Mae ein blwyddyn ariannol yn mynd o fis Ebrill i fis Mawrth ond mae’r gwaith cynllunio’n dechrau yn yr haf wrth inni asesu costau’r ymrwymiadau a chynlluniau newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae cyllideb net y cyngor yn cael ei hariannu gan 3 prif ffynhonnell:
- Grant Cynnal Refeniw: 62%
- Ardrethi Busnes: 13%
- Treth y Cyngor: 25%
Y gyllideb net yw cyfanswm y gwariant gan dynnu unrhyw grantiau, cyfraniadau ac incwm penodol o ffioedd a thaliadau.
Dyma'r incwm sy'n ariannu cyllideb y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24:
- Llywodraeth Cymru: 52% (yn cynnwys y Grant Cynnal Refeniw ac Ail-ddyraniad Ardrethi Busnes)
- Treth y Cyngor: 18%
- Grantiau penodol: 17%
- Incwm arall: 13%
Cyngor Sir Ddinbych yw un o gyflogwyr mwyaf y sir sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r gymuned ac yn cefnogi 95,000 o drigolion. Ei nod yw gweithredu mewn ffordd gynaliadwy er budd hirdymor cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.
Fel pob Awdurdod Lleol ar draws Cymru, mae sefyllfa ariannol y Cyngor yn hynod heriol ar hyn o bryd, ac mae angen am arbedion cyllideb sylweddol yn ddigynsail.
Mathau o gyllid
Grant Cynnal Refeniw (Llywodraeth Cymru)
Ein prif ffynhonnell incwm ydi’r Grant Cynnal Refeniw gan Lywodraeth Cymru.
Pennir swm y grant ar sail Asesiad o Wariant Safonol y Cyngor. Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r Asesiad o Wariant Safonol wrth ddyrannu’r grant ac mae’n seiliedig ar gyfrifo’r swm sydd ei angen ar bob awdurdod lleol er mwyn darparu gwasanaeth safonol a chodi treth y cyngor ar gyfradd gyffredin.
Mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi ei Setliad Dros Dro tua diwedd yr hydref fel arfer, ac mae hwnnw’n rhoi syniad o swm y grant a’r ad-daliadau ardrethi busnes y gallwn ddisgwyl eu cael yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Wedyn mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi ei Setliad Terfynol (gwefan allanol). Mae’r Setliad Terfynol yn rhoi gwybod inni beth yw ein cyfran derfynol o’r arian, fel bod modd inni bennu’r gyllideb a swm treth y cyngor am y flwyddyn ariannol nesaf.
Ardrethi Busnes (Ail-ddyraniad gan Lywodraeth Cymru)
Mae ardrethi busnes (neu Ardrethi Annomestig) yn drethi eiddo y mae busnesau a deiliaid adeiladau annomestig eraill yn eu talu yn gyfraniad at wasanaethau lleol.
Llywodraeth Cymru sy’n pennu swm yr ardrethi.
Cynghorau sy’n casglu’r arian a’i dalu i Lywodraeth Cymru, sydd wedyn yn ailddyrannu’r arian i’r holl gynghorau yng Nghymru ar sail maint eu poblogaethau.
Dysgwch fwy am Ardrethi Busnes.
Treth y Cyngor
Mae Treth y Cyngor yn dâl blynyddol y mae trigolion Sir Ddinbych yn ei dalu i’r Cyngor.
Mae’r Cyngor yn pennu swm y tâl bob blwyddyn a defnyddir yr arian i ariannu gwasanaethau lleol.
Mae’r swm a dalwch yn dibynnu ar y band y mae’ch eiddo’n perthyn iddo yn un ôl ei werth.
Mae Treth y Cyngor yn gyfwerth â 18% o’n holl gyllid.
Grantiau at ddibenion penodol
O bryd i’w gilydd mae’r Cyngor yn cael grantiau gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i’w gwario ar bethau penodol. Er enghraifft, grantiau i ddiwallu anghenion addysgol, darparu prydau ysgol am ddim, gwella’r drefn rheoli gwastraff a gweddnewid trefi.
Incwm arall
Rydym hefyd yn cael incwm o godi ffioedd am rai o nwyddau a gwasanaethau’r Cyngor fel meysydd parcio, trwyddedau a chaniatâd cynllunio, er enghraifft.
Cyllideb Gyfalaf
Mae’n rhaid i Gyngor Sir Ddinbych roi cyfrif am ei fuddsoddiadau yn ei asedau sefydlog (‘Cyfalaf’) ar wahân i’w wariant ar gynnal y sefydliad yn feunyddiol ('Refeniw').
Asedau sefydlog yw pethau fel adeiladau, ffyrdd, ysgolion a cherbydau y disgwylir iddynt fod o fudd am fwy na blwyddyn.
Ariennir y gyllideb Gyfalaf drwy Setliad Cyfalaf Llywodraeth Cymru, benthyca darbodus, grantiau penodol a derbyniadau cyfalaf.
Bob blwyddyn mae'r Cyngor yn llunio cynllun cyfalaf tair blynedd sy’n manylu ynglŷn â’r meysydd y mae’n debygol o wario ei arian ynddynt. Mae Grŵp Craffu Cyfalaf y Cyngor (sy’n cynnwys aelodau etholedig ac uwch-swyddogion) yn adolygu pob cais am arian cyfalaf cyn iddynt gael eu hystyried i’w cynnwys yn y Cynllun Cyfalaf.
Mae’r Cyngor yn disgwyl gwario £91.7 miliwn yn 2023/2024, gan gynnwys gwariant sylweddol ar gynlluniau amddiffyn yr arfordir, ailwampio’r gwasanaeth gwastraff ac adeiladau ysgolion.