sach binc untro ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob wythnos. (Darperir rholyn o sachau pinc untro, ynghyd â sach ddu amldro.)
  • Casgliadau tecstilau bob 4 wythnos, mewn sachau gwyn untro. Darperir y gwasanaeth hwn gan Fenter Gymdeithasol Co-Options.
  • Hyd at 40 litr o gynnyrch hylendid amsugnol fel clytiau a gwastraff anymataliaeth bob wythnos, o gadi du gyda chaead porffor. Mae casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol yn wasanaeth am ddim dewisol, ac mae angen cofrestru ar ei gyfer.

Bag glas tywyll amldro

Bag glas tywyll amldro

Ar gyfer ailgylchu papur (bob wythnos).

Bag coch
amldro

Bag coch amldro

Ar gyfer ailgylchu caniau metel, tuniau, ffoil a photeli, potiau, tybiau, hambyrddau a chartonau plastig (bob wythnos).

Bag gwyrddlas
amldro

Bag gwyrddlas amldro

Ar gyfer ailgylchu poteli a jariau gwydr (bob wythnos).

Bag glas amldro

Bag glas amldro

Ar gyfer ailgylchu cardbord (bob wythnos).


Cadi oren

Cadi oren

Ar gyfer gwastraff bwyd (bob wythnos) a chadi bach arian ar gyfer y tŷ.

Bag plastig untro

Bag plastig untro

Ar gyfer batris tŷ (bob wythnos).

Bag du amldro a sach binc

Bag du amldro a sach binc

Ar gyfer hyd at ddwy sach binc untro o wastraff nad oes modd ei ailgylchu (bob wythnos).

Sach gwyn untro

Sach gwyn untro

Ar gyfer casgliadau tecstilau (bob 4 wythnos). Gwasanaeth dewisol.


Cadi du (gyda chaead porffor)

Cadi du (gyda chaead porffor)

Ar gyfer casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol (bob wythnos). Gwasanaeth dewisol. Mae'n rhaid cofrestru.

Gwasanaeth biniau cymunedol

Bydd y newidiadau i'r gwasanaeth biniau cymunedol yn effeithio ar oddeutu 1,800 o aelwydydd.

Gwasanaeth biniau cymunedol presennol

Mae'r gwasanaethau biniau cymunedol presennol yn cynnwys:

  • Casgliadau deunyddiau ailgylchu sych cymysg o fin glas 4 olwyn (bob pythefnos).
  • Casgliadau gwastraff bwyd o fin brown ar olwynion (bob wythnos). Darperir cadi bach arian i’w ddefnyddio yn y tŷ yn ystod yr wythnos.
  • Casgliadau deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu o fin du 4 olwyn (bob pythefnos).

Bin glas 4
olwyn

Bin glas 4 olwyn

Ar gyfer deunyddiau ailgylchu sych cymysg (bob pythefnos).

Bin brown ar
olwynion

Bin brown ar olwynion

Ar gyfer gwastraff bwyd (bob wythnos) (a chadi bach arian ar gyfer y tŷ).

Bin du 4
olwyn

Bin du 4 olwyn

Ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu (bob pythefnos).

Y gwasanaeth biniau cymunedol newydd

Bydd y gwasanaethau biniau cymunedol newydd yn cynnwys:

  • Bin du gyda sticer glas tywyll ar gyfer ailgylchu papur (bob wythnos).
  • Bin du gyda sticer coch ar gyfer ailgylchu caniau metel, tuniau, ffoil a photeli, potiau, tybiau, hambyrddau a chartonau plastig (bob wythnos).
  • Bin du gyda sticer gwyrddlas ar gyfer ailgylchu poteli a jariau gwydr (bob wythnos).
  • Bin du gyda sticer glas ar gyfer ailgylchu cardbord (bob wythnos).
  • Gwastraff nad oes modd ei ailgylchu o fin du ar 4 olwyn (bob 4 wythnos).
  • Casgliadau gwastraff bwyd o fin brown ar olwynion (bob wythnos). Darperir cadi bach arian i’w ddefnyddio yn y tŷ yn ystod yr wythnos.
  • Casgliadau tecstilau bob 4 wythnos, mewn sachau gwyn untro. Darperir y gwasanaeth hwn gan Fenter Gymdeithasol Co-Options.
  • Hyd at 40 litr o gynnyrch hylendid amsugnol fel clytiau a gwastraff anymataliaeth bob wythnos, o gadi du gyda chaead porffor. Mae casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol yn wasanaeth am ddim dewisol, ac mae angen cofrestru ar ei gyfer.
  • Bag plastig untro (ar gyfer batris tŷ).
  • Eitemau trydanol bach (bob wythnos)

Bin du gyda sticer glas tywyll

Bin du gyda sticer glas tywyll

Ar gyfer ailgylchu papur (bob wythnos).

Bin du gyda sticer coch

Bin du gyda sticer coch

Ar gyfer ailgylchu caniau metel, tuniau, ffoil a photeli, potiau, tybiau, hambyrddau a chartonau plastig (bob wythnos).

Bin du gyda sticer gwyrddlas

Bin du gyda sticer gwyrddlas

Ar gyfer ailgylchu poteli a jariau gwydr (bob wythnos).

Bin du gyda sticer glas

Bin du gyda sticer glas

Ar gyfer ailgylchu cardbord (bob wythnos).

Bin du 4
olwyn

Bin du 4 olwyn

Ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu (bob 4 wythnos).

Bin brown ar
olwynion

Bin brown ar olwynion

Ar gyfer gwastraff bwyd (bob wythnos) (a chadi bach arian ar gyfer y tŷ).

Sach gwyn untro

Sach gwyn untro

Ar gyfer casgliadau tecstilau (bob 4 wythnos). Gwasanaeth dewisol.

Cadi du (gyda chaead porffor)

Cadi du (gyda chaead porffor)

Ar gyfer casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol (bob wythnos). Gwasanaeth dewisol. Mae’n rhaid cofrestru.

Bag plastig untro

Bag plastig untro

Ar gyfer batris tŷ (bob wythnos).

Be' sy'n aros yr un fath?

  • Casgliadau gwastraff bwyd. Byddwn yn parhau i gasglu gwastraff bwyd bob wythnos yn ôl yr arfer.
  • Casgliadau gwastraff gardd. Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth taladawy yma, fe fyddwn ni’n parhau i gasglu eich gwastraff gardd, serch hynny, efallai y bydd eich diwrnod casglu yn newid ar gyfer y gwasanaeth yma.
  • Casgliadau eitemau swmpus. Does dim newid i'r gwasanaeth hwn.
  • Casgliadau gyda chymorth. Does dim newid i'r gwasanaeth hwn.

Tudalennau cysylltiedig