Trwydded gweithredwr hurio preifat

Er mwyn rhedeg cwmni tacsis hurio preifat, bydd arnoch angen trwydded gweithredwr hurio preifat. Mae hyn yn cynnwys unrhyw waith sydd wedi’i archebu ymlaen llaw megis cludo i’r maes awyr, partïon hydd neu iâr neu waith tebyg.

Er mwyn cael trwydded gweithredwr yn Sir Ddinbych, mae’n rhaid i’r safle gweithredu (ble y bydd y ffôn yn cael ei ateb a ble y byddwch yn derbyn yr archeb) fod wedi’i leoli yn Sir Ddinbych.

Cyn gwneud cais am drwydded gweithredwr, mae’n rhaid i chi wirio bod gennych y caniatâd cynllunio priodol er mwyn sicrhau os yw eich busnes yn cael ei weithredu o'ch cartref na fydd yn achosi niwsans neu rwystr i'ch cymdogion.

Sut mae gwneud cais?

Er mwyn gwneud cais am drwydded gweithredwr hurio preifat, cwblhewch y ffurflen gais hon a’i dychwelyd atom gyda:

  • datganiad syml o euogfarnau troseddol 
  • trwydded radio wreiddiol (lle bo'n berthnasol) 
  • ffi’r drwydded (£110 am bob 10 cerbyd ar hyn o bryd)

Ffurflen gais am trwydded gweithredwr hurio preifat (PDF, 915KB)

Anfonwch eich cais at:

Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ

Os dymunwch, gellir gwneud apwyntiad i drafod eich cais gyda ni. Ffoniwch 01824 706342 i drefnu hyn.

Datganiad syml o euogfarnau troseddol

Bydd angen datganiad cofnod troseddol fel rhan o’ch cais hefyd. Os ydych eisoes wedi eich trwyddedu fel gyrrwr tacsi ar hyn o bryd, nid oes angen darparu datganiad, gan y bydd datganiad eisoes wedi’i gynnwys yn eich cais am drwydded gyrrwr tacsi. Ond os nad ydych yn yrrwr tacsi trwyddedig ar hyn o bryd, bydd angen darparu datganiad.

Gwnewch gais am ddatganiad ar-lein (gwefan allanol)

Trwydded radio wreiddiol

Os oes gennych offer radio wedi’u gosod yn y ganolfan weithredu, ac ar gyfer cyfathrebu rhwng y safle a’r gyrwyr, bydd angen darparu tystiolaeth bod gennych drwydded radio gyfredol.

Dysgwch fwy am drwyddedau radio gwreiddiol (gwefan allanol)

Rhoi trwydded i chi

Pan fyddwn wedi derbyn yr holl waith papur, byddwn yn gwneud penderfyniad a fyddwn yn rhoi trwydded i chi ai peidio.

Faint fydd y gost?

Mae trwydded gweithredwr hurio preifat ar gyfer hyd at 10 cerbyd yn costio £420 am 5 mlynedd, mae cost ychwanegol o £250 hyd at bob 10 cerbyd ar ôl hynny.

Gweld yr holl ffioedd gyrwyr tacsi, cerbydau a gweithredwyr

Am ba hyd fydd y drwydded yn ddilys?

Mae trwyddedau’n ddilys am 5 mlynedd.

Sut y gallaf dalu?

Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig.

Talu drwy BACS

Mae ein manylion BACS yn:

  • Banc: Natwest, 5 Queen Street, y Rhyl, LL18 1RS
  • Cod Didoli: 54 41 06
  • Rhif y Cyfrif: 22837469
  • Enw’r Cyfrif: Cronfa Sirol Cyngor Sir Ddinbych

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cyfeirnod pan fyddwch chi’n gwneud taliad h.y. yn nodi enw/eiddo/rhif trwydded (os ydych chi’n ei wybod) ynghyd efo Cod Cost. Unwaith y bydd taliad wedi'i wneud, anfonwch gopi o'r taliad at trwyddedu@sirddinbych.gov.uk.

Cod cost

Rhowch y cod cost 3476-40102 wrth wneud taliad trwydded gweithredwr hurio preifat.

Gall methu â darparu’r cod cost priodol neu enw’r eiddo achosi oedi wrth brosesu eich cais.