Penodi 2 Aelod Annibynnol ar Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ddinbych
Rydym am benodi 2 Aelod Annibynnol i Bwyllgor Safonau’r Cyngor sy’n gyfrifol am hyrwyddo, cynnal a gwella trefniadau moesegol o fewn yr Awdurdod a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn Sir Ddinbych.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos annibyniaeth, uniondeb a didueddrwydd wrth gyflawni gwaith y pwyllgor a meddu ar y rhinweddau a'r sgiliau a ganlyn:
- Sgiliau gwrando
- Y gallu i ddeall a phwyso a mesur tystiolaeth
- Doethineb
- Y gallu i ddatblygu barn wrthrychol a’r gallu i egluro safbwynt wrth gyfeirio at y dystiolaeth
- Parch tuag at eraill a dealltwriaeth o faterion amrywiol.
- Empathi â'r Iaith Gymraeg a Diwylliant
- Profiad o fynychu a chyfrannu at gyfarfodydd
Nid oes rhaid cael gwybodaeth fanwl o lywodraeth leol er y byddai o fantais pe byddai gan ymgeiswyr ddiddordeb mewn materion sy’n berthnasol i fywyd cyhoeddus a gwasanaethau. Yn ogystal, rhaid i aelodau annibynnol:
- Bod yn gymwys i'w ethol fel Aelod Annibynnol fel y diffinnir yn Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001 (gweler isod pwy na all fod yn aelod annibynnol*)
- Yn gallu rhoi’r amser sydd ei angen a bod ar gael ar fyr rybudd
- Bod â pharch yn y gymuned
- Gallu darparu geirda gan ddau berson
- Ni ddylai ymgeiswyr fod yn anghymwys (e.e. o dan Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)
*Ni all berson fod yn aelod annibynnol os yw:
- yn Gynghorydd neu'n swyddog (neu briod neu bartner sifil i Gynghorydd neu swyddog) unrhyw Gyngor Sir/Bwrdeistref Sirol, Awdurdod Parc Cenedlaethol, Awdurdod Tân neu Gyngor Dinas, Tref a Chymuned
- cyn Cynghorydd neu swyddog Cyngor Sir Ddinbych
- yn Gynghorydd neu'n swyddog Cyngor Sir/Bwrdeistref Sirol, Parc Cenedlaethol, neu Awdurdod Tân o fewn y 12 mis cyn eu penodi (Mai 2025)
Taliadau i Aelodau Annibynnol
Byddwch yn derbyn rhwng £105 a £268 y diwrnod yn dibynnu ar eich rôl ac mae'r Pwyllgor Safonau yn cyfarfod hyd at 6 gwaith y flwyddyn yn Sir Ddinbych.
Bydd pob cais yn cael ei farnu yn ôl ei deilyngdod a bydd yr angen i gael cydbwysedd o sgiliau, rhinweddau ac arbenigedd ar y Pwyllgor yn ogystal â’r angen i gynrychioli’r gymuned gyfan a chyflawni gwasgariad daearyddol i gyd yn cael ei ystyried wrth wneud y penodiadau terfynol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mawrth 2025.
Bydd y penodiad yn amodol ar gyfweliad gyda Phanel Cynghori ar 10 Ebrill 2025. Bydd y Panel Cynghori yn gwneud argymhelliad ar y 13 Mai 2025 i’r Cyngor Llawn a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y penodiad.
Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â Gary Williams, Swyddog Monitro ar gary.williams@sirddinbych.gov.uk neu 01824 712562.
Mae ffurflenni cais ar gael gan Amy Foster ar amy.foster@sirddinbych.gov.uk neu dros y ffôn ar 01824 712607.
Hysbyseb - Penodi Aelodau Annibynnol Mawrth 2025 (PDF, 278KB)