Mân amrywiad i drwydded eiddo neu dystysgrif clwb
Mae’n bosibl gwneud mân newidiadau i drwydded eiddo neu dystysgrif eiddo clwb drwy’r broses mân amrywiadau, sy’n rhatach, yn haws ac yn gyflymach na’r broses amrywiad llawn.
Dim ond ar gyfer amrywiadau na allai gael unrhyw effaith niweidiol ar hyrwyddo unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu y gellir defnyddio’r broses mân amrywiadau. Y rhain yw:
- atal trosedd ac anrhefn
- diogelwch y cyhoedd
- atal niwsans cyhoeddus
- amddiffyn plant rhag niwed
Ar gyfer beth y gellir defnyddio mân amrywiad?
Gellir defnyddio’r broses mân amrywiadau i:
- dileu amodau sydd wedi dyddio neu'n annilys
- adolygu amodau sy'n aneglur (os yw'r bwriad a'r effaith yn aros yr un fath).
- ychwanegu amod newydd a wirfoddolir gan yr ymgeisydd neu a gytunir ar y cyd rhwng yr ymgeisydd a'r awdurdod cyfrifol, megis yr heddlu neu'r awdurdod iechyd yr amgylchedd (yn amodol ar yr effaith ar yr amcanion trwyddedu).
Ni ellir defnyddio’r broses mân amrywiadau i:
- ymestyn y cyfnod y mae'r drwydded mewn grym
- amrywio'n sylweddol yr eiddo mae'n ymwneud ag ef
- bennu, mewn trwydded eiddo, unigolyn fel goruchwyliwr eiddo dynodedig
- ychwanegu adwerthu neu gyflenwi alcohol fel gweithgaredd a awdurdodir gan drwydded neu dystysgrif
- awdurdodi adwerthu neu gyflenwi alcohol ar unrhyw adeg rhwng 11pm a 7pm
- awdurdodi cynnydd yn y swm o amser ar unrhyw ddiwrnod pryd y gellir gwerthu alcohol drwy adwerthu neu ei gyflenwi
- cynnwys yr amod trwydded amgen y cyfeirir ati yn adran 41D (3) Deddf Trwyddedu 2003 mewn trwydded eiddo.
Trwyddedu a Chynllunio
Mae rheolau Trwyddedu a Chynllunio yn wahanol. Ni fydd Rhoi Trwydded Eiddo yn rhoi unrhyw awdurdodiad i chi o dan ddeddfwriaeth Cynllunio.
Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio a oes caniatâd cynllunio yn ei le ar gyfer y math neu oriau masnachu yr hoffech eu gweithredu.
Dylech ymchwilio i unrhyw ofynion caniatâd cynllunio cyn cyflwyno cais am drwydded eiddo.
Ewch i'n tudalen caniatâd cynllunio
Sut i wneud cais am fân amrywiad i drwydded eiddo neu dystysgrif clwb
Bydd angen i chi ymweld â GOV.UK i wneud cais am fân amrywiad i drwydded eiddo neu dystysgrif clwb.
Wrth gyflwyno'ch cais, efallai y bydd angen i chi ddarparu cynllun eiddo. Gallwch gael gwybodaeth am yr hyn y dylai'r cynlluniau ei gynnwys yn ein Nodiadau Canllaw Cynlluniau Eiddo.
Nodiadau Canllaw Cynlluniau Eiddo (PDF, 83KB)
Ewch i GOV.UK i wneud cais am fân amrywiad i drwydded eiddo neu dystysgrif clwb (gwefan allanol)
Faint mae’n ei gostio?
Mae'n costio £89 i wneud cais am fân amrywiad.
Penderfynu ar gais
Mae gan yr Awdurdod Trwyddedu 15 diwrnod gwaith i brosesu a phenderfynu ar y cais o'r diwrnod ar ôl derbyn y cais.
Swyddogion Trwyddedu sy'n penderfynu ar geisiadau. Os derbynnir unrhyw sylwadau perthnasol gan Awdurdod Cyfrifol neu unrhyw berson arall, yna rhaid i Swyddogion Trwyddedu wrthod y cais gan nad oes hawl i wrandawiad. Fodd bynnag, gallwch ailgyflwyno drwy'r broses amrywiad llawn.