Darganfyddwch sut i archebu lle mewn Parc Gwastraff ac Ailgylchu
Parc Ailgylchu a Gwastraff y Rhyl
Marsh Road
Y Rhyl
LL18 2AD
Dim ond preswylwyr Sir Ddinbych a Chonwy a gaiff ddefnyddio’r Parc Ailgylchu a Gwastraff hwn.
Gellir dod â gwastraff o gartrefi yn Sir Ddinbych/Conwy yn unig i’r Parc Ailgylchu a Gwastraff hwn.
Gall ffrindiau a theulu ddod â gwastraff i’r Parc Ailgylchu a Gwastraff ar ran un o breswylwyr Sir Ddinbych/Conwy.
Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn breswylydd yn Sir Ddinbych/Conwy (e.e. trwydded yrru neu fil cyfleustodau) i ddefnyddio’r Parc Ailgylchu a Gwastraff hwn.
Amseroedd agor
Mae'r oriau agor yn newid pan fydd amser haf yn newid.
Ebrill - Hydref
- Dydd Llun: 9am - 5pm
- Dydd Mawrth: 9am - 5pm
- Dydd Mercher: 9am - 5pm
- Dydd Iau: 9am - 5pm
- Dydd Gwener: 9am - 5pm
- Dydd Sadwrn: 9am - 5pm
- Dydd Sul: 9am - 4pm
Tachwedd - Mawrth
- Dydd Llun: 9am - 4pm
- Dydd Mawrth: 9am - 4pm
- Dydd Mercher: 9am - 4pm
- Dydd Iau: 9am - 4pm
- Dydd Gwener: 9am - 4pm
- Saturday: 9am - 4pm
- Dydd Sadwrn: 9am - 4pm
Wedi cau: 25ain, 26ain ac 1af Ionawr.
Siop Ailddefnyddio ar gael (Parc Gwastraff ac Ailgylchu yn y Rhyl)
Gellir rhoi eitemau cartref y gellir eu hailddefnyddio fel dillad, teganau, dodrefn a beiciau i'r Siop Ailddefnyddio ym Mharc Ailgylchu a Gwastraff y Rhyl.
Rydym wedi llunio partneriaeth gyda
Hosbis Dewi Sant (gwefan allanol) sy’n rhedeg ein siop, lle y defnyddir eu helw i gefnogi gwaith elusennol pwysig yn ardal Gogledd Cymru.
Ailgylchu ar gael ar gyfer
- Caniau erosol
- Ffoil alwminiwm
- Batris
- Batris car
- Cardfwrdd
- Cartonau
- Monitor Cyfrifiadur
- Cyfrifiaduron
- Olew coginio
- Nwyddau trydanol
- Olew modur
- Tiwbiau fflworoleuol
- Oergelloedd a rhewgelloedd
- Dodrefn
- Poteli nwy (costau'n daladwy)
- Poteli a jariau gwydr
- Gwydr fflat
- Gwastraff gardd
- Matresi
- Ffonau symudol
- Papur
- Paent
- Bwrdd plastr (costau'n daladwy)
- Poteli plastig
- Cetris peiriannau argraffu
- Metel sgrap
Gwasanaethau gwaredu sydd ar gael
Eitemau nad oes modd eu hailgylchu o aelwydydd (rhaid eu gwahanu o'r gwastraff y gellir ei ailgylchu cyn cyrraedd)
- Carpedi
- Ffelt toi (costau'n daladwy)
- Eitemau eraill o'r cartref na ellir eu hailgylchu
Gwastraff peryglus o aelwydydd
- Cemegau'r cartref
- Asbestos (mae'r terfynau'n berthnasol)
- Poteli nwy (costau'n daladwy)
Codi tâl ar wastraff DIY
Bydd yr awdurdod yn codi tâl i dderbyn gwastraff domestig penodol nad ydynt yn cael eu hystyried yn wastraff y cartref.
Ffioedd gwastraff DIY.
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.