Gwybodaeth am yrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol
Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cynnig cefnogaeth i unigolion yn y gymuned.
Nod y tîm gofal cymdeithasol yw cefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl. Amcangyfrifir y bydd angen 20,000 yn rhagor o weithwyr gofal ar Gymru erbyn 2030.
Mae gweithwyr cymdeithasol yn bobl anhygoel sy'n darparu gwasanaeth hynod werthfawr i unigolion, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach. Gallai hynny olygu cefnogi plant, teuluoedd neu bobl hŷn gydag amrywiaeth o anghenion.
Mae ein pobl yn angerddol am y gwaith mae'n nhw'n ei wneud. Maent am wneud gwir wahaniaeth a rhoi gwên ar wyneb pobl. Caiff hyn ei gyflawni'n ddyddiol gan ein tîm gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych.
Mae'n timau yn ofalgar, yn dosturiol, yn frwdfrydig ac yn llawn empathi; maent yn gweithio’n ddiflino i wella ansawdd bywyd unigolion yn Sir Ddinbych. Gwneir hyn drwy amrywiaeth o rolau, gyda phawb yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu a chefnogi unigolion a theuluoedd i’w galluogi i arwain bywyd mor annibynnol â phosib.
Ai chi yw'r un ar gyfer y swydd?
Mae cymaint o gyfleoedd gyrfa ar gael mewn gofal cymdeithasol:
- Gweithwyr Cymunedol
- Gweithwyr Gofal a Chymorth
- Gweithiwr Iechyd a gofal cymdeithasol
- Domestig (glanhawyr)
- Arlwyo
Fodd bynnag, rydym angen staff ym mhob maes.
Gallech fod yn gweithio trwy ddarparu gofal cartref yng nghartref rhywun neu gartrefi Byw â Chymorth; neu mewn cartref preswyl.
Mae gennym ystod o gontractau ar gael- llawn amser, rhan amser, parhaol a thymopr penodol.
Yn ogystal a darparu cefnogaeth o fewn y gymuned, mae’n timau yn darparu cefnogaeth yn y lleoliadau canlynol:
- Corwen: Cartref Gofal Preswyl Cysgod y Gaer
- Rhuthun: Fflatiau Cynllun Gofal Tai Ychwanegol Llys Awelon
- Dinbych: Cartref Gofal Preswyl Dolwen
- Y Rhyl: Fflatiau Cynllun Gofal Tai Ychwanegol Gorwel Newydd
- Prestatyn: Fflatiau Cynllun Gofal Tai Ychwanegol Nant y Môr
- Denbighshire wide in people's own homes.
Mae nifer o ffyrdd i mewn i yrfa mewn gofal cymdeithasol a gall yr angen am gymhwyesterau amrywio, yn ddibynnol ar y swydd.
Gwneud i bobl wenu. Mae timau gofal cymdeithasol yn gwneud hyn bob dydd.
Ar gyfer rhai swyddi, bydd angen cymhwyster penodol arnoch, fodd bynnag mae modd dechrau gyrfa fel gweithiwr gofal neu weithiwr cefnogi heb gymwysterau. Byddwch yn cael eich cefnogi i gyflawni unrhyw gymwysterau sydd eu hangen arnoch i wneud eich swydd. Mae digonedd o gyfleoedd i chi ddatblygu gyrfa mewn gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych. Mae sawl un o’n staff, er enghraifft, a ddechreuodd fel gweithwyr gofal wedi ennill cymwysterau a chyflawni eu nodau gyrfa.
Cewch eich cefnogi bob cam o'r ffordd trwy oruchwyliaeth un i un rheolaidd. Bydd y gefnogaeth hon o gymorth i chi gyda setlo yn y rôl, dysgu sgiliau newydd a datblygu fel unigolyn ac fel aelod o dîm.
Y Cyngor fel cyflogwr
O weithio i'r Cyngor, bydd gennych fynediad uniongyrchol at ystod eang o fuddion staff, tebyg i dál cystadleuol a chynllun pensiwn rhagorol. Mae'n darpariaeth gwyliau blynyddol yn hael ac yn cynyddu gyda blynyddoedd mewn gwasanaeth. Mae ein cyflogeion hefyd yn cael mynediad at ddisgowntiau mew cannoedd o siopau ledled Prydain.
Mae ein gweithlu yn hynod o bwysig i ni ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i’ch cefnogi i sicrhau cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.
Rydym eisiau i'n gweithlu adlewyrchu cymdeithas - rydym am i'n swyddi fod yn hygyrch i bawb, sy’n golygu nad ydym yn gwahaniaethu, boed hynny o ran hil, rhyw, anghenion iechyd, rhywioldeb neu hunaniaeth o ran rhywedd.
Byddwn yn gweithio gyda chi i oresgyn unrhyw rwystrau sy’n eich atal o ran gwaith a byddwn yn cefnogi'n holl weithlu er mwyn eu gwneud i deimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi o fewn y gweithle.
Felly, beth mae'r Cyngor yn ei gynnig?
- Tîm gwych!
- Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd
- Cyflogwr cynhwysol
- Gwyliau blynyddol hael
- Cyfraddau cyflog cystadleuol
- Mewn rhai achosion cerbyd Cyngor ar gyfer gweithwyr symudol
- Oriau Cytundebol
- Hyfforddiant ymsefydlu llawn a chefnogaeth reolaidd gan reolwyr
- Camu ymlaen yn eich gyrfa
- Cyfleoedd hyfforddi rhagorol
- Rhaglen cymorth i weithwyr
- Telir ffioedd cofrestru
- Mynediad at gymorth gan undeb lafur
- Cyfraddau gostyngol o ran gwasanaethau adloniant, manwerthu ac ariannol
- Mynediad at gynllun pensiwn
Cysylltwch â ni
Os oes yna unrhyw beth nad ydym wedi sôn amdano ac yr hoffech chi ragor o wybodaeth amdano, neu os ydych chi wedi penderfynu mai gofal cymdeithasol yw'r yrfa i chi ac yr hoffech chi fynegi eich diddordeb i fynychu gweithdy, cysylltwch â ni drwy gwblhau ein ffurflen ymholiadau.
Swyddi ym maes Gofal Cymdeithasol: Ffurflen ymholiadau
Gwneud i bobl wenu. Mae timau gofal cymdeithasol yn gwneud hyn bob dydd.