Newidiadau'n ymwneud ag ailgylchu a gwastraff: Gwasanaeth casglu tecstilau

Tecstilau

Gallwch ailgylchu tecstilau nad ydych eu hangen gan ddefnyddio gwasanaeth casglu newydd am ddim a ddarperir gan ein partner, Menter Gymdeithasol Co-Options (gwefan allanol).

Casgliadau tecstilau

Mae gan pob Siop Un Alwad yn y sir bellach fagiau ar gyfer ailgylchu tecstiliau sy’n barod i drigolion eu casglu. O ganlyniad i amgylchiadau tu hwnt i’n rheolaeth, doedd y bagiau ddim ar gael i’w dosbarthu gyda’r Trolibocs neu’r bagiau ailgylchu, ac ymddiheurwn am hyn.

Mae rhestr lawn o’r hyn a dderbynir ar y canllaw A-Y arlein.

Dylid trefnu casgliadau’n uniongyrchol gyda Co-Options (mae’r manylion cyswllt ar y bagiau), neu gellir eu cymryd i un o’u banciau dillad yn y lleoliadau canlynol:

  • Mae parcio Tŷ Nant, Prestatyn, LL19 7LE
  • Maes parcio Stryd Fawr Isaf, Prestatyn, LL19 8RP
  • Ysgol y Llys, Prestatyn, LL19 9LG
  • Llyfrgell Rhuddlan, LL18 2UE
  • Llyfrgell Llanelwy, LL17 0LU
  • Neuadd Pentref Trefnant, LL16 5UG
  • Maes parcio Ffordd y Parc, Rhuthun, LL15 1NB
  • Maes parcio Corwen, LL21 0DN

Rhowch unrhyw decstilau nad ydych eu hangen yn y sach, gan gynnwys dillad ac esgidiau, ac yna ei glymu’n ddiogel a’i roi allan i’w gasglu ar y dyddiad casglu y cytunwyd arno. Gallwch roi faint fynnwch chi o sachau gwyn untro ar gyfer tecstilau allan i’w casglu.


Sach gwyn untro

Sach gwyn untro

Tecstilau

Ie, plîs:
  • Dillad oedolion a phlant
  • Esgidiau
  • Bagiau llaw
  • Beltiau
  • Cyrtens
  • Dillad gwely
Dim diolch:
  • Duvets neu gwiltiau*
  • Gobennydd*
  • Sachau cysgu*
  • Wadin tu mewn clustogau*
  • Carpedi*

* Ewch â'r eitemau hyn i'ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.