Dogfennau hygyrch yng Nghyngor Sir Ddinbych
Rhaid i ddogfennau a gyhoeddir ar Denbighshire.gov.uk fodloni safonau hygyrchedd. Mae hyn er mwyn gallu eu defnyddio gan gymaint o bobl â phosibl, gan gynnwys y rhai ag anabledd.
Mae'r polisi hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw'r dogfennau y mae Cyngor Sir Dinbych yn eu cyhoeddi ar sirddinbych.gov.uk. Mae’n cwmpasu PDFs, taenlenni, cyflwyniadau a mathau eraill o ddogfennau. Nid yw'n cwmpasu cynnwys sydd wedi'i gyhoeddi ar Denbighshire.gov.uk fel HTML. Mae ein prif ddatganiad hygyrchedd yn rhoi'r wybodaeth hon.
Defnyddio ein dogfennau
Mae Cyngor Sir Dinbych yn cyhoeddi dogfennau mewn ystod o fformatau, gan gynnwys Adobe PDF, Microsoft Word, Microsoft Excel, Microsoft PowerPoint a CSV.
Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio'r dogfennau hynny. Er enghraifft, pan fyddwn yn cynhyrchu dogfen, byddwn yn sicrhau'r canlynol
- darparu dewis HTML lle y bo'n bosibl
- tagio penawdau a rhannau eraill o'r ddogfen yn iawn, fel y gall y rhai sy'n darllen o’r sgrin ddeall strwythur y dudalen
- cynnwys testun amgen ochr yn ochr â lluniau heb addurniadau, er mwyn i bobl na all eu gweld ddeall pam eu bod yno
- osgoi defnyddio tablau, oni bai pan fyddwn ni'n cyflwyno data
- defnyddio iaith ddealladwy
Pa mor hygyrch yw ein dogfennau
Dylai dogfennau newydd rydym yn eu cyhoeddi fod yn gwbl hygyrch.
Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n dogfennau (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Er enghraifft, mae rhai ohonyn nhw fel a ganlyn:
- ddim yn cynnwys strwythur pennawd iawn i gefnogi technolegau cynorthwyol
- ddim yn cynnwys digon o wrthgyferbyniad lliw a maint ffont
- cynnwys tablau a ddefnyddir ar gyfer cynllun, yn hytrach na data
- heb eu tagio’n gywir
- heb eu hysgrifennu gan ddefnyddio iaith ddealladwy
Mae hyn yn berthnasol yn bennaf i rai adroddiadau, strategaethau a dogfennau taenlen.
Mae'r mathau hyn o ddogfennau wedi'u heithrio o'r rheoliadau (gwefan allanol), felly does gennym ni ddim cynlluniau i’w gwneud yn hygyrch ar hyn o bryd.
Ond os oes angen i chi gyrchu gwybodaeth yn un o'r mathau hyn o ddogfennau, gallwch gysylltu â ni a gofyn am fformat arall.
Beth i'w wneud os na allwch chi ddefnyddio un o'n dogfennau
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordio sain neu braille, cysylltwch â ni:
Fel arall, gallwch ysgrifennu atom:
Cyngor Sir Ddinbych,
Blwch Post 62,
Rhuthun,
LL15 9AZ
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 10 diwrnod gwaith.
Adrodd am broblem hygyrchedd gydag un o’n dogfennau
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ein dogfennau. Os ydych yn gweld unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â’n tîm gwe:
Gallwch hefyd gyflwyno eich adborth gan ddefnyddio ein polisi adborth cwsmeriaid a elwir yn Eich Llais.
Gallwch ddefnyddio hwn i roi gwybod i ni:
- rydych chi'n meddwl ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le neu wedi gwneud camgymeriad;
- rydych chi'n meddwl ein bod wedi gwneud rhywbeth yn dda; neu
- mae gennych sylw neu syniad am sut y gallem wneud rhywbeth yn wahanol.
Gallwch gysylltu â ni:
- drwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk;
- drwy e-bost at eich.llais@sirddinbych.gov.uk;
- drwy ysgrifennu at Eich Llais, Cyngor Sir Ddinbych, Blwch 62, Rhuthun, LL15 9AZ;
- drwy ffonio 01824 706000; neu
- yn bersonol yn unrhyw un o'n Siopau Un Stop, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, derbynfeydd ac adeiladau cyhoeddus.
Fel arfer, byddwn yn ymateb yn yr un modd ag y byddwch yn cysylltu â ni, ond os ydych am i ni ymateb mewn ffordd wahanol rhowch wybod i ni.
Byddwn bob amser yn delio â'ch adborth yn agored ac yn deg ac yn ei ddefnyddio i wella ein gwasanaethau.
Os ydych yn gwneud cwyn, byddwn yn ymchwilio i ddefnyddio proses gwyno'r Cyngor.
Bydd y broses hon hefyd yn eich cynghori ar sut i gael gafael ar gymorth i wneud cwyn a beth i'w wneud os teimlwch nad ymatebwyd yn briodol i'ch cwyn.
