Sut ydw i'n gwneud cais am swydd wag?
Gallwch wneud cais am swydd wag ar-lein drwy'r broses recriwtio ar y we. Bydd y system hon yn cadw eich manylion ar y system gan olygu y gallwch wneud cais yn gynt y tro nesaf. Ni ellir derbyn CVs ar eu pen eu hunain, ac yn lle hynny mae'n rhaid eu hanfon mewn e-bost at cyswlltad@sirddinbych.gov.uk i'w cynnwys gyda'r ffurflen gais ar-lein.
I wneud cais am ffurflen gais mewn fformat arall, er enghraifft, braille, tâp neu ddisg sain, cysylltwch â'r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Corfforaethol ar 01824 706000 neu anfonwch e-bost at gwasanaethcwsmer@sirddinbych.gov.uk.
Mewn rhai achosion, ar gyfer rolau gradd is lle nad oes angen sgiliau darllen neu ysgrifennu, efallai y bydd fformatau recriwtio amgen ar gael lle bydd ymgeiswyr yn mynd i gyfweliad gyda'u CV a dogfennau ategol, ac nid oes rhaid iddynt lenwi ffurflen gais i'w hystyried. Mewn achos o’r fath, bydd yn cael ei esbonio'n glir ar yr hysbyseb. Os na nodir hyn yn glir ar yr hysbyseb, rhaid i ymgeiswyr ddilyn y mesurau uchod i wneud cais am swydd.
Ydych chi'n derbyn CVs?
Ar y cyfan, nid ydym ni'n derbyn CVs. Gofynnwn i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais am swydd wag yn hytrach na chyflwyno CV gan ein bod yn meddwl bod hyn yn rhoi'r cyfle gorau i chi arddangos eich sgiliau a'ch profiad ar gyfer rôl.
Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein proses yn deg i bob ymgeisydd a bod yr un meini prawf yn cael eu hystyried.
O bryd i'w gilydd mae rolau lle gellir derbyn CV, ac os felly, bydd yn cael ei nodi’n glir ar y swydd-ddisgrifiad.
Mae gen i ddiddordeb mewn sawl swydd yr ydych wedi'u hysbysebu; alla i lenwi un ffurflen ar gyfer y gwahanol swyddi?
Na. Mae gan bob un o'n swyddi gyfeirnod unigryw gyda swydd-ddisgrifiad a manylion am yr unigolyn sy'n berthnasol i'r swydd honno. Rhaid i bob ffurflen gais gael ei theilwra i bob swydd.
Sut fydda i’n gwybod eich bod wedi cael fy ffurflen gais?
Pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein, byddwch yn cael e-bost awtomataidd i ddweud bod eich ffurflen wedi'i chyflwyno. Os na fyddwch wedi cael e-bost o fewn 24 awr, gwiriwch eich ffolderi spam/junk. Os byddwch chi’n dal heb gael e-bost, anfonwch e-bost at cyswlltad@sirddinbych.gov.uk.
A allaf drefnu dyddiad cyfweliad arall os nad wyf ar gael ar gyfer y cyfweliadau a drefnwyd?
Mae'n anodd iawn darparu ar gyfer dyddiadau cyfweld amgen lle gall holl aelodau'r panel cyfweld ailgynnull. Byddai hefyd yn gohirio'r broses recriwtio.
Dyna pam bod y cyngor yn sicrhau bod y mwyafrif o hysbysebion swyddi yn nodi dyddiad y cyfweliad, fel bod ymgeiswyr yn gwybod ymlaen llaw pryd y bydd angen iddyn nhw fynychu os byddan nhw ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Beth yw’r meini prawf hanfodol a dymunol?
Bydd y swydd-ddisgrifiad ar gyfer pob swydd wag yn nodi'r sgiliau a'r profiad sy'n hanfodol i gyflawni'r rôl. Rydym ni’n defnyddio’r meini prawf hanfodol a dymunol i lunio rhestr fer o bwy fydd yn mynd ymlaen i gael cyfweliadau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio dangos sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf yn eich ffurflen gais.
Beth sy'n digwydd i'r wybodaeth bersonol ar fy ffurflen gais?
Bydd y wybodaeth hon yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol, gan ddilyn Deddf Diogelu Data 2018. Bydd yr adran cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei gwahanu a'i defnyddio at ddibenion monitro yn unig. Ni fydd y panel cyfweld yn cael gweld y ffurflen hon. Bydd eich manylion personol yn cael eu storio am uchafswm o chwe mis ac ar yr adeg honno byddant yn cael eu gwaredu’n gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n ddiogel yn eich ffeil bersonol.
Mae'r swydd y mae gennyf ddiddordeb ynddi yn cael ei hysbysebu fel un llawn amser. A allaf weithio’n rhan amser neu rannu'r swydd?
Mae gan y Cyngor lawer o opsiynau gweithio ystwyth a hyblyg ar gael a gellir cyflawni llawer o swyddi o fewn y cyngor naill ai'n rhan amser / drwy rannu swydd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r rheolwr recriwtio.
Sut fydda i'n gwybod a ydw i wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad?
Byddwch yn cael cadarnhad o'r dyddiad, amser a lleoliad drwy e-bost gan yr adran Adnoddau Dynol. Mae’r cyngor yn anelu at roi o leiaf wythnos o rybudd i chi, er lle mae hyn wedi’i nodi ar y pecyn hysbysebu gallai fod yn llai. Os nad ydych wedi clywed o fewn tair wythnos i'r dyddiad cau, yna gallwch gymryd yn ganiataol bod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus ar yr achlysur hwn.