Casgliadau gwastraff nad oes modd ei ailgylchu

Gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yw gwastraff y cartref nad oes modd ei ailgylchu na'i gompostio trwy wasanaethau ymyl palmant safonol y Cyngor.

Gwasanaeth Trolibocs

  • Bydd gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn cael ei gasglu bob 4 wythnos o gartrefi sydd ar y gwasanaeth Trolibocs.
  • Bydd pob cartref sy’n derbyn y gwasanaeth Trolibocs yn defnyddio bin 240 litr ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
  • Byddwn yn dosbarthu bin 240 litr ar olwynion i gartrefi sydd heb un.

Dysgwch fwy am y newidiadau i gasgliadau gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.


Bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion

Bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion

Gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

  • Poteli, potiau a thybiau plastig du a brown
  • Clytiau (napis)
  • Weips gwlyb
  • Polystyren
  • Yr holl wastraff o'r cartref sydd dros ben na ellir ei ailgylchu

Gwasanaeth bagiau

  • Bydd gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn cael ei gasglu bob wythnos o aelwydydd sy’n derbyn y gwasanaeth bagiau.
  • Bydd aelwydydd yn defnyddio eu bag du newydd, y gellir ei ailddefnyddio, a hyd at 1 sach binc untro ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Bag du y gellir ei ailddefnyddio (yn cynnwys hyd at 1 sach binc untro llawn)

Bag du y gellir ei ailddefnyddio (yn cynnwys hyd at 1 sach binc untro llawn)

Gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

  • Poteli, potiau a thybiau plastig du a brown
  • Clytiau (napis)
  • Weips gwlyb
  • Polystyren
  • Yr holl wastraff o'r cartref sydd dros ben na ellir ei ailgylchu

Rhowch eich gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn y sachau pinc untro a ddarperir. (Darperir rholyn o sachau pinc). Gallwch roi hyd at 1 sach binc untro o wastraff nad oes modd ei ailgylchu yn eich bag du newydd, y gellir ei ailddefnyddio, ar gyfer eich casgliad wythnosol.

Gwasanaeth biniau cymunedol

  • Bydd gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn cael ei gasglu bob 4 wythnos ar gyfer preswylwyr sydd ar y gwasanaeth biniau cymunedol.
  • Bydd preswylwyr sydd ar y gwasanaeth biniau cymunedol yn defnyddio eu bin du 4 olwyn (gyda chaead du) ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Bin du 4 olwyn (caead du)

Bin du 4 olwyn (caead du)

Gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

  • Poteli, potiau a thybiau plastig du a brown
  • Clytiau (napis)
  • Weips gwlyb
  • Polystyren
  • Yr holl wastraff o'r cartref sydd dros ben na ellir ei ailgylchu

Gwasanaeth casglu gwastraff nad oes modd ei ailgylchu: Beth sy'n newid? (Gwasanaeth Trolibocs)

Bydd pob cartref sy'n derbyn y gwasanaeth Trolibocs yn defnyddio bin 240 litr ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Os oes gennych fin du ar olwynion 140/180 litr a bin glas mwy ar olwynion 240 litr:

  • Defnyddiwch eich bin glas mwy ar olwynion 240 litr ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
  • Gosodwch y sticer (wedi’i gynnwys yn eich pecyn gwybodaeth) ar y bin hwn a fydd yn ei wneud yn amlwg i ni pa un y byddwch yn ei gadw.
  • Rhowch gorau i ddefnyddio’r bin du ar olwynion 140/180 litr gan wneud yn siŵr ei fod yn wag.
  • Byddwn yn casglu eich bin du ar olwynion 140/180 litr gwag rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Gwener 2 Awst 2024.

Os oes gennych fin du ar olwynion 240 litr a bin glas ar olwynion 240 litr:

  • Defnyddiwch y bin ar olwynion 240 litr sydd yn y cyflwr gorau ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
  • Gosodwch y sticer (wedi’i gynnwys yn eich pecyn gwybodaeth) ar y bin hwn a fydd yn ei wneud yn amlwg i ni pa un y byddwch yn ei gadw.
  • Rhowch gorau i ddefnyddio’r bin ar olwynion 240 litr arall a gwnewch yn siŵr ei fod yn wag.
  • Byddwn yn casglu eich bin ar olwynion 240 litr gwag arall rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Gwener 2 Awst 2024.

Byddwn yn dosbarthu bin 240 litr ar olwynion i gartrefi ar y gwasanaeth bin Trolibocs.

Sticer

Rhowch y sticer sydd wedi'i amgáu gyda'r lyfryn hon i'r bin ar olwynion yr ydych yn ei gadw ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu.