Newidiadau'n ymwneud ag ailgylchu a gwastraff: Cwestiynau Cyffredin 

  1. Beth sy'n newid?
  2. Pryd fydd y newidiadau'n digwydd?
  3. Pam ydych chi'n gwneud y newidiadau hyn?
  4. Beth sy'n aros yr un fath?
  5. A fydd fy niwrnod casglu yn newid?
  6. Pryd fydda i'n derbyn fy nghynwysyddion newydd?
  7. Sut dylwn i storio fy nghynwysyddion newydd?
  8. Beth ddylwn i ei wneud gyda fy hen fin ar olwynion?
  9. Oes modd i mi gael mwy o gynwysyddion ailgylchu?
  10. Sut ddylwn i ddidoli fy neunyddiau ailgylchu yn y cartref?
  11. Mae angen cymorth arna i gyda didoli ac ailgylchu fy ngwastraff. Allwch chi fy helpu?
  12. Beth yw 'deunyddiau ailgylchu sych'?
  13. Beth yw'r 'Trolibocs'?
  14. Beth ddylwn i ei roi ymhle?
  15. Rwyf angen cael gwared ar gynnyrch hylendid (megis clytiau, weips neu gynnyrch anymataliaeth). Beth ddylwn i ei wneud â'r rhain?
  16. Beth ddylwn i ei wneud â hen fatris y cartref?
  17. Beth ddylwn i ei wneud ag eitemau trydanol bach?
  18. Beth ddylwn i ei wneud â dillad a thecstilau?
  19. Beth ddylwn i ei wneud â gwastraff nad oes modd ei ailgylchu?
  20. Beth ddylwn i ei wneud â phapur?
  21. Beth ddylwn i ei wneud â chardfwrdd?
  22. Beth ddylwn i ei wneud â metelau cymysg, plastigau a chartonau?
  23. Beth ddylwn i ei wneud gyda photeli a jariau gwydr?
  24. Beth ddylwn i ei wneud gyda gwastraff bwyd?
  25. Sut ddylwn i gyflwyno fy neunyddiau ailgylchu a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu i’w casglu?
  26. Ni allaf roi fy neunyddiau ailgylchu a’m gwastraff nad oes modd ei ailgylchu allan i’w gasglu. Allwch chi fy helpu gyda hyn?
  27. Rwyf yn derbyn 'casgliad â chymorth' ar hyn o bryd. A fydd hyn yn parhau?
  28. A fydd casgliadau gwastraff gardd yn newid?
  29. Pam eich bod chi’n casglu fy ngwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn llai aml?
  30. Oni fydd casglu fy ngwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn llai aml yn arwain at arogleuon, pryfaid, plâu neu fermin?
  31. Oni fydd casglu fy ngwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn llai aml yn arwain at fwy o dipio anghyfreithlon?
  32. Beth arall sy'n gallu cael ei ailgylchu yn Sir Ddinbych?
  33. Beth ddylwn i ei wneud â gwastraff swmpus?
  34. Beth ddylwn i wneud â gwastraff anifeiliaid anwes?
  35. Beth sy’n digwydd i’m deunyddiau ailgylchu ar ôl i chi eu casglu?
  36. Beth fydd yn digwydd os byddaf yn rhoi’r eitemau anghywir yn fy nghynwysyddion ailgylchu trwy ddamwain?
  37. Beth fydd yn digwydd os na fydda i'n ailgylchu fy ngwastraff?
  38. Pam eich bod wedi casglu rhywfaint o fy neunyddiau ailgylchu a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu, ond nid y cyfan?
  39. Pam fod y Cyngor yn gwario ar Orsaf Trosglwyddo Gwastraff a Throlibocsys newydd pan mae'n wynebu heriau ariannol?
  40. Faint yw cost y newidiadau?
  41. Mae fy min ailgylchu glas bob amser yn llawn - a fydd gan y Trolibocs newydd ddigon o le ar gyfer yr hyn sydd angen i mi ei ailgylchu?

  42. Pam mae'r trolibocs a'r bagiau newydd yn cael eu dosbarthu nawr?


1. Beth sy'n newid?

O ddydd Llun 3 Mehefin 2024, byddwn yn cyflwyno newidiadau i’ch casgliadau gwastraff ac ailgylchu:

  • Casgliadau ailgylchu wythnosol: Bydd angen i chi ddidoli eich deunyddiau ailgylchadwy i gynwysyddion newydd a bydd eich ailgylchu yn cael ei gasglu bob wythnos.
  • Casgliadau gwastraff nad oes modd ei ailgylchu:
    • Cesglir gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob 4 wythnos ar gyfer cartrefi sy’n derbyn y gwasanaeth safonol (bin ar olwynion).
    • Cesglir gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob wythnos ar gyfer cartrefi sy’n derbyn y gwasanaeth bagiau.
    • Ar gyfer cartrefi sy’n derbyn y gwasanaeth biniau cymunedol: Bydd gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn cael ei gasglu bob 4 wythnos.
Beth sy'n newid: Gwasanaeth safonol (bin ar olwynion)

Beth sy'n newid: Gwasanaeth safonol (bin ar olwynion)

O ddydd Llun, 3 Mehefin 2024:

