Mae amrywiaeth y rolau yng Nghyngor Sir Ddinbych yn golygu y bydd y broses gyfweld yn amrywio o rôl i rôl. Rydym am i’n cyfweliadau eich galluogi i ddangos eich sgiliau a’ch profiad, a’n helpu i ddeall a ydych yn cyd-fynd â gwerthoedd Sir Ddinbych.
Ein Gweledigaeth, Gwerthoedd ac Egwyddorion.
Sut fydda i'n gwybod pryd fydd fy nghyfweliad?
Byddwch yn cael cadarnhad o'r dyddiad, amser a lleoliad drwy e-bost gan yr adran AD. Mae’r cyngor yn anelu at roi o leiaf wythnos o rybudd i chi, er lle mae hyn wedi’i nodi ar y pecyn hysbysebu gallai fod yn llai.
Sut fydda i'n gwybod a oes unrhyw gyflwyniadau, asesiadau neu ymarferion?
Bydd manylion unrhyw ymarferion, asesiadau neu gyflwyniadau ychwanegol yn cael eu darparu yn yr e-bost 'gwahoddiad i'r cyfweliad'.
Siaradwch â'r rheolwr recriwtio neu Adnoddau Dynol os oes gennych bryderon am y cyfweliad neu'r broses asesu neu os oes unrhyw addasiadau y gallwn eu gwneud i'ch galluogi i wneud eich gorau ar y diwrnod.
A fydd modd i mi ofyn cwestiynau yn y cyfweliad?
Wrth gwrs! Mae'r cyfweliad yn gyfle i ddod i'n hadnabod felly mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn y cyfweliad.