Newidiadau'n ymwneud â gwastraff ac ailgylchu: Cyflwyno'r Trolibocs

Y dull mwyaf dibynadwy o sicrhau deunydd ailgylchu o ansawdd uchel yw sicrhau bod deunyddiau fel papur a gwydr yn cael eu casglu ar wahân ar ymyl y palmant.

I wneud hyn yn effeithlon, rydym yn cyflwyno’r Trolibocs - system o flychau y gellir eu pentyrru i gartrefi gyflwyno eu deunydd ailgylchu bob wythnos.

Bydd y Trolibocs ar gael i bob cartref sydd ar y gwasanaeth safonol (gwasanaeth bin ar olwynion) yn 2024.

Trolibocs

Dull newydd o ailgylchu

Rydym yn cyflwyno system deunydd ailgylchu wedi’u didoli y Trolibocs, fel y gallwn wella ansawdd y deunydd ailgylchu rydym yn ei gasglu. Bydd didoli eich deunyddiau ailgylchu i’w casglu yn ein helpu ni i gyflawni hyn a bydd hefyd yn golygu bod mwy o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn aros yn y DU ac yn cael eu hailgylchu fel cynnyrch newydd. Mae ailgylchu mwy a lleihau gwastraff yn well i’n hamgylchedd, gan olygu ein bod yn lleihau ein hallyriadau carbon a helpu i atal newid hinsawdd.

Yn rhan o 'Strategaeth Mwy nag Ailgylchu' Llywodraeth Cymru (gwefan allanol), mae disgwyl i ni ailgylchu 70% o’r gwastraff rydym ni’n ei gasglu erbyn 2025.

System bentyrru

Mae'r system Trolibocs yn cynnwys 3 blwch y gellir eu pentyrru:

  • Blwch uchaf gyda chaead glas ar gyfer casglu papur.
  • Blwch canol gyda chaead coch ar gyfer casglu caniau a phlastig cymysg.
  • Blwch gwaelod gyda chaead gwyrdd ar gyfer casglu poteli a jariau gwydr.

Trolibocs
(y blwch uchaf gyda chaead glas)

Trolibocs

Papur, gan gynnwys:

  • Llythyrau
  • Amlenni
  • Cylchgronau
  • Papurau newydd
  • Taflenni gwybodaeth
  • Catalogau
  • Papur argraffedig

Trolibocs
(y blwch canol gyda chaead coch)

Trolibocs

Metelau cymysg, plastigau a chartonau, gan gynnwys:

  • Caniau metel, tuniau, erosolau gwag a ffoil glân
  • Poteli plastig, potiau, tybiau a hambyrddau
  • Cartonau bwyd a diod, megis "Tetra Pak"
  • Caeadau metel oddi ar boteli neu jariau gwydr

Trolibocs
(y blwch gwaelod gyda chaead gwyrdd)

Trolibocs

Poteli a jariau gwydr (dim caeadau).


Beth ddylwn i wneud â chardfwrdd?

Bydd aelwydydd sy’n derbyn y gwasanaeth bin ar olwynion hefyd yn derbyn bag glas y gellir ei ailddefnyddio er mwyn ailgylchu cardfwrdd. Dysgwch fwy am beth sy’n mynd i le.

Bag glas amldro

Sach las amldro

Cardfwrdd, gan gynnwys:

  • Cardfwrdd
  • Llewys cardfwrdd a ddefnyddir ar gyfer bwydydd wedi’u pecynnu, gan gynnwys prydau parod a chynnyrch sydd â nifer mewn pac
  • Cartonau wyau
  • Tiwbiau papur toiled / papur cegin
  • Bocsys grawnfwyd
  • Papur lapio (ond nid papur lapio ffoil)
  • Cardiau cyfarch (heb fathodynnau, rhubanau, gliter neu glymau)

Eitemau trydanol bach

Yn rhan o’ch gwasanaeth casglu ymyl palmant newydd, byddwn hefyd yn casglu eich eitemau trydanol bach (megis tostwyr a raseli trydan) bob wythnos. Rhowch eich eitemau trydanol bach yn rhydd ar ben eich Trolibocs i'w casglu (neu'n rhydd ar ben un o'ch bagiau amldro ar gyfer cartrefi sy'n derbyn y gwasanaeth bagiau).

Dysgwch fwy am y gwasanaeth casglu eitemau trydanol bach.