Mae ar unigolion a busnesau angen trwydded eiddo i werthu alcohol, i werthu bwyd poeth a diod rhwng 11pm a 5am, ac i ddarparu adloniant wedi ei reoleiddio. Mae hyn yn cynnwys:
Mi fydd angen trwydded arnoch chi hyd yn oes os ydi’r digwyddiad er budd elusen.
Os ydych chi’n rhedeg clwb preifat fe allwch chi ymgeisio am dystysgrif adeilad clwb yn lle trwydded eiddo.
Rhaid anfon ceisiadau i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer ardal eich eiddo.
Os ydych chi’n adeiladu neu’n addasu eiddo ac yn bwriadu ei wneud yn eiddo trwyddedig, fe allwch chi wneud cais am ddatganiad dros dro.
Rydym yn argymell eich bod yn darllen drwy ein Polisi Datganiad Trwyddedu
Polisi Datganiad Trwyddedu (PDF, 1MB)
Gwneud cais am drwydded eiddo
Os ydych yn bwriadu gwneud cais am drwydded eiddo sy’n caniatáu i chi werthu a chyflenwi alcohol, bydd angen y canlynol arnoch hefyd:
Trwyddedu a Chynllunio
Mae rheolau Trwyddedu a Chynllunio yn wahanol. Ni fydd Rhoi Trwydded Eiddo yn rhoi unrhyw awdurdodiad i chi o dan ddeddfwriaeth Cynllunio.
Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio a oes caniatâd cynllunio yn ei le ar gyfer y math neu oriau masnachu yr hoffech eu gweithredu.
Dylech ymchwilio i unrhyw ofynion caniatâd cynllunio cyn cyflwyno cais am drwydded eiddo.
Ewch i'n tudalen caniatâd cynllunio
Sut i wneud cais
Y ffordd hawsaf a chyflymaf i ymgeisio am drwydded eiddo ydi ar-lein.
Ymgeisio am drwydded eiddo ar-lein (gwefan allanol)
Os ydi o’n well gennych fe allwch chi lenwi copi papur o’r ffurflen gais – fe allwch chi lawrlwytho copi o wefan gov.uk (gwefan allanol).
Gwybodaeth ychwanegol y bydd angen i chi ei darparu gyda'ch cais
Wrth wneud cais, bydd angen i chi ddarparu:
- atodlen weithredu
- cynllun o’r eiddo
- ffurflen ganiatâd (gwefan allanol) y goruchwyliwr eiddo dynodedig (ar gyfer ceisiadau ble byddai gwerthu alcohol yn weithgaredd trwyddedadwy)
- prawf o hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
Atodlen weithredu
Bydd atodlen weithredu yn cynnwys manylion:
- gweithgareddau trwyddedadwy
- yr oriau bydd y gweithgareddau yn cael eu cynnal
- unrhyw adeg arall bydd yr eiddo ar agor i’r cyhoedd
- ar gyfer ymgeiswyr sy’n dymuno cael trwydded gyfyngedig, y cyfnod sydd angen y drwydded ar ei gyfer
- gwybodaeth am y goruchwyliwr eiddo
- a yw’r alcohol yn cael ei werthu i'w yfed ar, neu oddi ar yr eiddo, neu'r ddau
- y camau arfaethedig i’w cymryd i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
- unrhyw wybodaeth arall
Hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
Rhaid i ymgeiswyr am Drwyddedau Personol brofi bod ganddynt yr hawl gyfreithiol i weithio yn y DU, trwy ddarparu copïau o ddogfennau swyddogol yn dangos eu bod naill ai
- yn ddinesydd Prydeinig
- yn wladolyn o wlad AEE neu'r Swistir
- gyda chaniatâd amhenodol i aros a gweithio yn y DU
- gyda chaniatâd mewnfudo arall sy'n caniatáu iddynt weithio'n gyfreithlon mewn maes sy'n berthnasol i werthu alcohol
Gweld canllawiau swyddogol ar y mathau o ddogfennau sy’n dderbyniol ar gyfer gwirio hawl cyflogai i weithio (gwefan allanol)
Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol ar gyfer Hawl i Weithio drwy'r post, ond anfonwch lungopïau o ansawdd da o'r holl dudalennau perthnasol.
Gallwn ofyn am ddogfennaeth bellach neu gynnal gwiriadau pellach gyda’r Swyddfa Gartref os yw Statws Mewnfudo Ymgeisydd yn aneglur. Ni ellir rhoi trwyddedau personol i unrhyw berson nad oes ganddo'r hawl i weithio yn y DU.