Fodd bynnag, os ydych yn pryderu am hygyrchedd gwefannau yn hytrach na materion gwefan cyffredinol, efallai yr hoffech ymchwilio i'r weithdrefn orfodi fel y nodir yn y paragraff nesaf.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi’n fodlon gyda'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (gwefan allanol).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ein dogfennau
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i wneud ein dogfennau yn hygyrch, yn unol â Chyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018.
Mae'r dogfennau y mae Cyngor Sir Ddinbych yn eu cynhyrchu yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (gwefan allanol), yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi'u rhestru isod.
Cynnwys anhygyrch
Diffyg cydymffurfiaeth gyda’r rheoliadau hygyrchedd
Nid yw rhai o'n dogfennau PDF a Word a gyhoeddwyd ar ôl 23 Medi 2018 yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai na fyddant wedi'u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i’r sawl sy’n darllen o sgrin.
Ein nod yw disodli dogfennau PDF a Word ar ein gwefan gyda thudalennau HTML hygyrch lle y bo’n bosibl.
Wrth ystyried a allwn ddarparu'r wybodaeth mewn fformat hygyrch, byddwn yn asesu’r canlynol:
- faint fyddai'r gwaith yn ei gostio a'r effaith y byddai cyflawni'r gwaith yn ei chael arnom
- faint fyddai defnyddwyr ag anabledd yn elwa o wneud y gwaith
Baich anghymesur
Rydym wedi nodi nifer gyfyngedig o ddogfennau PDF ac MS Word a gyhoeddwyd ar ôl mis Medi 2018 lle byddai cost a/neu amser cyhoeddi'r dogfennau hyn mewn fformat hygyrch yn cynrychioli naill ai:
- aich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd; neu
- baich anghymesur dros dro, yr ydym yn ceisio ei drwsio.
Mae'r dogfennau yr ydym wedi'u nodi ar hyn o bryd fel baich anghymesur yn cynnwys:
- Datganiadau cyfrifin (PDF)
- Cyfansoddiad y cyngor (PDF)
- Cofrestr trwyddedu Tai Aml-feddiannaeth (PDF)
- calendr dyddiadau casgliadau bin (dogfennau PDF)
- rhai taenlenni (dogfennau MS Excel)
Ar hyn o bryd mae nifer o ffurflenni cais ar ffurf PDF ac MS Word yn faich anghymesur, ond rydym yn anelu at ddisodli'r ffurflenni hyn â fersiynau ar-lein hygyrch.
Ni fydd rhywbeth sy'n faich anghymesur rŵan o reidrwydd yn faich anghymesur am byth. Os bydd amgylchiadau'n newid, byddwn yn ailasesu a allwn ddarparu ein gwybodaeth ar-lein mewn fformat hygyrch.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Mae llawer o’n dogfennau PDF a Word hŷn sydd ddim yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai na fyddant wedi'u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i’r sawl sy’n darllen o sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (enw, gwerth rôl).
Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym PDFs gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu eu disodli gyda thudalennau HTML hygyrch.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 (gwefan allanol) os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio rhai o’n hadroddiadau craffu blynyddol.
Sut y gwnaethom ni brofi ein dogfennau
Mae holl ddogfennau newydd y wefan yn cael eu profi am hygyrchedd cyn eu cyhoeddi ar y wefan.
Mae'r holl ddogfennau gwefan newydd yn cael eu creu gan ddefnyddio templedi dogfennau gwefan hygyrch ac yn cael prawf hygyrchedd gan ddefnyddio'r offer canlynol, cyn eu cyhoeddi:
- Gwiriwr Hygyrchedd Microsoft Word
- Gwiriwr Hygyrchedd Adobe Acrobat (os bydd y ddogfen yn cael ei chyhoeddi ar y wefan mewn fformat Adobe PDF)
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym wedi cyflwyno templedi dogfennau gwefan hygyrch newydd ym mis Hydref 2019 i sicrhau bod dogfennau ar-lein yn hygyrch ac y gellir eu defnyddio gan gynifer o bobl â phosibl, gan gynnwys y rhai ag anableddau.
Mae'r templedi a'r canllawiau dogfennau hygyrch yn sicrhau bod dogfennau'n cynnwys y canlynol:
- Penawdau, arddulliau a fformat clir a chyson
- Tablau â strwythur a labeli clir sy'n cynnwys data yn unig
- Bylchau llinell 12 pwynt
- Cyferbyniad lliw digonol
- Darluniau sy'n cynnwys 'testun amgen'
Cyflawnir ein blaenoriaeth gorfforaethol, 'Cymunedau Cysylltiedig' drwy sicrhau y bydd 'gwybodaeth a gwasanaethau'r Cyngor ar gael ar-lein lle bo hynny'n bosibl', fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol.
Paratowyd y dudalen hon ar 3 Gorffennaf 2020.
Fe’i diweddarwyd ar 27 Mai 2022.