Band eiddo treth y cyngor

Fe newidir y dreth cyngor yn ddyddiol. Fe bennir y swm a dalwch chi drwy fandio eich eiddo ac ym mha ardal y mae.

Dod o hyd i fand a thâl am eiddo yn Sir Ddinbych

Bandiau Eiddo

Bydd band eiddo’n seiliedig ar beth fyddai ei werth ar Ebrill 1, 2003. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio’n (gwefan allanol) gyfrifol am fandio pob cartref yng Nghymru.

Gwahanol fandiau prisio
Band prisioGwerth yr eiddo (ar 1 Ebrill 2003)
A Hyd at £44,000
B £44,001 i £65,000
C £65,001 i £91,000
D £91,001 i £123,000
E £123,001 i £162,000
F £162.001 i £223,000
G £223,001 i £324,000
H £324,001 i £424,000
I Dros £424,001

Cyfran o Dreth Gyngor

Cyfrifwn bob band prisio fel cyfran o'r Dreth Gyngor o'i gymharu â Band D, er enghraifft, tâl Band A yw 6/9fed o dâl Band D.

Dewiswch un o'r canlynol i weld cyfran y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn honno:

Taliadau Treth y Cyngor

Gweld y taliadau treth y cyngor ar gyfer pob Band Eiddo yn Sir Ddinbych.

Apeliadau yn erbyn Bandio

Y Swyddog Prisiadau sy’n delio ag apeliadau. Os ydych chi’n credu bod prisiad eich eiddo yn anghywir dylech gydymffurfio â’r broses apelio.  Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth drwy ymweld â wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (gwefan allanol).

Mae ychydig o resymau pam all eich band newid. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ar ôl dymchwel
  • Addasu tai i fflatiau
  • Newidiadau ffisegol yn yr ardal leol sy’n effeithio ar y pris

Rhaid parhau i dalu treth y cyngor wrth i unrhyw apêl gael ei wneud a'i ystyried.

Sgwrsio gydag ymgynghorydd

Sgwrsio gydag ymgynghorydd ar-lein. Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm. Dydd Gwener: 9:00am tan 4.30pm.