Archebu bin newydd neu fag

Cysylltu â ni

Rydym yn derbyn nifer uchel iawn o alwadau ar hyn o bryd.

Os ydych am adael i ni wybod nad ydych wedi derbyn eich cynwysyddion ailgylchu newydd, gallwch gofnodi eich ymholiad ar y ffurflen ar y ddolen isod. Peidiwch a dewis opsiwn ar y dudalen gyntaf, yn hytrach, cliciwch 'nesaf'.

Ymholiad gwastraff cyffredinol

Noder, os ydych eisoes wedi cofnodi ymholiad ac yn aros am eich cynwysyddion, peidiwch â llenwi ffurflen aral. Mae eich ymholiad wedi ei gofnodi ac rydym yn ymdrin ag o. Os oes gennych ymholiad cyffredinol, gallwch gwblhau’r ffurflen ganlynol: Ymholiadau cyffredinol. Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra ac yn diolch am eich amynedd.

Mae modd archebu bin neu sach newydd ar-lein, dros y ffôn ac yn un o’n Siopau Un Alwad.

Oedi dros dro i ddarparu cynwysyddion newydd

Mae’n bosibl y bydd yn cymryd hyd at 8 wythnos i ddarparu cynwysyddion newydd. Lle bo’n bosibl, caiff biniau newydd eu darparu ar benwythnosau.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu newydd neu amnewid

Mae taliadau ar gyfer rhai cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu newydd neu amnewid.

Rydym ni’n codi tâl am y canlynol:

Atgyweirio bin olwynion neu Drolibocs sydd wedi'i ddifrodi

Os oes gennych fin olwynion neu Drolibocs wedi'i ddifrodi, efallai y gallwn ei drwsio. Dysgwch am atgyweiriadau i finiau gwastraff ac ailgylchu sydd wedi'u difrodi.

Sut i archebu cynhwysydd newydd

Gallwch archebu cynhwysydd newydd ar-lein.

Archebu cynhwysydd gwastraff neu ailgylchu newydd ar-lein

Bagiau gwastraff bwyd

Os oes gennych dag melyn, clymwch o i'ch cadi bwyd ac fe adawn ni fwy o fagiau ar eich diwrnod casglu nesaf. Dim ond pan fyddwch wedi rhedeg allan o fagiau y dylech ddefnyddio'r tag. Neu gallwch gysylltu â’r ganolfan gwasanaethau cwsmeriaid drwy ffonio 01824 706000 ac fe adewir rholyn o fagiau i chi ar eich diwrnod casglu.

Gallwch gael bagiau gwastraff bwyd ychwanegol o Siopau Un Alwad y cyngor a restrir isod:

Pris cynwysyddion

Cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu

Sachau a leiners cadi

Rydym ni’n cadw’r hawl i fonitro'r defnydd a chyfyngu’r gwasanaeth os ceir defnydd gormodol a/neu os yw trigolion yn methu â rhoi eu sbwriel yn y sachau lliw cywir. 

Ffioedd cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu
CynhwysyddFfi
Set biniau tai newydd – dim ond ar gael i berchnogion neu feddianwyr newydd £45
Bin glas neu ddu ar olwynion yn lle'r un presennol (pob maint) £25
Cael Trolibocs newydd yn lle’r un presennol (pob rhan) Am ddim tan 1 Medi 2024 wedi hynny £25.00
Bagiau y gellir eu hailddefnyddio (unrhyw liw) (dim ond ar gyfer aelwydydd sy’n derbyn y gwasanaeth bagiau)  £12.50
Cadi cegin arian £12.50
Cadi oren wastraff bwyd ymyl y palmant £12.50
Bagiau cadi gwastraff bwyd £0
Rholyn o 52 o sachau pinc untro ar gyfer gwastraff gweddilliol - dim ond ar gyfer cartrefi sy'n derbyn gwasanaeth bagiau
£12.50
Nwyddau Hylendid Amsugnol - cadi du gyda chaead piws Am ddim tan 1 Medi 2024 wedi hynny £12.50

Yn ôl i frig y dudalen 

Cynwysyddion gwastraff gardd 

Rhaid i chi gofrestru ar gyfer tanysgrifiad i dderbyn casgliadau gwastraff gardd. Dysgwch fwy am gasgliadau gwastraff gardd

Ffioedd am gynwysyddion gwastraff gardd
CynhwysyddFfi
Biniau gwyrdd ar olwynion (pob maint) newydd neu yn lle’r rhai presennol £25
Tair sach £15
Sach yn lle’r un bresennol £5 yr un

Yn ôl i frig y dudalen 

Peidio â dychwelyd eich hen fin ar olwynion neu eich Trolibocs

Pan rydych yn archebu bin ar olwynion neu Drolibocs arall yn lle'r un presennol am fod y bin wedi ei ddifrodi cymaint fel nad oes modd ei atgyweirio, neu os ydych yn archebu bin mwy/llai, yna mae’n rhaid i’ch hen fin ar olwynion/Trolibocs gael ei ddychwelyd pan fyddwn yn dod â’r bin newydd.

Os nad yw’r hen fin/Trolibocs ar gael pan fyddwn yn dod â'r bin newydd yna fe fydd yna ffi bellach o £10 i'w dalu cyn y gellir darparu'r bin newydd. Ni fydd unrhyw gost os bydd y bin ar goll gan fod ein criw casglu wedi ei ddifrodi a heb allu ei roi yn ôl ger ymyl y palmant.

Yn ôl i frig y dudalen