Trwydded cerbyd hurio preifat

Mae cerbydau hurio preifat wedi’u harchebu ymlaen llaw ac, nid oes modd galw arnynt i’ch codi oddi ar ochr y stryd. Mae cost yr hurio’n cael ei gytuno rhwng y gweithredwr a'r cwsmer.

Cyn gwneud cais am drwydded cerbyd hurio preifat, rhaid i chi sicrhau bod eich cerbyd yn cydymffurfio â’r fanyleb a’r amodau.

Yn dod yn fuan: Cerbyd hacnai a hurio preifat amodau trwyddedu

Sut mae gwneud cais?

Er mwyn gwneud cais am drwydded cerbyd hurio preifat, mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen gais trwydded cerbyd hurio preifat a’i dychwelyd atom gyda: 

  • tystysgrif cofrestru’r cerbyd (V5/llyfr cofnod)
  • eich tystysgrif yswiriant gyfredol 
  • tystysgrif cydymffurfio 
  • ffi’r drwydded
  • Tystysgrif Gwasanaeth Codi pobl Anabl a Phrawf Pwysau (lle bo hynny’n berthnasol)

Mae’n rhaid i chi hefyd ddarparu manylion y gweithredwr hurio preifat y byddwch yn gweithio iddynt.

Ffurflen gais Trwydded Cerbyd Hurio Preifat (PDF, 1.27MB)

Anfonwch eich cais at:

Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ

Tystysgrif cydymffurfio

Y tro cyntaf y byddwch yn gwneud cais am drwydded cerbyd hurio preifat, mae’n rhaid i’ch cerbyd lwyddo mewn prawf cydymffurfio. Mae’n rhaid cwblhau’r prawf yn ein gorsaf brawf drwyddedig ym Mharc Busnes Expressway, Ffordd Abergele, Bodelwyddan, LL18 5SQ. Gellir gwneud apwyntiad drwy ffonio 01745 839244.

Pan fyddwch yn mynd a'r cerbyd i'w brofi, mae'n rhaid bod daliwr plât wedi ei osod ar gefn y cerbyd. 

Bydd y prawf cydymffurfio, sy’n cynnwys tystysgrif MOT, yn sicrhau bod eich cerbyd yn cyfateb â’r safonau angenrheidiol. Rhaid i gerbydau sy’n newydd i “fflyd” dacsis Sir Ddinbych fod yn 5 oed neu’n iau. Os yw eich cerbyd yn llwyddo yn y prawf cydymffurfio, byddwch yn derbyn tystysgrif cydymffurfio, ac mae’n rhaid i chi ei chynnwys gyda’ch ffurflen gais am drwydded.

Yswiriant

Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth bod eich cerbyd wedi’i yswirio’n briodol. Golyga hyn bod yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif yswiriant sy'n cynnwys hurio preifat neu deithiau wedi'u trefnu ymlaen llaw yn unig. Bydd eich brocer yswiriant yn gallu rhoi cyngor i chi am yr yswiriant cywir.

Rhoi trwydded i chi

Pan fyddwn wedi derbyn yr holl waith papur, ac yn fodlon bod eich cerbyd yn cyfateb â’r gofynion, byddwn yn rhoi’r drwydded cerbyd, ynghyd â phlatiau trwydded a sticeri i roi ar ddrysau eich cerbyd.

Faint fydd y gost?

Mae gwneud cais am drwydded cerbyd hurio preifat yn costio £200 ar hyn o bryd.

Gweld yr holl ffioedd gyrwyr tacsi, cerbydau a gweithredwyr

Am ba hyd fydd y drwydded yn ddilys?

Mae’r trwyddedau’n ddilys am uchafswm o 12 mis.

Sut y gallaf dalu?

Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig.

Talu drwy BACS

Mae ein manylion BACS yn:

  • Banc: Natwest, 5 Queen Street, y Rhyl, LL18 1RS
  • Cod Didoli: 54 41 06
  • Rhif y Cyfrif: 22837469
  • Enw’r Cyfrif: Cronfa Sirol Cyngor Sir Ddinbych

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cyfeirnod pan fyddwch chi’n gwneud taliad h.y. yn nodi enw/eiddo/rhif trwydded (os ydych chi’n ei wybod) ynghyd efo Cod Cost. Unwaith y bydd taliad wedi'i wneud, anfonwch gopi o'r taliad at trwyddedu@sirddinbych.gov.uk.

Cod cost

Rhowch y cod cost 3476-40101 wrth wneud taliad trwydded cerbyd hurio preifat.

Gall methu â darparu’r cod cost priodol neu enw’r eiddo achosi oedi wrth brosesu eich cais. 

Deddf Cydraddoldeb 2010

Cais am eithriad rhag dyletswyddau o dan ddeddf Cydraddoldeb 2010 (PDF, 611KB)

Dogfennau cysylltiedig

Polisi eithrio arddangos platiau trwyddedu cerbyd hurio preifa (PDF, 228KB)