Dyma eich gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu newydd

Eich gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu newydd

O ddydd Llun 3 Mehefin 2024, rydym ni'n cyflwyno newidiadau i'r gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff, yn cynnwys darparu cynwysyddion newydd a chasglu deunydd ailgylchu yn wythnosol.

Trolibocs

Eich gwasanaeth newydd

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth Trolibocs: Gwasanaethau a gwybodaeth


Trolibocs

Trolibocs

Ar gyfer ailgylchu deunyddiau sych wedi’u didoli ac eitemau trydanol bychain (bob wythnos). Dysgwch fwy am y system Trolibocs.

Bag glas amldro

Bag glas amldro

Ar gyfer ailgylchu cardbord (bob wythnos).

Clip batris pinc amldro

Clip batris pinc amldro

Ar gyfer batris tŷ (bob wythnos).

Cadi oren

Cadi oren

Ar gyfer gwastraff bwyd (bob wythnos) a chadi bach arian ar gyfer y tŷ.


Bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion

Bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion

Ar gyfer deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu (bob 4 wythnos), o'ch bin glas neu ddu 240 litr ar olwynion presennol.

Sach gwyn untro

Sach gwyn untro

Ar gyfer casgliadau tecstilau (bob 4 wythnos). Gwasanaeth dewisol.

Cadi du (gyda chaead porffor)

Cadi du (gyda chaead porffor)

Ar gyfer casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol (bob wythnos). Gwasanaeth dewisol. Mae'n rhaid cofrestru.

Bin ar olwynion gwyrdd

Bin ar olwynion gwyrdd

Ar gyfer casgliadau gwastraff gardd (bob pythefnos) os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, y codir tâl amdano.

Eich gwasanaeth newydd

Mae eich gwasanaeth newydd yn darparu:

  • Hyd at 290 litr o ddeunydd ailgylchu wedi'i ddidoli bob wythnos, o:
    • System wahanu'r Trolibocs (deunyddiau ailgylchu sych ac eitemau trydanol bychain).
    • Bag glas amldro (ar gyfer ailgylchu cardbord).
    • Clip batris pinc (ar gyfer batris tŷ).
  • Hyd at 23 litr o wastraff bwyd i’w ailgylchu mewn cadi oren (neu un du efo caead oren o 2024 ymlaen) (ar gyfer gwastraff bwyd) a chadi bach arian i'w gadw yn y tŷ yn ystod yr wythnos.
  • Hyd at 240 litr o ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu bob 4 wythnos, o'ch bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion presennol. Byddwn yn darparu bin 240 litr ar olwynion i unrhyw aelwyd sydd heb un.
  • Casgliadau tecstilau bob 4 wythnos, mewn sachau gwyn untro. Darperir y gwasanaeth hwn gan Fenter Gymdeithasol Co-Options.
  • Hyd at 40 litr o gynnyrch hylendid amsugnol fel clytiau a gwastraff anymataliaeth bob wythnos, o gadi du gyda chaead porffor. Mae casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol yn wasanaeth am ddim dewisol, ac mae angen cofrestru ar ei gyfer.
  • Gwastraff gardd o'ch cartref bob pythefnos, os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, y codir tâl amdano.

Pecyn Gwybodaeth: Trolibocs (PDF, 2.26MB)

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth bagiau: Gwasanaethau a gwybodaeth


Bag glas tywyll amldro

Bag glas tywyll amldro

Ar gyfer ailgylchu papur (bob wythnos).

Bag coch
amldro

Bag coch amldro

Ar gyfer ailgylchu caniau metel, tuniau, ffoil a photeli, potiau, tybiau, hambyrddau a chartonau plastig (bob wythnos).

Bag gwyrddlas
amldro

Bag gwyrddlas amldro

Ar gyfer ailgylchu poteli a jariau gwydr (bob wythnos).

Bag glas
amldro

Bag glas amldro

Ar gyfer ailgylchu cardbord (bob wythnos).


Cadi oren

Cadi oren

Ar gyfer gwastraff bwyd (bob wythnos) a chadi bach arian ar gyfer y tŷ.

Bag plastig untro

Bag plastig untro

Ar gyfer batris tŷ (bob wythnos).

Bag du amldro a sach binc

Bag du amldro a sach binc

Ar gyfer hyd at ddwy sach binc untro o wastraff nad oes modd ei ailgylchu (bob wythnos).

Sach gwyn untro

Sach gwyn untro

Ar gyfer casgliadau tecstilau (bob 4 wythnos). Gwasanaeth dewisol.


Cadi du (gyda chaead porffor)

Cadi du (gyda chaead porffor)

Ar gyfer casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol (bob wythnos). Gwasanaeth dewisol. Mae'n rhaid cofrestru.

Sach dympi gwyrdd

Sach dympi gwyrdd

Ar gyfer casgliadau gwastraff gardd (bob pythefnos) os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, y codir tâl amdano.