  • Casgliadau ailgylchu wythnosol: Byddwn yn casglu eich Trolibocs newydd a’ch cynwysyddion bagiau glas amldro ar gyfer eich ‘deunyddiau ailgylchu sych’ bob wythnos, yn ogystal â’ch cadi gwastraff bwyd.
  • Casgliadau gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob 4 wythnos: Byddwn yn casglu gweddill eich gwastraff cartref, nad oes modd ei ailgylchu, bob 4 wythnos o’ch bin glas neu ddu 240 litr ar olwynion.
Beth sy'n newid: Gwasanaeth bagiau

Beth sy'n newid: Gwasanaeth bagiau

O ddydd Llun, 3 Mehefin 2024:

  • Casgliadau ailgylchu wythnosol: Byddwn yn casglu eich bagiau amldro newydd ar gyfer eich 'deunyddiau ailgylchu sych' bob wythnos, yn ogystal â’ch cadi gwastraff bwyd.
  • Casgliadau wythnosol gwastraff nad oes modd ei ailgylchu: Byddwn yn casglu gweddill eich gwastraff cartref nad oes modd ei ailgylchu bob wythnos o’ch bag du amldro (yn cynnwys hyd at 1 sach binc untro lawn o wastraff nad oes modd ei ailgylchu).
Beth sy’n newid: Gwasanaeth biniau cymunedol

Beth sy'n newid: Gwasanaeth biniau cymunedol

O ddydd Llun, 3 Mehefin 2024:

  • Casgliadau ailgylchu wythnosol: Byddwn yn casglu eich cynwysyddion 4 olwyn newydd ar gyfer eich 'deunyddiau ailgylchu sych' bob wythnos, yn ogystal â’ch bin brown ar olwynion ar gyfer gwastraff bwyd.
  • Casgliadau gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob 4 wythnos: Byddwn yn casglu gweddill eich gwastraff cartref, nad oes modd ei ailgylchu, bob 4 wythnos o’ch cynhwysydd du 4 olwyn.

Byddwn hefyd yn cyflwyno'r gwasanaethau casglu newydd canlynol am ddim:

  • Casgliadau wythnosol ar gyfer hen fatris y cartref.
  • Casgliadau wythnosol ar gyfer eich eitemau trydanol bach.
  • Casgliadau wythnosol ar gyfer eich cynnyrch hylendid amsugnol, yn cynnwys clytiau tafladwy a chynnyrch hylendid amsugnol eraill (mae’n rhaid cofrestru am y gwasanaeth hwn).
  • Casgliadau ar gyfer eich dillad a thecstilau (wedi’i ddarparu gan ein partner, Menter Gymdeithasol Co-Options).

Dysgwch fwy am y newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff.

Yn ôl i'r brig


2. Pryd fydd y newidiadau'n digwydd?

Daw’r newidiadau i rym o ddydd Llun, 3 Mehefin 2024.

Yn ôl i'r brig


3. Pam ydych chi'n gwneud y newidiadau hyn?

Rydym yn cyflwyno newidiadau i’n casgliadau ailgylchu a gwastraff er mwyn ei gwneud hi’n haws i aelwydydd ailgylchu hyd yn oed mwy gartref. Bydd didoli deunyddiau gartref yn gwella ansawdd y deunyddiau ailgylchu rydym ni’n eu casglu a bydd hefyd yn golygu bod mwy o ddeunyddiau ailgylchadwy yn aros yn y DU ac yn cael eu hailgylchu fel cynnyrch newydd.

Mae ailgylchu mwy a lleihau gwastraff yn well i’n hamgylchedd, gan olygu ein bod yn lleihau ein hallyriadau carbon ac yn helpu i atal newid hinsawdd. Yn rhan o Strategaeth 'Mwy nag Ailgylchu' Llywodraeth Cymru (gwefan allanol), mae disgwyl i ni ailgylchu 70% o’r gwastraff rydym ni’n ei gasglu erbyn 2050.

Dysgwch fwy ynghylch pam ein bod ni’n newid casgliadau ailgylchu a gwastraff.

Yn ôl i'r brig


4. Beth sy'n aros yr un fath?

  • Casgliadau gwastraff bwyd. Byddwn yn parhau i gasglu gwastraff bwyd bob wythnos yn ôl yr arfer.
  • Casgliadau gwastraff gardd. Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth taladawy yma, fe fyddwn ni’n parhau i gasglu eich gwastraff gardd, serch hynny, efallai y bydd eich diwrnod casglu yn newid ar gyfer y gwasanaeth yma.
  • Casgliadau eitemau swmpus.
  • Casgliadau â chymorth.

Yn ôl i'r brig


5. A fydd fy niwrnod casglu yn newid?

Bydd diwrnodau casglu yn newid ar gyfer rhai cartrefi yn Sir Ddinbych yn unig.

Bydd deunyddiau ailgylchu a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu pob cartref yn cael eu casglu ar yr un diwrnod (arferol).

Bydd pecyn gwybodaeth yn cael ei ddosbarthu gyda'ch biniau newydd o 23 Chwefror 2024. Bydd y pecyn gwybodaeth yn darparu gwybodaeth am eich cynwysyddion newydd, beth sy'n mynd i ble a sut fydd y newidiadau i'r gwasanaeth yn effeithio ar eich cartref.

