Mae Sir Ddinbych yn ymestyn o gyrchfannau arfordirol y Rhyl a Phrestatyn yn y gogledd, trwy Ddyffryn Clwyd a thros Fwlch yr Oernant i harddwch Dyffryn Dyfrdwy. Mae tref brysur Llangollen yn gartref i’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol a gynhelir yn flynyddol ac ar gyrion camlas Llangollen a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte a ddynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd yn ddiweddar.
Nid yn unig ein bod ni’n ddigon ffodus o fod wedi ein lleoli mewn rhan brydferth o’r Deyrnas Unedig, mae gennym ni hefyd gysylltiadau cludiant ardderchog. Tua’r dwyrain ar hyd yr A55, mae Lerpwl a Chaer yn daith awr yn y car, a Chaergybi a Manceinion ond 20 munud ymhellach.
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw ffin ucheldir dramatig Gogledd Cymru, ac mae’n cynnwys rhai o ardaloedd cefn gwlad mwyaf godidog y wlad. Mae Bryniau Clwyd yn gadwyn ddigamsyniol o gopaon wedi’u gorchuddio â grug porffor, ac arnynt fryngaerau mwyaf trawiadol Prydain. Y tu hwnt i Fwlch yr Oernant, dros Fynydd Llantysilio, mae dyffryn gogoneddus Dyffryn Dyfrdwy a thref farchnad enwog a hanesyddol Llangollen, sydd ag etifeddiaeth ddiwylliannol a diwydiannol cryf.
Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa’n rhedeg drwy'r ardal warchodedig arbennig hon, perl nad oes llawer yn gwybod amdani, ond mae’n un o dirweddau mwyaf croesawgar Prydain ac yn un o’r hawsaf i archwilio ar ei hyd.
Mae Sir Ddinbych yn unigryw am ei natur, ei hanes a’i phobl. Mae yma dair tirwedd nodweddiadol a grëwyd gan natur; yr arfordir, yr ucheldiroedd a’r dyffrynnoedd afonydd cyferbyniol, yn aros i gael eu harchwilio, ynghyd â’r newidiadau a wnaed iddynt gan genedlaethau dirifedi o breswylwyr a goresgynwyr. Dyma lle’r oedd y Cymry hysbys cyntaf yn byw, bron i 250,000 o flynyddoedd yn ôl. Rŵan, mae heddwch y dirwedd wledig a’r arfordir baner las yn cymysgu’n gydnaws â threfi a phentrefi sy’n ffynnu, yn cefnogi amrywiaeth amrywiol o breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd ac yn creu sir sy’n gyfoeth o ddiwylliant.
Mae stori Sir Ddinbych hanesyddol yn yr un modd wedi’i chroniclo yn ei hetifeddiaeth o ffynhonnau sanctaidd ac eglwysi nodweddiadol, gyda llawer ohonynt wedi’u codi yng nghyfnod y Tuduriaid pan ddaeth Sir Ddinbych yn bwerdy ffyniannus a diwylliedig Dadeni Cymru. Mae’r trefi hanesyddol, pentrefi deniadol a’r tai hanesyddol amrywiol oll o gymorth i adrodd hanes Sir Ddinbych: ac er nad adawodd y Chwyldro Diwydiannol ôl trwm ar y sir fodern, gellir olrhain ei threftadaeth ddiwydiannol o hyd, yn aml mewn lleoliadau heddychlon yn ei pharciau gwledig a’i thirlun ysblennydd.
Mae ei chwedlau, ei hynodbethau a’i chysylltiadau â phobl enwog oll yn ychwanegu at gymeriad Sir Ddinbych. Felly hefyd y ffaith y siaredir Cymraeg a Saesneg yn ei threfi a’i phentrefi, gan fod natur a hanes wedi sicrhau mai Sir Ddinbych yw’r sir fwyaf nodweddiadol Gymreig o siroedd y ffin ddwyreiniol o hyd.
Yn syml felly, mae Sir Ddinbych yn sir hardd.