Eich gwasanaeth newydd

Mae eich gwasanaeth newydd yn darparu:

  • Gwasanaeth casglu deunyddiau ailgylchu wedi'u ddidoli bob wythnos, yn defnyddio:
    • Bag glas tywyll amldro ar gyfer ailgylchu papur.
    • Bag coch amldro ar gyfer ailgylchu caniau metel, tuniau, ffoil a photeli, potiau, tybiau, hambyrddau a chartonau plastig.
    • Bag gwyrddlas amldro ar gyfer ailgylchu poteli a jariau gwydr.
    • Bag glas amldro ar gyfer ailgylchu cardbord.
    • Cadi oren (neu un du efo caead oren o 2024 ymlaen) (ar gyfer gwastraff bwyd) a chadi bach arian i’w gadw yn y tŷ yn ystod yr wythnos.
    • Bag plastig untro (ar gyfer batris tŷ).
  • Bag du amldro yn cynnwys 1 sach binc untro ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob wythnos. (Darperir rholyn o sachau pinc untro, ynghyd â sach ddu amldro.)
  • Casgliadau tecstilau bob 4 wythnos, mewn sachau gwyn untro. Darperir y gwasanaeth hwn gan Fenter Gymdeithasol Co-Options.
  • Hyd at 40 litr o gynnyrch hylendid amsugnol fel clytiau a gwastraff anymataliaeth bob wythnos, o gadi du gyda chaead porffor. Mae casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol yn wasanaeth am ddim dewisol, ac mae angen cofrestru ar ei gyfer.
  • Gwastraff gardd o'ch cartref bob pythefnos, os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, y codir tâl amdano.
  • Eitemau trydanol bach bob wythnos (rhowch eitemau’n rhydd ar dop un o’ch bagiau y gellir eu hailddefnyddio).

Pecyn Gwybodaeth: Gwasanaeth Bag (PDF, 2.1MB)

Gwasanaeth biniau cymunedol

Gwasanaeth biniau cymunedol: Gwasanaethau a gwybodaeth


Bin du gyda sticer glas tywyll

Bin du gyda sticer glas tywyll

Ar gyfer ailgylchu papur (bob wythnos).

Bin du gyda sticer coch

Bin du gyda sticer coch

Ar gyfer ailgylchu caniau metel, tuniau, ffoil a photeli, potiau, tybiau, hambyrddau a chartonau plastig (bob wythnos).

Bin du gyda sticer gwyrddlas

Bin du gyda sticer gwyrddlas

Ar gyfer ailgylchu poteli a jariau gwydr (bob wythnos).

Bin du gyda sticer glas

Bin du gyda sticer glas

Ar gyfer ailgylchu cardbord (bob wythnos).


Bin du 4
olwyn

Bin du 4 olwyn

Ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu (bob 4 wythnos).

Bin brown ar
olwynion

Bin brown ar olwynion

Ar gyfer gwastraff bwyd (bob wythnos) (a chadi bach arian ar gyfer y tŷ).

Bag plastig untro

Bag plastig untro

Ar gyfer batris tŷ (bob wythnos).

Sach gwyn untro

Sach gwyn untro

Ar gyfer casgliadau tecstilau (bob 4 wythnos). Gwasanaeth dewisol.


Cadi du (gyda chaead porffor)

Cadi du (gyda chaead porffor)

Ar gyfer casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol (bob wythnos). Gwasanaeth dewisol. Mae’n rhaid cofrestru.

Eich gwasanaeth newydde

Mae eich gwasanaeth newydd yn darparu:

  • Bin du gyda sticer glas tywyll ar gyfer ailgylchu papur (bob wythnos).
  • Bin du gyda sticer coch ar gyfer ailgylchu caniau metel, tuniau, ffoil a photeli, potiau, tybiau, hambyrddau a chartonau plastig (bob wythnos).
  • Bin du gyda sticer gwyrddlas ar gyfer ailgylchu poteli a jariau gwydr (bob wythnos).
  • Bin du gyda sticer glas ar gyfer ailgylchu cardbord (bob wythnos).
  • Bag plastig untro (ar gyfer batris tŷ) (bob wythnos).
  • Gwastraff nad oes modd ei ailgylchu o fin du ar 4 olwyn (bob 4 wythnos).
  • Casgliadau gwastraff bwyd o fin brown ar olwynion (bob wythnos). Darperir cadi bach arian i’w ddefnyddio yn y tŷ yn ystod yr wythnos.
  • Casgliadau tecstilau bob 4 wythnos, mewn sachau gwyn untro. Darperir y gwasanaeth hwn gan Fenter Gymdeithasol Co-Options.
  • Hyd at 40 litr o gynnyrch hylendid amsugnol fel clytiau a gwastraff anymataliaeth bob wythnos, o gadi du gyda chaead porffor. Mae casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol yn wasanaeth am ddim dewisol, ac mae angen cofrestru ar ei gyfer.
  • Eitemau trydanol bach bob wythnos (rhowch eitemau yn rhydd ar y llawr, wrth y biniau).

Pecyn Gwybodaeth: Gwasanaeth biniau cymunedol (PDF, 2.7MB)

Be' sy'n aros yr un fath?

  • Casgliadau gwastraff bwyd. Byddwn yn parhau i gasglu gwastraff bwyd bob wythnos yn ôl yr arfer.
  • Casgliadau gwastraff gardd. Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth taladawy yma, fe fyddwn ni’n parhau i gasglu eich gwastraff gardd, serch hynny, efallai y bydd eich diwrnod casglu yn newid ar gyfer y gwasanaeth yma.
  • Casgliadau eitemau swmpus. Does dim newid i'r gwasanaeth hwn.
  • Casgliadau gyda chymorth. Does dim newid i'r gwasanaeth hwn.

Tudalennau cysylltiedig


Logo Sir Ddinbych yn ailgylchu