Dull newydd o ailgylchu
Rydym yn cyflwyno system deunydd ailgylchu wedi’u didoli y Trolibocs, fel y gallwn wella ansawdd y deunydd ailgylchu rydym yn ei gasglu. Bydd didoli eich deunyddiau ailgylchu i’w casglu yn ein helpu ni i gyflawni hyn a bydd hefyd yn golygu bod mwy o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn aros yn y DU ac yn cael eu hailgylchu fel cynnyrch newydd. Mae ailgylchu mwy a lleihau gwastraff yn well i’n hamgylchedd, gan olygu ein bod yn lleihau ein hallyriadau carbon a helpu i atal newid hinsawdd.
Yn rhan o 'Strategaeth Mwy nag Ailgylchu' Llywodraeth Cymru (gwefan allanol), mae disgwyl i ni ailgylchu 70% o’r gwastraff rydym ni’n ei gasglu erbyn 2025.
System bentyrru
Mae'r system Trolibocs yn cynnwys 3 blwch y gellir eu pentyrru:
- Blwch uchaf gyda chaead glas ar gyfer casglu papur.
- Blwch canol gyda chaead coch ar gyfer casglu caniau a phlastig cymysg.
- Blwch gwaelod gyda chaead gwyrdd ar gyfer casglu poteli a jariau gwydr.