Cyflenwadau dŵr preifat
Caiff cyflenwadau dŵr preifat eu rheoleiddio dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1990 a Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017. Nid yw cyflenwadau dŵr preifat yn cael eu darparu gan gwmnïau dŵr a gallant gynnwys ffynonellau, tyllau turio, ffynhonnau, nentydd, afonydd, llynnoedd a draeniau tir. Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod cyflenwadau dŵr preifat yn iachus ar gyfer eiddo masnachol a domestig a lle bo’n ymarferol i ni wneud hynny, rydym yn gyfrifol am ddigonolrwydd cyflenwad.
Eiddo domestig
Cyflenwadau Rheoliad 11 – Cyflenwadau Domestig a Rennir ac Eiddo Rhent Preifat
Rydym yn profi cyflenwadau dŵr preifat sy’n cyflenwi dros 10,000 litr o ddŵr y dydd i aelwydydd o leiaf unwaith y flwyddyn. Os yw’n cyflenwi llai na hyn, yna byddai’r cyflenwad yn cael ei brofi unwaith bob pum mlynedd.
Cyflenwadau Rheoliad 10 – Un Cyflenwad Domestig
Mae cyflenwad dŵr preifat i un eiddo yn cael ei brofi ar gais y perchnogion.
Eiddo annomestig (masnachol)
Cyflenwadau Rheoliad 9
Profir cyflenwadau dŵr preifat mewn eiddo annomestig o leiaf unwaith y flwyddyn gan ddibynnu ar gyfaint y dŵr a ddefnyddir a’r nifer o bobl sy’n defnyddio’r dŵr.
Ffioedd a thaliadau
Cyflenwadau dŵr Rheoliad 10 a 11
Ffioedd a thaliadau ar gyfer cyflenwadau dŵr Rheoliad 10 a 11
Prawf cyflenwad dŵr |
Number of visits |
Cost am ymweliad |
Cyflenwad sy'n darparu llai na 10,000 litr y dydd |
Un ymweliad bob blwyddyn |
£125.00 |
Cyflenwad sy'n darparu mwy na 10,000 litr y dydd |
Dau ymweliad bob blwyddyn |
£125.00 |
Cyflenwadau dŵr rheoliad 9
Ffioedd a thaliadau ar gyfer cyflenwadau dŵr rheoliad 9
Prawf cyflenwad dŵr |
Cost am ymweliad (o leiaf unwaith y flwyddyn) |
Cyflenwadau masnachol newydd nad oes gennym ddim ond ychydig o hanes samplu blaenorol ar eu cyfer, neu ddim o gwbl |
£314.00 |
Cyflenwadau masnachol presennol y mae gennym hanes samplu diweddar ar eu cyfer |
£244.00 |
Samplu ychwanegol i gadarnhau cydymffurfiaeth oherwydd methiant paramedr |
Cost £45.00 fesul ymweliad (gan gynnwys naill ai hyd at 2 sampl bacteriolegol neu 5 paramedr cemegol, codir tâl am gost paramedrau ychwanegol) |
Codir tâl am unrhyw samplu gofynnol y tu allan i’n hamserlenni samplu arferol ar y gyfradd gost berthnasol adeg y cais.
Symud i gyflenwad dŵr preifat
Os ydych chi’n symud i gyflenwad dŵr preifat, neu os ydych chi’n breswylydd newydd mewn eiddo sy’n defnyddio un, gallwch lawrlwytho ffurflen cyflenwad dŵr preifat i roi gwybod i ni.
Cais cyflenwadau dŵr preifat (MS Word, 161KB)
Cost profi cyflenwad dwr newydd yw £95.00.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth ar gyflenwadau dŵr preifat drwy gysylltu â ni neu ymweld â’r gwefannau a ganlyn: