Gwyrddach: Seilwaith Cymunedol

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Nod y thema 'Gwyrddach: Seilwaith Cymunedol' yw cefnogi Sir Ddinbych i fod yn Sir Di-garbon Net erbyn 2030, a chyfoethogi, cynnal a gwella ein hasedau naturiol i gefnogi bioamrywiaeth.

Ymyriadau, allbynnau a chanlyniadau

Gwariant cyfalaf a refeniw ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3: Seilwaith Cymunedol
 Blwyddyn Cyfalaf Refeniw
 Blwyddyn 2  £216,000  £480,000
 Blwyddyn 3  £1,656,000  £1,200,000

Ymyriadau

  • W2: Cyllid ar gyfer prosiectau seilwaith cymunedau a chymdogaethau newydd, neu welliannau i rai sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys y rheiny sy’n cynyddu gwydnwch cymunedau i beryglon naturiol, fel llifogydd, a buddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a rheoli gwastraff a berchnogir yn lleol i wella’r pontio i fywyd sy’n isel o ran carbon. Gallai hyn gwmpasu gwariant cyfalaf a chostau rhedeg.
  • W3: Creu a gwella mannau gwyrdd, gerddi cymunedol, cyrsiau dŵr ac argloddiau lleol, ynghyd ag ymgorffori nodweddion naturiol a gwelliannau i fioamrywiaeth mewn mannau cyhoeddus ehangach.
  • W13: Mesurau cymunedol i leihau costau byw, gan gynnwys drwy fesurau i wella effeithlonrwydd ynni, a brwydro yn erbyn tlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.
  • W15: Buddsoddiad a chefnogaeth ar gyfer seilwaith digidol ar gyfer cyfleusterau cymunedol lleol.
  • W29: Cefnogi datgarboneiddio a gwella’r amgylchedd naturiol wrth dyfu’r economi leol. Mabwysiadu dull systemau cyfan o fuddsoddi mewn seilwaith i gyflawni datgarboneiddio effeithiol ar draws ynni, adeiladau a thrafnidiaeth a thu hwnt, yn unol â’n targed hinsawdd sy’n rhwymo’n gyfreithiol. Cynyddu cryfderau lleol presennol neu ddatblygol mewn technolegau, nwyddau a gwasanaethau carbon isel i fanteisio ar y cyfle byd-eang cynyddol.

Allbynnau

Allbynnau: Seilwaith Cymunedol
 AllbynnauTarged (gwerth rhifiadol)
Nifer y sefydliadau sy'n derbyn cymorth ariannol heblaw grantiau (W2)  4
Maint y tir cyhoeddus a grëwyd neu a wellwyd (m2) (W3)  21,000
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth ariannol ar wahân i grantiau (W3)  10
Nifer y gwelliannau a wnaed i’r gymdogaeth (W3, W15)  120
Faint o fannau gwyrdd neu las a grëwyd o wella (m2) (W3)  900
Cyfanswm hyd llwybrau beicio neu lwybrau troed newydd neu well (km) (W3)  260
Nifer y coed a blannwyd (W3)  500
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth nad yw’n gymorth ariannol (W15, W29)  316
Nifer y mentrau sy’n cael cymorth nad yw’n gymorth ariannol (W29) 50
Nifer y mentrau sy’n cael grantiau (W29)  25
Nifer yr isadeileddau ynni carbon isel neu garbon sero a gwblhawyd (m2) (W29)  25
Nifer y cynlluniau datgarboneiddio a ddatblygwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W29)  50

Canlyniadau

Canlyniadau: Seilwaith Cymunedol
 CanlyniadauTarged (gwerth rhifiadol)
Swyddi a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W2)  2
Swyddi a ddiogelwyd o ganlyniad i gefnogaeth (W2)  2
Amcangyfrif o ostyngiadau cyfwerth o Garbon deuocsid o ganlyniad i gefnogaeth (W2, W29) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Gwella canfyddiad o gyfleusterau / amwynderau (W2, W3) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Cynnydd yn niferoedd defnyddwyr cyfleusterau / amwynderau (W2, W3) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Gwell canfyddiad o gyfleusterau / prosiect isadeiledd (W2) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd
Cynnydd yn y defnydd o lwybrau beicio (W13) Targed ddim wedi'i osod ar hyn o bryd

Prosiectau

Y prosiectau ar gyfer y thema hon yw:

Y prosiectau ar gyfer y thema hon yw:

Darganfod mwy am prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.