Dyddiadau casgliadau bin

Yn ôl i'r brig


6. Pryd fydda i'n derbyn fy nghynwysyddion newydd?

Byddwn ni'n danfon cynwysyddion newydd i gartrefi Sir Ddinbych rhwng 23 Chwefror a 17 Mai 2024.

Bydd pecyn gwybodaeth yn cael ei ddosbarthu gyda'ch biniau newydd o 23 Chwefror 2024. Bydd y pecyn gwybodaeth yn darparu gwybodaeth am eich cynwysyddion newydd, beth sy'n mynd i ble a sut fydd y newidiadau i'r gwasanaeth yn effeithio ar eich cartref.

Os na fyddwch wedi derbyn eich cynwysyddion newydd erbyn 17 Mai 2024, cysylltwch â ni.

Yn ôl i'r brig


7. Sut dylwn i storio fy nghynwysyddion newydd?

Gallwch ddewis storio eich cynwysyddion newydd:

  • y tu allan,
  • yn eich gardd,
  • yn eich garej neu gynhwysydd/ sied yn yr ardd, neu'r
  • tu mewn i’ch cartref.

Yn ôl i'r brig


8. Beth ddylwn i ei wneud gyda fy hen fin ar olwynion?

O ddydd Llun, 3 Mehefin 2024, bydd pob cartref sy’n derbyn y gwasanaeth safonol (bin ar olwynion), yn defnyddio bin 240 litr ar gyfer eu casgliadau gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Gweler: Beth ddylwn i ei wneud â gwastraff nad oes modd ei ailgylchu?

O'r dyddiad hwn, sicrhewch fod eich bin ar olwynion arall yn wag. Byddwn yn ei gasglu o’r tu allan i’ch cartref rhwng 3 Mehefin ac 2 Awst 2024, a byddwn naill ai’n ei ailddefnyddio neu’n ei ailgylchu. Byddwn yn cadarnhau’r dyddiad hwn gyda chi yn nes at yr amser.

Yn ôl i'r brig


9. Oes modd i mi gael mwy o gynwysyddion ailgylchu?

Oes. Os bydd arnoch angen rhagor o gynwysyddion ar gyfer eich deunyddiau ailgylchu ar ôl ychydig wythnosau o ddefnyddio’r gwasanaeth newydd - neu gyflenwad o fagiau cadis gwastraff bwyd - ewch i’n gwefan i ddysgu mwy am sut gallwch archebu’r eitemau hyn am ddim.

Cofiwch wneud y mwyaf o le yn eich cynwysyddion trwy wasgu eich eitemau metel, plastig a charton yn ddiogel lle bo modd, a thorri cardfwrdd, er mwyn sicrhau bod lle iddynt yn eich bagiau.

Yn ôl i'r brig


10. Sut ddylwn i ddidoli fy neunyddiau ailgylchu yn y cartref?

Chi sydd i benderfynu sut i reoli eich deunyddiau ailgylchu yn eich cartref. Bydd yn fater o ddewis personol. Os hoffech unrhyw gyngor neu gymorth i ddidoli eich ailgylchu, cysylltwch â ni.

Yn ôl i'r brig


11. Mae angen cymorth arna i gyda didoli ac ailgylchu fy ngwastraff. Allwch chi fy helpu?

Mae gennym ni dîm o Swyddogion Ailgylchu, sy’n gallu:

  • rhoi cyngor ac arweiniad ar ein holl wasanaethau ailgylchu a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu, a’ch
  • cefnogi i ailgylchu cymaint â phosibl a lleihau eich gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

I drefnu ymweliad gan un o’n Swyddogion Ailgylchu â’ch cartref, cysylltwch â ni.

Yn ôl i'r brig


12. Beth yw 'deunyddiau ailgylchu sych'?

Mae 'deunyddiau ailgylchu sych' yn cynnwys deunyddiau sych y mae modd eu hailgylchu. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Papur, megis: llythyrau, amlenni, cylchgronau, papurau newydd, taflenni gwybodaeth, catalogau a phapur printiedig.
  • Metelau cymysg, plastigau a chartonau, megis:
    • Caniau metel, tuniau, aerosolau gwag a ffoil glân.
    • Potiau, tybiau, hambyrddau a photeli plastig.
    • Cartonau bwyd a diod, megis "Tetra Pak".
    • Caeadau metel oddi ar boteli a jariau gwydr.
  • Poteli a jariau gwydr (dim caeadau).
  • Cardfwrdd, megis: llewys cardfwrdd a ddefnyddir ar gyfer bwydydd wedi’u pecynnu (prydau parod a chynnyrch sydd â nifer mewn pecyn), bocsys wyau, tiwbiau papur toiled/cegin, bocsys grawnfwyd, cardiau cyfarch (heb fathodynnau, rhubanau, ffoil, gliter neu glymau).

Dysgwch beth sy’n mynd i le yn eich cynwysyddion ailgylchu newydd.

Yn ôl i'r brig


13. Beth yw'r 'Trolibocs'?

Mae'r Trolibocs yn system o 3 blwch y gellir eu pentyrru ar gyfer cartrefi sy’n derbyn y gwasanaeth safonol (bin ar olwynion) i gyflwyno eu deunyddiau ailgylchu sych wedi'u didoli ar gyfer eu casgliad wythnosol.

