Ceisiadau trwyddedau eiddo

Rydym yn cyhoeddi manylion ceisiadau ar gyfer dyfarnu neu amrywio trwyddedau eiddo neu drwyddedau eiddo clwb sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Mae’r rhestr hon yn cael ei diweddaru yn wythnosol.

Ceisiadau a dderbyniwyd rhwng 24 Mehefin a 28 Mehefin 2024

Restaurant Dishes LTD

194 – 196 High Street
Prestatyn
Sir Ddinbych
LL19 9BW

  • Math o drwydded: Adeilad
  • Amrywiad neu grant: Grant
  • Dyddiad y daeth i law: Dydd Iau 27 Mehefin 2024
  • Rhifau trwydded: Amherthnasol
  • Oriau gweithredu: Dydd Llun i ddydd Sadwrn - hanner dydd tan 11pm
  • Gweithgareddau’r drwydded: Alcohol
  • Dyddiad olaf ar gyfer sylwadau perthnasol: Dydd Iau 25 Gorffennaf 2024
Ceisiadau a dderbyniwyd rhwng 3 Mehefin a 7 Mehefin 2024

Valley Spice

The Square
Central Court
Corwen
Sir Ddinbych
LL18 1RP

  • Math o drwydded: Adeilad
  • Amrywiad neu grant: Grant
  • Dyddiad y daeth i law: Dydd Iau 6 Mehefin 2024
  • Rhifau trwydded: Amherthnasol
  • Oriau gweithredu: Dydd Llun i ddydd Sul - 4:30pm tan 11pm
  • Gweithgareddau’r drwydded: Alcohol
  • Dyddiad olaf ar gyfer sylwadau perthnasol: Dydd Iau 4 Gorffennaf 2024

The Glanglasfor

1 Glanglasfor
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1RP

  • Math o drwydded: Adeilad
  • Amrywiad neu grant: Grant
  • Dyddiad y daeth i law: Dydd Mawrth 4 Mehefin 2024
  • Rhifau trwydded: Amherthnasol
  • Oriau gweithredu: Dydd Llun i ddydd Sul - 11am tan hanner nos
  • Gweithgareddau’r drwydded: Alcohol
  • Dyddiad olaf ar gyfer sylwadau perthnasol: Dydd Mawrth 2 Gorffennaf 2024

Sylwadau

Os oes gennych bryder y bydd cais am drwydded eiddo yn cael effaith negyddol arnoch chi neu’ch teulu, gallwch ei wrthwynebu trwy gyflwyno sylwadau i’r cyngor. Mae hyn yn berthnasol i geisiadau newydd am drwydded ac am drwyddedau i amrywio (newid) trwyddedau presennol

Sut ydw i'n gwneud sylwadau?

Gallwch naill ai wneud trefniadau fel unigolyn neu fel grŵp. Dim ond ynglŷn â sut y bydd y cais yn effeithio arnoch chi neu eich grŵp y mae modd cyflwyno sylwadau a hynny o dan bedwar prif nod y Ddeddf Drwyddedu 2003, sef: 

  • atal trosedd ac anrhefn
  • atal niwsans cyhoeddus 
  • diogelwch y cyhoedd 
  • diogelu plant rhag niwed

Golyga hyn y gallwch wrthwynebu unrhyw drwydded sy’n cael ei rhoi, ofyn i amseroedd gael eu newid neu i amodau gael eu hychwanegu, cyhyd ag y gellir cysylltu eich sylwadau ag un o bedwar nod y Ddeddf.

I gyflwyno sylwadau, ysgrifennwch lythyr atom yn cynnwys eich manylion, manylion yr eiddo dan sylw, manylion ynglŷn â’ch gwrthwynebiad, ac unrhyw amodau yr ydych chi yn eu hawgrymu a allai liniaru eich pryderon pe byddent yn cael eu gweithredu. Anfonwch y llythyr at: 

Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwalad
Caledfryn
Ffordd y Ffair
Dinbych
Sir Ddinbych
LL16 3RJ

Gallwch hefyd anfon eich sylwadau ar e-bost at trwyddedu@sirddinbych.gov.uk. Os ydych yn ein e-bostio, gwnewch yn siŵr bod eich sylwadau yn cynnwys eich llofnod wedi ei sganio.

Deddf Trwyddedu 2003 - Ffurflen Sylwadau (PDF, 125KB)

Er mwyn i’ch sylwadau gael eu hystyried, mae’n rhaid i ni eu derbyn erbyn y dyddiad cau a ddangosir ar y rhestr o geisiadau cyfredol.