Awdurdodau Cyfrifol
Pan rydych chi’n ymgeisio am drwydded eiddo bydd gofyn i chi anfon copi cyflawn o’ch cais i’r Awdurdodau Cyfrifol. Asiantaethau ydi’r rhain sydd â phwerau penodol dan y Ddeddf Drwyddedu i hyrwyddo'r pedwar amcan trwyddedu:
- Atal trosedd ac anhrefn
- Diogelu plant rhag niwed
- Diogelwch y cyhoedd
- Atal niwsans cyhoeddus
Hysbysebu’ch cais
Wrth wneud cais am drwydded eiddo mae’n rhaid i chi hysbysebu’r cais yn y wasg leol ac yn yr eiddo am 28 diwrnod.
Nodiadau Canllaw Hysbysiad Cyhoeddus (PDF, 131KB)
Am ba mor hir mae'r drwydded yn ddilys?
Mae trwydded safle yn ddilys am gyfnod amhenodol o'r dyddiad y'i cyhoeddir. Fodd bynnag, gallwch ofyn i'r drwydded ddod i ben ar ôl dyddiad penodol.
Faint mae’n costio?
Mae’r ffi ar gyfer trwydded eiddo yn dibynnu ar werth ardrethol annomestig yr eiddo. Mae manylion am y ffioedd ar gov.uk (external website).
Codir ffi cynnal a chadw blynyddol hefyd ar gyfer y drwydded, a fydd yn daladwy bob blwyddyn ar y dyddiad y rhoddwyd y drwydded.
Sut y gallaf dalu?
Bydd angen i chi wneud taliad wrth wneud cais ar-lein drwy GOV.UK.
Prosesu ac Amserlenni
Rhaid i ni ddelio gyda’ch cais o fewn 28 diwrnod a gwirio bod yr hysbysiad cyhoeddus wedi ei arddangos, gellir archwilio’r eiddo cyn ystyried eich cais.
Ar ôl 28 diwrnod, os nad oes unrhyw sylwadau, caiff y drwydded ei chymeradwyo.
Os gwnaed sylwadau yn dilyn yr ymgynghoriad 28 diwrnod h.y. cyflwyno amodau gan awdurdod cyfrifol a chyrraedd cytundeb gan bob parti i addasu’r cais i gynnwys yr amodau hyn, trefnir gwrandawiad Is-bwyllgor Trwyddedu cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Swyddogaeth weinyddol fydd hon ac ni fydd angen i’r ymgeisydd fod yn bresennol. Nid yw’r Ddeddf Drwyddedu yn caniatáu unrhyw newid neu addasiad i gais ar ôl ei gyflwyno i’r Awdurdod Trwyddedu, felly gellir ond atodi unrhyw addasiad h.y. amodau cytunedig ychwanegol, i drwydded gan Aelodau o’r Is-bwyllgor Trwyddedu.
Os gwnaed sylwadau ac ni ellir dod i gytundeb ynghylch unrhyw addasiadau/amodau yn dilyn cyfryngu, trefnir gwrandawiad o’r Is-bwyllgor Trwyddedu o fewn 20 diwrnod gwaith yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori 28 diwrnod. Gwahoddir bob parti i fod yn bresennol. Gall y Pwyllgor ganiatáu’r Drwydded, caniatáu gydag addasiadau neu wrthod y cais.
Bydd yr awdurdod trwyddedu yn cyflwyno hysbysiad o’i benderfyniad i’r ymgeisydd, unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau perthnasol a phrif swyddog yr heddlu.
Dulliau Apelio/Unioni
- Os gwrthodir cais, gall yr ymgeisydd apelio’r penderfyniad.
- Mae’n rhaid apelio i’r llys ynadon o fewn 21 diwrnod i’r penderfyniad.
- Gall ddeiliad y drwydded apelio yn erbyn penderfyniad i roi amodau ar drwydded neu i eithrio unrhyw weithgaredd trwyddedadwy.
Deddfwriaeth ac Amodau
Deddf Trwyddedu 2003 (gwefan allanol)
Arddangos eich trwydded
Rhaid i chi arddangos 'crynodeb trwydded' yn eich safle lle gellir ei weld yn hawdd.
Dylid cadw tudalennau eraill y drwydded yn ddiogel yn y safle. Gall yr heddlu neu swyddogion y cyngor ofyn am eu harchwilio ar unrhyw adeg.
Manylion Cyswllt
Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ
Mân amrywiad i drwydded eiddo neu dystysgrif clwb
Mae’n bosibl gwneud mân newidiadau i drwydded eiddo neu dystysgrif eiddo clwb drwy’r broses mân amrywiadau.
Darganfyddwch fwy am y broses mân amrywiadau.