Gall cartrefi roi’r deunyddiau ailgylchu sych canlynol yn eu Trolibocs:

  • Y blwch uchaf (gyda chaead glas):
    • Papur, megis: llythyrau, amlenni, cylchgronau, papurau newydd, taflenni gwybodaeth, catalogau a phapur printiedig.
  • Y blwch canol (gyda chaead coch):
    • Metelau cymysg, plastigau a chartonau, megis:
      • Caniau metel, tuniau, aerosolau gwag a ffoil glân.
      • Potiau, tybiau, hambyrddau a photeli plastig.
      • Cartonau bwyd a diod, megis "Tetra Pak".
      • Caeadau metel oddi ar boteli a jariau gwydr.
  • Y blwch gwaelod (gyda chaead gwyrdd):
    • Poteli a jariau gwydr (dim caeadau).

Sylwch: Mae'n rhaid rhoi cardfwrdd yn y bagiau glas amldro a ddarperir ar wahân (cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth safonol, bin ar olwynion).

Dysgwch fwy am y system Trolibocs ar gyfer deunydd ailgylchu sych.

Yn ôl i'r brig


14. Beth ddylwn i ei roi ymhle?

Gallwch ddysgu mwy ynghylch lle dylech roi eitemau yn ein canllaw 'Beth sy'n mynd i ble?'.

Bydd pecyn gwybodaeth yn cael ei ddosbarthu gyda'ch biniau newydd o 23 Chwefror 2024. Bydd y pecyn gwybodaeth yn darparu gwybodaeth am eich cynwysyddion newydd, beth sy'n mynd i ble a sut fydd y newidiadau i'r gwasanaeth yn effeithio ar eich cartref.

Yn ôl i'r brig


15. Rwyf angen cael gwared ar gynnyrch hylendid (megis clytiau, weips neu gynnyrch anymataliaeth). Beth ddylwn i ei wneud â’r rhain?

O fis Mehefin 2024, byddwn yn cyflwyno casgliadau wythnosol am ddim ar draws y sir ar gyfer eich cynnyrch hylendid amsugnol, yn cynnwys clytiau tafladwy a chynnyrch hylendid amsugnol eraill.

Os byddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, byddwn yn casglu’r gwastraff hwn gennych chi bob wythnos.

Dysgwch fwy a chofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol.

Yn ôl i'r brig


16. Beth ddylwn i ei wneud â hen fatris y cartref?

O fis Mehefin 2024, byddwn yn cyflwyno casgliadau wythnosol am ddim ar gyfer batris y cartref.

Gallwn gasglu hen fatris y cartref gennych (batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9V) mewn clip batris pinc ar gyfer cartrefi sy’n derbyn y gwasanaeth safonol (bin ar olwynion) neu fagiau plastig untro ar gyfer cartrefi sy’n derbyn y gwasanaeth bagiau.

Dysgwch fwy am y casgliadau wythnosol newydd ar gyfer hen fatris y cartref.

Yn ôl i'r brig


17. Beth ddylwn i ei wneud ag eitemau trydanol bach?

O fis Mehefin 2024, byddwn yn cyflwyno casgliadau wythnosol am ddim ar gyfer eich eitemau trydanol bach.

Gallwn gasglu eich eitemau trydanol bach (megis tostwyr a raseli trydan) bob wythnos. Rhowch eich eitemau trydanol bach yn rhydd ar ben eich Trolibocs i’w casglu (neu’n rhydd ar ben un o’ch bagiau amldro ar gyfer cartrefi sy’n derbyn y gwasanaeth bagiau).

Dysgwch fwy am y casgliadau wythnosol newydd ar gyfer eich eitemau trydanol bach.

Yn ôl i'r brig


18. Beth ddylwn i ei wneud â dillad a thecstilau?

O fis Ionawr 2025 ymlaen, byddwch yn gallu ailgylchu tecstilau nad ydych eu hangen gan ddefnyddio gwasanaeth casglu newydd am ddim a ddarperir gan ein partner, Menter Gymdeithasol Co-Options.

Dysgwch fwy am y gwasanaeth casglu tecstilau newydd, a ddarperir gan ein partner, 'Menter Gymdeithasol Co-Options'.

Yn ôl i'r brig


19. Beth ddylwn i ei wneud â gwastraff nad oes modd ei ailgylchu?

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth safonol (bin ar olwynion):

Bydd pob cartref sy’n derbyn y gwasanaeth bin ar olwynion yn defnyddio bin 240 litr ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Os oes gennych fin du ar olwynion 140/180 litr a bin glas mwy ar olwynion 240 litr:

  • Defnyddiwch eich bin glas mwy ar olwynion 240 litr ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
  • Gosodwch y sticer (wedi’i gynnwys yn eich pecyn gwybodaeth) ar y bin hwn a fydd yn ei wneud yn amlwg i ni pa un y byddwch yn ei gadw.
  • Rhowch gorau i ddefnyddio’r bin du ar olwynion 140/180 litr gan wneud yn siŵr ei fod yn wag.
  • Byddwn yn casglu eich bin du ar olwynion 140/180 litr gwag rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Gwener 2 Awst 2024.

