Lleoedd mewn dosbarth derbyn

Gall plant fynychu dosbarth derbyn, naill ai mewn ysgol fabanod neu ysgol gynradd, y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn ar gyfer plant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021 oedd 18 Tachwedd 2024.

Os ydych wedi gwneud cais yn barod, byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 16 Ebrill 2025.

Gwneud cais ar ôl y dyddiad cau

Os ydych yn ymgeisio ar ôl y dyddiad cau, bydd eich cais yn cael ei brosesu ar ôl trin â'r holl geisiadau a ddaeth i law ar amser. Mae hyn yn golygu y gall eich ysgol ddewisol fod yn llawn erbyn yr amser y byddwn yn prosesu'ch cais, ac am y rheswm hwn, rydym yn argymell eich bod yn nodi mwy nag un dewis wrth ymgeisio.

Bydd ceisiadau hwyr a ddaw i law yn cael eu hystyried gyda’i gilydd, waeth beth oedd y dyddiad y daethant i law, yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio yng nghanllaw Ysgolion Sir Ddinbych.

Os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais oedd ar amser ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.

Sut i wneud cais am le mewn ysgol

Bydd arnoch chi angen cyfrif Hunan-wasanaeth Addysg i wneud cais am le mewn ysgol. Gallwch greu eich cyfrif Hunanwasanaeth Addysg cyn i gyfnod ymgeisio ddechrau.

Creu neu fewngofnodi i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Addysg

Canfod rhagor am gyfrifon Hunan-wasanaeth Addysg.

Newid cais ar ôl ei gyflwyno

Ar ôl cyflwyno cais am le mewn ysgol, os hoffech chi newid unrhyw beth, bydd cyfnod byr lle bydd modd i chi ddad-gyflwyno eich cais drwy eich cyfrif Hunan-wasanaeth Aelodau a chyflwyno un newydd. Os nad ydych yn gweld opsiwn i ddad-gyflwyno cais, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais i roi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol.

Bydd ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau’n cael eu hystyried fel ceisiadau prydlon. Gallwch wneud unrhyw newidiadau o fewn y cyfnod hwn ac ni fydd hyn yn cael effaith ar statws prydlon eich cais.

Fodd bynnag, os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais a gyflwynwyd yn brydlon ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.

Rhoi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol (ffurflen gais)

Ysgolion cynradd yn Sir Ddinbych

Dewiswch un o’r opsiynau canlynol i weld pa ysgolion sy’n addysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Pob ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Ddinbych

Pob ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Ddinbych

Betws Gwerfil Goch

Ysgol Betws Gwerfil Goch

Clocaenog a Cyffylliog

Ysgol Carreg Emlyn

Cynwyd

Ysgol Bro Dyfrdwy

Dinbych

Gwyddelwern

Ysgol Bro Elwern

Henllan

Ysgol Henllan

Llanelwy

Ysgol Tremeirchion

Llangollen

Ysgol Gymraeg y Gwernant

Pentrecelyn

Ysgol Pentrecelyn

Prestatyn

Ysgol Y Llys

Rhuthun

Ysgol Pen Barras

Y Rhyl

Ysgol Dewi Sant

Addysg cyfrwng Cymraeg

Nid oes gwell amser erioed wedi bod i ddysgu Cymraeg. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor i weld y Gymraeg yn ffynnu gyda miliwn o bobl yn gallu ei siarad erbyn 2050.

Mae dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn cynnig mantais yn addysgol, diwylliannol ac mewn cyflogaeth.

Darganfyddwch mwy am addysg cyfrwng Cymraeg

Canllawiau gwybodaeth ysgolion