Datganiadau cyfrifon

Mae’r datganiad cyfrifon blynyddol yn adrodd ar sefyllfa’r cyngor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac ar drafodion yn ystod y flwyddyn honno.

Datganiad Cyfrifon 2023/24

Mae Rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol, Cyngor Sir Ddinbych lofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n ymwneud â hi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2024.

Dangosir terfynau amser statudol 2023/24 yn y tabl isod ynghyd â therfynau amser estynedig a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

Dyddiadau cau Datganiad Cyfrifon
EitemDyddiad cau statudolDyddiad cau estynedig
Datganiad Cyfrifon Drafft 31 Mai 2024 30 Mehefin 2024
Datganiad Cyfrifon Archwiliedig 31 Gorffennaf 2024 31 Tachwedd 2024

Nid yw'r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024, ac o ganlyniad o’r gwaith sy’n parhau ar archwilio cyfrifon 2022/23, bydd yn gweithio o fewn terfyn amser estynedig o Medi 2024 i gwblhau y draft.

Datganiad Cyfrifon 2022/23

Mae Rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol, Cyngor Sir Ddinbych lofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n ymwneud â hi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2023.

Dangosir terfynau amser statudol 2022/23 yn y tabl isod ynghyd â therfynau amser estynedig a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

Dyddiadau cau Datganiad Cyfrifon
EitemDyddiad cau statudolDyddiad cau estynedig
Datganiad Cyfrifon Drafft 31 Mai 2023 31 Gorffennaf 2023
Datganiad Cyfrifon Archwiliedig 31 Gorffennaf 2023 31 Rhagfyr 2023

Nid yw'r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, a bydd yn gweithio o fewn y terfynau amser estynedig.

Dogfennau datganiad cyfrifon

Gallwch lawrlwytho’r datganiadau cyfrifon diweddaraf isod.

Ar wahân i ddatganiad cyfrifon 2012-13 a 2013-14, mae'r dogfennau hyn ar gael yn Saesneg yn unig.

Hysbysiad o Ardystio Cwblhau’r Archwiliad

Rhoddir rhybudd trwy hyn bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi tystio for yr archwiliad o gyfrifon Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 a cyfrifon Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 wedi eu cwblhau yn unol ag Adran 23 o Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (y Ddeddf).

Yn unol ag Adran 29 o’r Ddeddf, ar bob Ddydd Llun i Ddydd Gwener (arwahan i wyliau banc) rhwng yr oriau o 9am i 4pm, gall etholydd ar gyfer yr ardal, yn dilyn cais i’r Prif Swyddog Ariannol, arolygu a wneud copi o’r Datganiad Cyfrifon yn y cyfeiriad isod, neu ofyn am gopi o’r Datganiad Cyfrifon i gael ei anfon iddynt am gost rhesymol am bob copi.

Liz Thomas
Prif Swyddog Ariannol
Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN

Dyddiedig 2 Mai 2024

Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Sefydlodd Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Gydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae angen cyfrifon ar wahân ar gyfer Cydbwyllgorau. Gan mai Sir Ddinbych yw’r cyngor arweiniol mewn perthynas â’r gwasanaeth cyllid a chyfrifeg, cyfrifoldeb Sir Ddinbych yn cwblhau’r datganiadau ariannol.

Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1982 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 mae Sir Ddinbych wedi cyhoeddi Ffurflen Flynyddol Cydbwyllgor yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn dilyn yr archwiliad.