Newidiadau'n ymwneud ag ailgylchu a gwastraff: Canllawiau a gwybodaeth

Gwybodaeth a chanllawiau am eich gwasanaeth casgliadau ymyl palmant a chynwysyddion ailgylchu newydd.

Byddwn ni'n danfon eich cynwysyddion newydd rhwng 23 Chwefror a 17 Mai 2024. Cadwch eich gafael arnyn nhw, ond peidiwch â'u defnyddio nhw eto. Byddwch yn derbyn pecyn gwybodaeth gyda’ch cynwysyddion newydd fydd yn y blwch top. Bydd hwn yn egluro'r newidiadau mewn mwy o fanylder, beth sy'n mynd i ble a sut ddylech gyflwyno eich cynwysyddion ar eich diwrnod casglu.

Darganfyddwch pryd byddwn yn danfon eich cynwysyddion ailgylchu newydd yn barod i chi eu defnyddio o ddydd Llun, 3 Mehefin 2024.

Pecynnau Gwybodaeth

Services and information

Beth sy'n newid?

Dysgwch fwy am y newidiadau i'ch casgliadau deunydd ailgylchu a gwastraff.

Beth sy'n mynd i ble?

Dysgwch pa eitemau y gallwch eu hailgylchu a pha gynhwysydd i'w ddefnyddio.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin am y newidiadau i'r gwasanaeth casglu gwastraff a deunydd ailgylchu.

Cyflwyno'r Trolibocs

Byddwn yn casglu eich deunydd ailgylchu sych wedi'u didoli bob wythnos. Dysgwch fwy am y system Trolibocs.

Gwasanaeth casglu gwastraff nad oes modd ei ailgylchu

O fis Mehefin 2024, byddwn ni'n casglu eich gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob 4 wythnos o'ch bin glas neu ddu 240 litr ar olwynion (neu bob wythnos o'ch bag du y gellir ei ailddefnyddio / sachau pinc).

Casgliadau tecstilau

Gwasanaeth casglu newydd, bob 4 wythnos ar gyfer eich dillad a thecstilau, wedi'i ddarparu gan ein partner Menter Gymdeithasol Co-Options.

Eitemau trydanol bach a batris y cartref

Byddwn yn ailgylchu eich eitemau trydanol bach ac yn casglu hen fatris y cartref bob wythnos.

Gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol

O fis Mehefin 2024, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu am ddim ar draws y sir ar gyfer eich cynnyrch hylendid amsugnol, yn cynnwys clytiau tafladwy a chynnyrch hylendid amsugnol eraill.

Tudalennau cysylltiedig

Dyddiadau casgliadau bin