Yr hyn a ddymunwn
Cefnogi adferiad economaidd a manteisio ar gyfleoedd i alluogi trigolion i gael mynediad at gyflogaeth ac incwm gwerth chweil. Bydd hynny’n golygu cael mynediad at nwyddau a gwasanaethau a bydd y sir yn manteisio i’r eithaf ar ei threftadaeth ddiwylliannol doreithiog a’i hasedau naturiol er mwyn cefnogi ffyniant economaidd. Dymunwn ddefnyddio twf economaidd fel sbardun i leihau anghydraddoldeb a thlodi.
Yr hyn y bwriadwn ei wneud:
- Cydweithio gyda chymunedau a phartneriaid i ddarparu prosiectau a chynlluniau sy’n ysgogi twf economaidd, gan gynnwys:
- Gweithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru ar brosiectau Bargen Dwf Gogledd Cymru
- Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru
- Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol
- Marchnad y Frenhines yn y Rhyl, a fydd yn cynnwys neuadd farchnad gymysg newydd a chasgliad o fwytai artisan, siopau a lle cynnal digwyddiadau
- Hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, a fydd yn darparu swyddi adeiladu a chyfleoedd am brentisiaethau yn ystod y cyfnod adeiladu a chartrefi a chyfleusterau cymunedol yn y tymor hir
- Datblygu strategaeth economaidd a fydd yn:
- Tyfu economi werdd Sir Ddinbych
- Cefnogi busnesau gwledig
- Adfywio canol trefi
- Gwella ein darpariaeth i dwristiaid
- Hyrwyddo diwylliant a threftadaeth gyfoethog Sir Ddinbych
- Manteisio i’r eithaf ar ein hasedau naturiol, gan gynnwys yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r Parc Cenedlaethol newydd.
- Gweithio mewn partneriaeth i gefnogi economi sy’n hyrwyddo gwaith teg, cyfiawnder a chaffaeliad cyhoeddus sy’n gymdeithasol gyfrifol, er budd y gadwyn gyflenwi leol a chymunedau’r sir.*
- Hwyluso mynediad at addysg, gwaith, gwasanaethau, nwyddau a gwasanaethau drwy:
- Gynnal rhwydwaith o ffyrdd diogel gydol y sir
- Ailadeiladu Pont Llannerch mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
- Hyrwyddo dewisiadau a dulliau o wella cysylltedd â’r rhyngrwyd
- Gwella gwasanaethau cludiant yng nghymunedau Sir Ddinbych wrth weithio drwy’r corff rhanbarthol a hefyd yng nghyd-destun Strategaeth Cludiant Cymru.
*Amcan(ion) Cydraddoldeb