Hunan-wasanaeth Addysg

Bydd arnoch chi angen cyfrif Hunan-wasanaeth Addysg i wneud cais am le mewn ysgol yn Sir Ddinbych.

Trosglwyddo rhwng ysgolion

Nid oes angen cyfrif Hunan-wasanaeth Addysg arnoch os hoffech wneud cais i’ch plentyn drosglwyddo o un ysgol i ysgol arall.

Canfod mwy am drosglwyddo o un ysgol i ysgol arall

Sut i greu neu fewngofnodi i gyfrif

Gallwch greu cyfrif Hunanwasanaeth Addysg cyn i’r cyfnod ymgeisio ddechrau.

Creu neu fewngofnodi i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Addysg

Dilysu’r cyfrif

Wrth gofrestru ar gyfer cyfrif Hunanwasanaeth Addysg, caiff e-bost ei anfon atoch er mwyn dilysu eich cyfrif. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost hwn. Ni fyddwch wedi cwblhau’r broses gofrestru nes i chi ddilysu'ch cyfrif

Efallai y bydd angen i chi chwilio am yr e-bost dilysu yn ffolder sbam neu sothach eich system e-bost

Cyfrineiriau

Wrth greu cyfrinair ar gyfer eich cyfrif, dim ond y nodau canlynol y gallwch eu defnyddio:

  • rhifau
  • priflythrennau / llythrennau bach
  • y nodau arbennig canlynol @ ; : # ~ * & ^ % $ ! ) (  

Os ydych chi'n defnyddio generadur cyfrinair, gwiriwch eich fod yn defnyddio'r cymeriadau a ganiateir yn unig.

Wedi colli neu anghofio cyfrinair

Os byddwch yn colli neu’n anghofio eich cyfrinair, cliciwch y ddolen ‘rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair’ ar y dudalen fewngofnodi.

Rhoi gwybod am broblem

Gallwch roi gwybod am broblem am yr Hunanwasanaeth Addysg ar-lein.

Rhoi gwybod am broblem gyda’r Hunanwasanaeth Addysg

Pryd i greu cyfrif ac ymgeisio

Gallwch greu cyfrif ar unrhyw bryd, ond bydd ceisiadau ond ar gael ar adegau penodol o’r flwyddyn.

Lleoedd Meithrin

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin ar gyfer plant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022 oedd 17 Chwefror 2025.

Os ydych wedi gwneud cais yn barod, byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 6 Mai 2025.


Lleoedd derbyn

Ar gyfer lleoedd mewn dosbarth derbyn 2025:

  • roedd y cyfnod ymgeisio ar agor rhwng 23 Medi 2024 a 18 Tachwedd 2024, ac roedd ceisiadau’n cael eu gwneud trwy gyfrifon Hunan-wasanaeth Addysg
  • gellid cyflwyno ceisiadau hwyr rhwng 18 Tachwedd 2024 a 16 Mawrth 2025 trwy’r cyfrifon Hunan-wasanaeth Addysg, caiff y rhain eu prosesu ar ôl pob cais a gafodd eu cyflwyno’n brydlon
  • gallwch gyflwyno cais am le mewn dosbarth derbyn rŵan, ond mae’n rhaid ei gyflwyno trwy ffurflen ar-lein ar wahân (nid trwy gyfrif Hunan-wasanaeth Addysg) a chaiff y rhain eu prosesu ar ôl 16 Ebrill 2025

Ewch i'n tudalen lleoedd mewn dosbarth derbyn i wneud cais am le mewn dosbarth derbyn.


Lleoedd Iau (blwyddyn 3)

Ar gyfer lleoedd mewn ysgol iau (blwyddyn 3) 2025:

  • roedd y cyfnod ymgeisio ar agor rhwng 23 Medi 2024 a 18 Tachwedd 2024, ac roedd ceisiadau’n cael eu gwneud trwy gyfrifon Hunan-wasanaeth Addysg
  • gellid cyflwyno ceisiadau hwyr rhwng 18 Tachwedd 2024 a 16 Mawrth 2025 trwy’r cyfrifon Hunan-wasanaeth Addysg, caiff y rhain eu prosesu ar ôl pob cais a gafodd eu cyflwyno’n brydlon
  • gallwch gyflwyno cais am lle mewn ysgol iau (blwyddyn 3) rŵan, ond mae’n rhaid ei gyflwyno trwy ffurflen ar-lein ar wahân (nid trwy gyfrif Hunan-wasanaeth Addysg) a chaiff y rhain eu prosesu ar ôl 16 Ebrill 2025

Ewch i'n tudalen lleoedd iau i wneud cais am le mewn ysgol iau.


Lleoedd ysgol uwchradd

Ar gyfer lleoedd ysgol uwchradd 2025:

  • roedd y cyfnod ymgeisio ar agor rhwng 2 Medi 2024 a 4 Tachwedd 2024, ac roedd ceisiadau’n cael eu gwneud trwy gyfrifon Hunan-wasanaeth Addysg
  • gellid cyflwyno ceisiadau hwyr rhwng 4 Tachwedd 2024 a 3 Chwefror 2025 trwy’r cyfrifon Hunan-wasanaeth Addysg, caiff y rhain eu prosesu ar ôl pob cais a gafodd eu cyflwyno’n brydlon
  • gallwch gyflwyno cais am le mewn ysgol uwchradd rŵan, ond mae’n rhaid ei gyflwyno trwy ffurflen ar-lein ar wahân (nid trwy gyfrif Hunan-wasanaeth Addysg) a chaiff y rhain eu prosesu ar ôl 3 Mawrth 2025

Ewch i'n tudalen lleoedd ysgol uwchradd i wneud cais am le mewn ysgol uwchradd.

Newid cais ar ôl ei gyflwyno

Ar ôl cyflwyno cais am le mewn ysgol, os hoffech chi newid unrhyw beth, bydd cyfnod byr lle bydd modd i chi ddad-gyflwyno eich cais drwy eich cyfrif Hunan-wasanaeth Aelodau a chyflwyno un newydd. Os nad ydych yn gweld opsiwn i ddad-gyflwyno cais, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais i roi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol.

Bydd ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau’n cael eu hystyried fel ceisiadau prydlon. Gallwch wneud unrhyw newidiadau o fewn y cyfnod hwn ac ni fydd hyn yn cael effaith ar statws prydlon eich cais.

Fodd bynnag, os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais a gyflwynwyd yn brydlon ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.

Rhoi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol (ffurflen gais)