Cyfrif Public Protection (PP) Cymru ar-lein
Byddwch angen cyfrif ar-lein Public Protection (PP) Cymru i wneud cais am:
- Drwyddedau cerbyd hacni (Tacsi), (newydd, adnewyddu neu drosglwyddo)
- Trwyddedau cerbyd hurio preifat (newydd, adnewyddu neu drosglwyddo)
- Rhybudd digwyddiad dros dro (TENs)
Bydd yn bosib gwneud cais, adnewyddu a throsglwyddo trwyddedau eraill yn fuan trwy PP Cymru.
Sut i gofrestru neu fewngofnodi
Byddwch angen eich cyfeiriad e-bost i gofrestru neu fewngofnodi i’ch cyfrif PP Cymru.
Deiliaid cyfrif yn byw y tu allan i Sir Ddinbych
Os ydych yn byw y tu allan i Sir Ddinbych byddwch angen teipio eich cyfeiriad i mewn wrth ddarparu eich manylion cyswllt yn lle defnyddio’r system chwilio am gyfeiriad.
Cofrestru ar gyfer neu fewngofnodi i’ch cyfrif PP Cymru ar-lein
Dilysu eich cyfrif
Wrth gofrestru ar gyfer cyfrif PP Cymru caiff e-bost ei anfon atoch er mwyn dilysu eich cyfrif. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost hwn. Ni fyddwch wedi cwblhau’r broses gofrestru nes i chi ddilysu'ch cyfrif.
Efallai y bydd angen i chi chwilio am yr e-bost dilysu yn ffolder sbam neu sothach eich system e-bost.
Cyfrineiriau
Rydym yn argymell eich bod yn cadw nodyn o’ch cyfrinair gan y byddwch angen ei ddefnyddio ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol.
Anghofio Cyfrineiriau
Os byddwch yn colli neu’n anghofio eich cyfrinair, cliciwch y ddolen ‘rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair’ ar y dudalen fewngofnodi.
Uwchlwytho dogfennau ychwanegol
Os bydd angen darparu dogfennau ychwanegol ar gyfer cais trwydded PP Cymru bydd yn bosib i chi uwchlwytho llun, delwedd neu ddogfen wedi’i sganio o’ch dyfais. Gwnewch yn siŵr nad oes tanlinell (_) yn enw ffeil y delweddau neu ddogfennau y byddwch yn eu huwchlwytho. Nid yw’n bosib uwchlwytho delweddau neu ddogfennau sydd gyda tanlinell yn enw’r ffeil. Er enghraifft:
- nid yw’n bosib uwchlwytho ffeil gyda’r enw ‘Dogfen_1’
- mae’n bosib uwchlwytho ffeil gyda’r enw ‘Dogfen 1’
Gallwch ail-enwi’r ddelwedd neu ddogfen ar eich dyfais.
Gwneud cais am drwydded ar ddyfais symudol
Os ydych yn gwneud cais am drwydded ar ddyfais symudol efallai y byddwch angen newid i’r opsiwn arddangos y bwrdd gwaith er mwyn gweld yr opsiynau.
Dyfeisiau Android
Dilynwch y camau canlynol os ydych yn defnyddio dyfais Android (h.y. ffôn Samsung neu Google) a bod y rhestr o geisiadau ddim yn ymddangos:
- dewiswch yr eicon ddewislen (tri dot)
- dewiswch ‘safle bwrdd gwaith’ o’r ddewislen
Efallai y byddwch angen chwyddo allan ond fe ddylai’r rhestr o geisiadau ymddangos rŵan.
Dyfeisiadau Apple
Dilynwch y camau canlynol os ydych yn defnyddio dyfais Apple (h.y. iPhone) a bod y rhestr o geisiadau ddim yn ymddangos:
- dewiswch yr eicon ‘AA’ ar y bar chwilio
- dewiswch ‘Cais am Safle Bwrdd Gwaith’
Efallai y byddwch angen chwyddo allan ond fe ddylai’r rhestr o geisiadau ymddangos rŵan.