Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Garddwriaeth Cymru

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect yn datblygu ar sail hanes llwyddiannus Garddwriaeth Cymru o sefydlu Clystyrau a byrhau cadwyni cyflenwi, fel y cadarnhawyd drwy asesiad annibynnol (Miller, Gorffennaf 2021).

Drwy hwyluso cydweithio mewn clystyrau, bydd y prosiect yn sefydlu clystyrau cymunedol ac yn gweithio â busnesau bach a chanolig, cwmnïau buddiannau cymunedol ac ysgolion yn ardaloedd y tri o gynghorau sir, er mwyn sicrhau bod y dechnoleg ddiweddaraf yn hygyrch i bawb er budd cymunedau a’r economi.

Bydd y prosiect yn hwyluso mynediad at gynnyrch lleol, atgyfnerthu cadwyni cyflenwi, hybu cyfranogiad, codi ymwybyddiaeth ac yn annog pobl i gyfranogi a gwirfoddoli yn eu hamgylchedd naturiol lleol, gan hefyd addysgu cymunedau ynglŷn â’r effaith y gall garddwriaeth ei chael ar les.

Diweddariad y prosiect

Mawrth 2024

Cyhoeddodd Garddwriaeth Cymru ddatganiad i’r wasg ganol mis Chwefror yn sôn am ehangu eu cyfleusterau gyda chyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sydd wedi diogelu dyfodol y prosiect tan fis Rhagfyr 2024.

Darllenwch y datganiad i’r wasg yn llawn (gwefan allanol)