Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalgar
Yr hyn a ddymunwn
Hyrwyddo diogelwch, gwytnwch a lles cymunedau a phobl o bob oedran, gan ddefnyddio rhwydweithiau cymunedol cryf ac isadeiledd cymdeithasol sy’n galluogi pobl i fyw’n ddiogel, yn hapus ac yn annibynnol, a derbyn cymorth pan mae angen. Mae hynny’n cynnwys hyrwyddo amrywiaeth a chydlyniant ein cymunedau a lleihau anghydraddoldeb ac amddifadedd. Dylai pawb fedru cael mynediad at wasanaethau yn Gymraeg yn naturiol hefyd.
Yr hyn y bwriadwn ei wneud:
- Sicrhau bod darpariaeth gofal cymdeithasol y Cyngor o safon uchel, gan gynnwys:
- Hyrwyddo diwylliant cryf o ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion yn y sir
- Darparu’r gofal a’r gefnogaeth orau bosib yn rhinwedd ein swyddogaeth Rhiant Corfforaethol
- Cefnogi pobl ag anghenion dysgu ychwanegol neu gymhleth
- Gweithio â phartneriaid i wella’r gefnogaeth a gofal seibiant i ofalwyr o bob oed
- Sicrhau y gall pawb gael mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn naturiol ar bob cam yn eu bywydau.
- Cefnogi lles, iechyd meddwl a gwytnwch unigolion mewn cymunedau drwy:
- Sicrhau mynediad at y wybodaeth, cyngor a chymorth iawn drwy ein Hun Pwynt Mynediad, Llywiwr Cymunedol a’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd.
- Annog cymunedau i fod yn ystyriol o bobl hŷn, yn rhyng-genedlaethol a chynhwysol, gan leihau unigedd ac unigrwydd.*
- Hyrwyddo lles personol a chymunedol drwy:
- Gefnogi gwaith gwirfoddol a phrosiectau gan sefydliadau llawr gwlad i ddatblygu sgiliau cymunedol a phersonol mewn mannau lleol
- Buddsoddi mewn cynyddu gallu a chefnogi arweinyddiaeth a grwpiau cymunedol, gan gynnwys rhai sy’n helpu â gwasgfeydd costau byw, er enghraifft
- Datblygu cynlluniau ymgysylltu cymunedol i gynnwys cymunedau a rhoi’r grym iddynt benderfynu ynglŷn ag adfywio lleol
- Cefnogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy helaeth a dathlu diwylliant Cymru yn y gymuned, gan gynnwys gweithleoedd.
- Gweithredu gwasanaeth archifau mwy graenus a chynaliadwy i Ogledd Ddwyrain Cymru.
- Meithrin cydlyniant cymunedol drwy sicrhau y caiff pobl eu diogelu rhag niwed, camdriniaeth a cham-fanteisio Mae hynny’n cynnwys:
- Gweithio i leihau cam-drin domestig*
- Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Dal i gefnogi ac adsefydlu ffoaduriaid drwy’r Cynllun Adsefydlu Byd-eang y Deyrnas Gyfunol, i gefnogi datganiad Cymru fel Cenedl Noddfa.*
* Amcanion Cydraddoldeb.