Os oes gennych fin du ar olwynion 240 litr a bin glas ar olwynion 240 litr:

  • Defnyddiwch y bin ar olwynion 240 litr sydd yn y cyflwr gorau ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
  • Gosodwch y sticer (wedi’i gynnwys yn eich pecyn gwybodaeth) ar y bin hwn a fydd yn ei wneud yn amlwg i ni pa un y byddwch yn ei gadw.
  • Rhowch gorau i ddefnyddio’r bin ar olwynion 240 litr arall a gwnewch yn siŵr ei fod yn wag.
  • Byddwn yn casglu eich bin ar olwynion 240 litr gwag arall rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Gwener 2 Awst 2024.

Byddwn yn dosbarthu bin 240 litr ar olwynion i gartrefi ar y gwasanaeth bin ar olwynion sydd heb un.

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth bagiau:

Bydd gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn cael ei gasglu bob wythnos o'ch bag du amldro (yn cynnwys hyd at 1 sach binc untro lawn o wastraff nad oes modd ei ailgylchu).

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth biniau cymunedol:

Bydd gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn cael ei gasglu bob 4 wythnos o’ch cynhwysydd du 4 olwyn.

Dysgwch fwy am y newidiadau i’r casgliadau gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Yn ôl i'r brig


20. Beth ddylwn i ei wneud â phapur?

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth safonol (bin ar olwynion):

Ailgylchwch eich papur yn eich Trolibocs (blwch uchaf gyda chaead glas).

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth bagiau:

Ailgylchwch eich papur yn eich bag amldro glas tywyll.

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth biniau cymunedol:

Ailgylchwch eich papur yn eich bin du gyda sticer glas tywyll

Dysgwch fwy yn ein canllaw 'Beth sy’n mynd i ble?'.

Yn ôl i'r brig


21. Beth ddylwn i ei wneud â chardfwrdd?

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth safonol (bin ar olwynion):

Ailgylchwch eich cardfwrdd yn eich bag amldro glas.

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth bagiau:

Ailgylchwch eich cardfwrdd yn eich bag amldro glas.

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth biniau cymunedol:

Ailgylchwch eich cardfwrdd yn eich bin du gyda sticer glas.

Dysgwch fwy yn ein canllaw 'Beth sy’n mynd i ble?'.

Yn ôl i'r brig


22. Beth ddylwn i ei wneud â metelau cymysg, plastigau a chartonau?

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth safonol (bin ar olwynion):

Rhowch eich metelau cymysg, plastigau a chartonau yn eich Trolibocs (blwch canol gyda chaead coch).

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth bagiau:

Rhowch eich metelau cymysg, plastigau a chartonau yn eich bag coch amldro.

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth biniau cymunedol:

Rhowch eich metelau cymysg, plastigau a chartonau yn eich bin du gyda sticer coch.

Cofiwch wagio a golchi'r metelau, plastigau a chartonau.

Dysgwch fwy yn ein canllaw 'Beth sy’n mynd i ble?'.

Yn ôl i'r brig


23. Beth ddylwn i ei wneud gyda photeli a jariau gwydr?

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth safonol (bin ar olwynion):

Rhowch eich poteli a jariau gwydr (dim caeadau) yn eich Trolibocs (blwch gwaelod gyda chaead gwyrdd).

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth bagiau:

Rowch eich poteli a jariau gwydr (dim caeadau) yn eich bag gwyrddlas amldro.

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth biniau cymunedol:

Rhowch eich poteli a jariau gwydr (dim caeadau) yn eich bin du gyda sticer gwyrddlas.

Dysgwch fwy yn ein canllaw 'Beth sy’n mynd i ble?'.

Yn ôl i'r brig


24. Beth ddylwn i ei wneud gyda gwastraff bwyd?

Byddwn yn parhau i gasglu gwastraff bwyd bob wythnos yn ôl yr arfer. Parhewch i roi eich gwastraff bwyd yn eich cynhwysydd presennol. Nid oes unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth hwn.

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth safonol (bin ar olwynion):

Parhewch i roi eich gwastraff bwyd yn eich cadi oren (a’r cadi bach arian ar gyfer y tŷ).

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth bagiau:

Parhewch i roi eich gwastraff bwyd yn eich cadi oren (a’r cadi bach arian ar gyfer y tŷ).

Ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth biniau cymunedol:

Parhewch i roi eich gwastraff bwyd yn eich bin brown ar olwynion.

Dysgwch fwy yn ein canllaw 'Beth sy’n mynd i ble?'.

Yn ôl i'r brig


25. Sut ddylwn i gyflwyno fy neunyddiau ailgylchu a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu i'w casglu?

  • Defnyddiwch y cynwysyddion cywir ar gyfer eich deunyddiau ailgylchadwy a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
  • Sicrhewch fod unrhyw fagiau a bagiau ar gyfer y cadis gwastraff bwyd wedi’u clymu’n ddiogel.
  • Sicrhewch fod y caeadau ar eich cadis a chynwysyddion y Trolibocs wedi’u cau.
  • Defnyddiwch y cynwysyddion sydd wedi’u darparu gan Gyngor Sir Ddinbych yn unig.
  • Sicrhewch fod eich cynwysyddion allan i’w casglu erbyn 6:30am ar eich diwrnod casglu.
  • Ewch i nôl eich cynwysyddion o’ch man casglu cyn gynted â phosibl ar ôl i ni eu gwagio.

Yn ôl i'r brig


26. Ni allaf roi fy neunyddiau ailgylchu a'm gwastraff nad oes modd ei ailgylchu allan i'w gasglu. Allwch chi fy helpu gyda hyn?

