Cais i ddod yn safle cymeradwy ar gyfer priodasau: Yr Hen Lys / The Old Courthouse, Rhuthun 

(wedi'i cwblhau)

Mae'r ymgynghoriad hwn yn nawr ar gau

Cyngor Sir Ddinbych

Deddf Priodasau 1949
Deddf Partneriaeth Sifil 2004

Rhoddir rhybudd yn unol â'r uchod fod cais wedi’i gyflwyno gan IOLO WILLIAMS, CYNGOR TREF RHUTHUN ar gyfer yr eiddo a adwaenir fel YR HEN LYS/THE OLD COURTHOUSE, RHUTHUN, am ganiatâd i weinyddu priodasau a chofrestru phartneriaethau sifil yn yr eiddo.

Bydd y cais a'r cynllun ynghlwm ar gael i'w harchwilio am 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad hwn yn swyddfa'r Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN.

Gall unrhyw unigolyn ysgrifennu at y cyfeiriad uchod yn ystod y cyfnod hwn i wrthwynebu caniatáu'r cais, gyda'r rhesymau dros hynny.

Catrin Roberts
Y Swyddog Priodol

Gall unrhyw unigolyn ysgrifennu gan cwblhau'r ymholiad isod neu at y cyfeiriad uchod yn ystod y cyfnod hwn i Wrthwynebu caniatáu'r cais, gyda'r rhesymau dros hynny.

  • Dyddiad cychwyn:25 Chwefror 2025
  • Dyddiad Gorffen:18 Mawrth 2025

Adborth

Rydym wedi derbyn 1 ymateb, sydd o dan adolygiad ar hyn o bryd.

Byddwn yn darparu diweddariad bellach cyn cynted a phosib.