Os nad ydych yn gallu rhoi eich deunyddiau ailgylchu neu wastraff nad oes modd ei ailgylchu allan i ni ei gasglu dros dro neu’n barhaol, oherwydd anawsterau symudedd, ac nad oes neb arall i’ch helpu chi, gallwch gysylltu â ni i wneud cais am ‘gasgliad â chymorth’ a byddwn yn asesu eich sefyllfa. 'Casgliad â chymorth' yw pan fydd ein criwiau yn casglu eich deunyddiau ailgylchu a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu o bwynt casglu y cytunwyd arno, sy’n gyfleus, didrafferth a diogel i chi gael mynediad ato.

Yn ôl i'r brig


27. Rwyf yn derbyn 'casgliad â chymorth' ar hyn o bryd. A fydd hyn yn parhau?

Bydd. Os ydych chi'n derbyn 'casgliad â chymorth' ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth hwn ar eich cyfer. Nid oes angen i chi gofrestru eto ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Yn ôl i'r brig


28. A fydd casgliadau gwastraff gardd yn newid?

Fe fydd gwastraff gardd yn parhau i gael ei gasglu bob pythefnos ar gyfer cartrefi sydd â thanysgrifiad i’r gwasanaeth hwn, serch hynny efallai y bydd eich diwrnod casglu yn newid ar gyfer y gwasanaeth yma.

Gallwn gasglu eich gwastraff gardd bob pythefnos am ffi flynyddol.

Yn ôl i'r brig


29. Pam eich bod chi’n casglu fy ngwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn llai aml?

Ar gyfartaledd, gellir ailgylchu bron i 33% o’r deunyddiau sy’n cael eu rhoi mewn cynwysyddion ar gyfer deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu fel arfer. Trwy gasglu deunyddiau ailgylchu yn fwy aml, bob wythnos, bydd cartrefi’n gallu ailgylchu hyd yn oed mwy o ddeunyddiau a byddant yn cynhyrchu llai o wastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Yn ôl i'r brig


30. Oni fydd casglu fy ngwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn llai aml yn arwain at arogleuon, pryfaid, plâu neu fermin?

Gall cartrefi osgoi problemau posibl gydag arogleuon, pryfaid, plâu neu fermin trwy:

  • Ailgylchu eu gwastraff bwyd bob wythnos, gan ddefnyddio ein gwasanaeth casglu wythnosol.
  • Cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol wythnosol am ddim ar gyfer cynnyrch hylendid (megis clytiau a chynnyrch anymataliaeth), os yw cartrefi’n cynhyrchu’r math hwn o wastraff.

Defnyddir ein bagiau gwastraff bwyd ar gyfer cadw gwastraff bwyd a helpu i atal unrhyw arogleuon. Mae caeadau sy’n cloi ar ein cadis gwastraff bwyd oren, sydd wedi’u cynllunio i atal pryfed, plâu a fermin.

Yn ôl i'r brig


31. Oni fydd casglu fy ngwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn llai aml yn arwain at fwy o dipio anghyfreithlon?

Trwy gasglu deunyddiau ailgylchu yn fwy aml, bob wythnos, bydd cartrefi’n gallu ailgylchu hyd yn oed mwy o ddeunyddiau a chynhyrchu llai o wastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Disgwyliwn y bydd gan gartrefi ddigon o le yn eu cynwysyddion ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu, i roi’r gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Tipio anghyfreithlon yw gadael gwastraff cartrefi neu fasnachol yn anghyfreithlon ar dir nad oes ganddo drwydded i dderbyn gwastraff, megis ar ochr y ffordd neu mewn cae. Os byddwch yn tipio’n anghyfreithlon, gallech orfod talu cosb benodedig neu ymddangos yn y llys a chael dirwy.

Os oes arnoch angen cael gwared ar eitemau swmpus y cartref nad ydych eu heisiau mwyach (megis gwelyau, carpedi, oergelloedd, rhewgelloedd a chypyrddau dillad), gallwch fynd â’r rhain i’ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol neu gallwch wneud cais a thalu am gasgliad eitem swmpus.

Yn ôl i'r brig


32. Beth arall sy'n gallu cael ei ailgylchu yn Sir Ddinbych?

Gallwch ailgylchu amrywiaeth eang o ddeunyddiau yn eich Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.

Mae gennym bum Parc Ailgylchu a Gwastraff parhaol y gall preswylwyr eu defnyddio ar gyfer eu gwastraff domestig. Mae gennym hefyd Wasanaeth Ailgylchu Dros Dro i breswylwyr Dyffryn Dyfrdwy.

Parciau Ailgylchu a Gwastraff.

Yn ôl i'r brig


33. Beth ddylwn i ei wneud â gwastraff swmpus?

Os oes gennych chi eitem o’r cartref sy’n rhy fawr i chi fynd ag ef i’ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol, gallwch drefnu casgliad eitem swmpus, a byddwn yn casglu eich eitem(au) am ffi fechan.

I gael gwybodaeth neu i archebu casgliad ar gyfer eitem swmpus, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â ni.

Casglu eitemau swmpus

Yn ôl i'r brig


34. Beth ddylwn i wneud â gwastraff anifeiliaid anwes?

Dylid rhoi unrhyw wastraff anifeiliaid anwes yn eich bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Mae'r bin ar olwynion presennol yn ddull glân, sydd ddim yn gollwng a ddim yn gadael arogleuon allan ac sy'n gallu gwrthsefyll storio gwastraff cartref tra'n disgwyl iddo gael ei gasglu.

Yn seiliedig ar wybodaeth gan Gynghorau eraill sydd eisoes wedi symud i gasgliadau llai aml, nid yw storio gwastraff yn y bin am bedair wythnos yn hytrach na phythefnos yn peryglu hyn. Rydym yn annog bagio unrhyw wastraff a allai achosi arogl. Cyn belled â bod gwastraff anifeiliaid anwes a deunydd gwely anifeiliaid, fel gwair, gwellt neu siafins yn cael eu bagio a'u selio'n ddiogel, ni ddylai achosi mwy o broblemau o ran arogleuon na sy’n digwydd rwan gyda chasgliadau bob pythefnos.

Yn ôl i'r brig


35. Beth sy'n digwydd i'm deunyddiau ailgylchu ar ôl i chi eu casglu?

I ddysgu beth sy’n digwydd i’ch deunyddiau ailgylchu ar ôl i ni eu casglu, a lle mae pob deunydd wedi’u didoli yn mynd, ewch i Fy Ailgylchu Cymru (gwefan allanol).

I ddysgu beth sy’n cael ei greu â’ch deunyddiau ailgylchu, ewch i Cymru yn ailgylchu (gwefan allanol).

Yn ôl i'r brig


36. Beth fydd yn digwydd os byddaf yn rhoi’r eitemau anghywir yn fy nghynwysyddion ailgylchu trwy ddamwain?

Mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi’r eitemau cywir yn y cynwysyddion cywir, ac nad yw eich cynwysyddion ailgylchu yn cynnwys deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall unrhyw un wneud camgymeriad.

Os byddwch yn cyflwyno cynhwysydd sy’n rhy llawn neu’n rhy drwm, neu un sy’n cynnwys eitemau anghywir, bydd ein criwiau yn rhoi sticer neu dag arno, yn gofyn i chi ddidoli ei gynnwys yn iawn erbyn eich casgliad nesaf.

Os nad ydych yn siŵr ble dylech roi eitemau penodol, cymerwch olwg ar ein ‘Canllawiau Ailgylchu A-Y’ ar-lein, sy’n egluro sut i’w hailgylchu neu eu gwaredu yn gywir o fis Mehefin 2024. Os ydych chi’n dal yn ansicr ynghylch sut i gael gwared ar eitemau penodol yn gywir, cysylltwch â ni.

Gweler: Beth sy'n mynd i ble?

Os sylwch eich bod wedi rhoi eitem yn y cynhwysydd anghywir ar ôl i ni gasglu eich ailgylchu, peidiwch â phoeni – cofiwch ei roi yn y lle cywir y tro nesaf. Yn ogystal, cofiwch dynnu’r sticer neu dag o’ch cynhwysydd, a’i roi yn eich bin ar olwynion ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Yn ôl i'r brig


37. Beth fydd yn digwydd os na fydda i'n ailgylchu fy ngwastraff?

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn Sir Ddinbych yn didoli eu gwastraff ac yn ailgylchu’r hyn y gallan nhw – diolch i’r rhai ohonoch sy’n gwneud eich rhan. Ond, yn anffodus, nid yw rhai pobl yn ymdrechu’n llawn, a gallent orfod talu cosb benodedig o £100 neu ymddangos yn y llys.

Yn ôl i'r brig


38. Pam eich bod wedi casglu rhywfaint o fy neunyddiau ailgylchu a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu, ond nid y cyfan?

Er ein bod yn casglu eich deunyddiau ailgylchu a’ch gwastraff nad oes modd ei ailgylchu ar yr un diwrnod, rydym yn eu casglu mewn cerbydau ar wahân, ar amseroedd gwahanol rhwng 7am a 3pm. Arhoswch tan y diwrnod gwaith nesaf i roi gwybod am unrhyw gasgliad wedi’i fethu ac edrychwch ar ein gwefan neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth ynghylch unrhyw amhariadau i’n gwasanaethau casglu.

Cofiwch hefyd, er ein bod yn casglu eich deunyddiau ailgylchu bob wythnos, rydym yn casglu eich gwastraff gwyrdd bob pythefnos (os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn) a’ch gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob pedair wythnos. I wirio eich dyddiadau casglu, ewch i’n gwefan.

Yn ôl i'r brig


39. Pam fod y Cyngor yn gwario ar Orsaf Trosglwyddo Gwastraff a Throlibocsys newydd pan mae'n wynebu heriau ariannol?

Rydym yn gwario arian i newid y gwasanaeth gwastraff oherwydd teimlwn yn gryf iawn bod yr amgylchedd yn bwysig. Bydd y model newydd yn ein galluogi i wella cyfraddau ailgylchu, ac mae hynny’n bwysig o safbwynt amgylcheddol.

Rydym yn adeiladu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd oherwydd mae angen i ni gael y cyfleuster i wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu a gasglwyd o gartrefi a busnesau ledled y sir. Tra yn yr orsaf, mae deunydd yn cael ei ddidoli a'i wahanu ymhellach cyn cael ei anfon i gyfleusterau amrywiol i'w prosesu. Mae'r deunyddiau sydd wedi'u gwahanu yn cael eu balu a'u storio, ac yna i rywun a fydd yn ailbrosesu'r deunydd.

Mae sawl rheswm pam y bydd datblygu'r orsaf trosglwyddo gwastraff a newid y gwasanaeth gwastraff yn gwneud synnwyr yn ariannol:

  1. Ar hyn o bryd rydym yn casglu'r holl ddeunyddiau i’w hailgylchu gyda'i gilydd mewn un cynhwysydd, ac mae'n rhaid i ni dalu iddo gael ei gludo i ffwrdd a'i wahanu gan gwmni allanol. Mae cost hyn yn parhau i gynyddu ac nid oes unrhyw arwyddion o leihau. Roeddem yn arfer derbyn incwm ar gyfer ein deunydd cymysg i’w hailgylchu, ond yn awr mae’n rhaid inni dalu swm sylweddol o arian er mwyn iddo gael ei wahanu i ni.
  2. Bydd y gwasanaeth 'didoli ymyl y ffordd' newydd yn golygu y bydd y Cyngor yn gallu delio â’r deunyddiau i’w hailgylchu ein hunain oherwydd bydd llai i ni ei wneud i’w ddidoli fesul gwahanol ddeunyddiau. Mae hyn yn golygu ein bod yn osgoi’r gost sylweddol o orfod talu rhywun i wneud hyn i ni gydag offer arbenigol. Byddwn hefyd yn gallu gwerthu'r deunydd ailgylchadwy i eraill a fydd wedyn yn ei droi'n gynhyrchion eraill. Felly rydym nid yn unig yn dileu cost fawr, ond rydym hefyd yn cynhyrchu incwm o ailgylchu.
  3. Mae angen inni gyrraedd y targed statudol newydd ar gyfer cyfraddau ailgylchu yng Nghymru. Y targed hwnnw yw 70%, ac mae Sir Ddinbych wedi bod yn ailgylchu ar tua 64% ers sawl blwyddyn. Os na fyddwn yn cyrraedd y targed statudol newydd, gall Llywodraeth Cymru roi dirwy sylweddol i’r cyngor.
  4. Gan fod y deunyddiau i’w hailgylchu i gyd yn gymysg gyda’i gilydd ar hyn o bryd, nid yw ein gweithwyr gwastraff yn gallu gweld eitemau na ellir eu hailgylchu, sy’n golygu bod y deunyddiau i’w hailgylchu rydym yn eu hanfon i’w gwahanu yn aml yn 'halogedig'. Mae’r cyngor yn cael dirwy os oes halogiad sylweddol yn y deunyddiau i’w hailgylchu, ac mae hyn yn ychwanegu costau ychwanegol i’r cyngor, ac yn y pen draw i’r trethdalwr.

Yn ôl i'r brig


40. Faint yw cost y newidiadau?

Mae’r newidiadau’n costio cyfanswm o £21.9m, gyda £12m ohono wedi’i ddarparu gan LlC (Llywodraeth Cymru) i’n helpu i gyflawni’r gwelliannau amgylcheddol a fydd yn cael eu cyflawni gan y model newydd. Mae’r gweddill y £9.9m) wedi’i ddarparu gan Gyngor Sir Ddinbych, naill ai o arian wrth gefn (£1m) neu o fenthyciadau darbodus (£8.9m). Fodd bynnag, bydd y gwasanaeth casglu gwastraff newydd yn rhatach i'w redeg na'r gwasanaeth presennol, hyd yn oed ar ôl i chi ystyried cost yr ad-daliadau benthyca. Mae hynny’n ei gwneud yn werth da am arian i drigolion sir Ddinbych.

  • Cronfeydd ariannol wrth gefn: Mae cronfa ariannol wrth gefn yn swm o arian y mae'r Cyngor yn ei gadw rhag ofn y bydd argyfwng ariannol.
  • Benthyca darbodus: Mae benthyca darbodus yn fecanwaith benthyg i adrannau fedru benthyg arian sy'n cael ei drin yn debyg iawn i fenthyciad arferol.
  • Ad-daliadau benthyca: Ad-dalu benthyciad dros gyfnod penodol o amser.

Yn ôl i'r brig


41. Mae fy min ailgylchu glas bob amser yn llawn - a fydd gan y Trolibocs newydd ddigon o le ar gyfer yr hyn sydd angen i mi ei ailgylchu?

Ar hyn o bryd, mae eich deunyddiau ailgylchu yn cael eu casglu bob pythefnos a'r capasiti cyffredinol yw 240 litr. Mae gan y Trolibocs a'r bagiau y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer cardfwrdd yn dal 290 litr, a byddant yn cael eu casglu bob wythnos. Mae hyn yr un peth ar gyfer cartrefi nad ydynt ar y system Trolibocs. Y canlyniad yw y bydd gennych ddwbl y capasiti sydd gennych ar hyn o bryd ar gyfer eich deunyddiau ailgylchu.

Yn ôl i'r brig


42. Pam mae'r trolibocs a'r bagiau newydd yn cael eu dosbarthu nawr?

Mae'n rhaid i ni ddosbarthu'r trolibocs a'r bagiau newydd yn gynnar gan fod 45,000 ohonyn nhw i fynd allan i drigolion cyn 3 Mehefin. Mae hyn yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan ein criwiau gwastraff. 

Yn ôl i'r brig