Polisi Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (Cyngor Sir Ddinbych / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)
- Cefndir
- Cymhwysedd
- Oriau gweithredol Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref
- Deunyddiau a dderbynnir mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref
- Apwyntiadau
- Deunyddiau gyda chyfyngiadau (a dderbynnir yn rhad ac am ddim)
- Deunyddiau ac eitemau taladwy
- Deunyddiau a dderbynnir mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref
- Amodau ymwelwyr Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref
- Gwastraff Masnachol
- Cynllun Trwydded Fan Ddomestig a Chynllun Trwydded Defnydd Untro
1.1. O dan Adran 51 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (EPA90), mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych (y Cynghorau) ddyletswydd statudol i ddarparu cyfleusterau lle gall deiliaid tai gael gwared ar eu gwastraff cartref.
1.2 Bydd y Cynghorau’n darparu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref wedi’u rheoli'n dda, sy'n hygyrch, yn ddiogel ac yn bodloni gofynion deiliaid tai yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
1.3 Strategaeth wastraff y Cynghorau yw ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff y gellir ei adfer ag sy'n ymarferol yn eu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
1.4 Ar hyn o bryd mae’r Cynghorau’n darparu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ym Mochdre, Gofer (Abergele), y Rhyl, Dinbych a Rhuthun.
1.5 Bydd deunydd gwastraff sydd wedi ei gategoreiddio fel gwastraff nad yw’n wastraff cartref (fel y’i diffinnir yn EPA 1990 a Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012) yn destun ffi resymol er mwyn talu’r costau cludiant, trin, a gwaredu, os caiff ei dderbyn.
2.1 Bydd pob cartref yng Nghonwy a Sir Ddinbych sy’n talu Treth y Cyngor safonol â’r hawl i ddefnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y Cyngor i gael gwared ar eu gwastraff cartref eu hunain.
2.2 Bydd mannau addoli crefyddol, siopau elusen cofrestredig a neuaddau cymunedol (lle nad oes gweithgaredd busnes yn cael ei gynnal er mwyn gwneud elw) â’r hawl i'r un gwasanaeth a gynigir i ddeiliaid tai.
Drwy’r flwyddyn (ac eithrio dydd Nadolig, dydd San Steffan a dydd Calan)
Haf (Ebrill - Hydref)
- Dydd Llun i ddydd Sadwrn: 09:00 - 17:00
- Dydd Sul: 09:00 - 16:00
Gaeaf (Tachwedd - Mawrth)
- Dydd Llun i ddydd Sadwrn: 09:00 - 16:00
- Dydd Sul: 09:00 - 16:00
- 27 - 31 Rhagfyr gan gynnwys 2 Ionawr: 09:00 - 17:00 (gan eithrio safleoedd Cyngor Sir Ddinbych: 09:00 - 16:00)
Sylwer: Mae Canolfan Ailgylchu Dinbych ar gau ar ddydd Iau a Chanolfan Ailgylchu Rhuthun ar gau ar ddydd Gwener.
4.1 Mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn cael eu darparu er mwyn caniatáu preswylwyr i waredu ychydig o wastraff domestig (gwastraff o gartref y preswylydd ei hun). Bydd eitemau o wastraff y byddai disgwyl i gartref nodweddiadol eu taflu yn ystod arferion bywyd bob dydd yn cael eu derbyn.
4.2 Er mwyn sicrhau defnydd gwasanaeth teg, bydd peth deunyddiau yn cael eu cyfyngu o ran faint ohono y derbynnir (gweler 6.0)
4.3 Mae rhai mathau o wastraff a dderbynnir yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn cael eu categoreiddio fel gwastraff nad yw’n wastraff cartref, a chodir tâl rhesymol er mwyn talu am gludo, trin a gwaredu’r deunyddiau hyn (gweler 7.0).
4.4 Derbynnir y deunyddiau canlynol gan breswylwyr mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref am ddim:
- Dillad a thecstilau
- Cardfwrdd, papurau newydd a chylchgronau
- Poteli a jariau gwydr
- Dodrefn (dodrefn cartref yn unig)
- Tuniau bwyd a chaniau diod
- Eitemau metel scrap (fferrus ac anfferrus)
- Plastigau meddal cymysg (poteli a chynwysyddion plastig)
- Tetrapaks (Cartonau diodydd)
- Nwyddau trydanol (offer domestig) fel popty, oergell, rhewgell, teledu, cyfrifiaduron, stereos
- Plastigau caled (fel teganau plant, dodrefn gardd)
- Gwastraff gardd (sy'n dod o gyfeiriad y deiliaid tŷ yn unig)
Efallai na dderbynnir nifer anarferol o fawr o'r eitemau uchod neu nifer fawr o'r un eitem(au).
5.1 Dim ond drwy drefnu apwyntiad y bydd modd ymweld â’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
5.2 Bydd pob aelwyd yn cael hyd at 6 ymweliad â’r safleoedd fesul deufis, er mwyn sicrhau fod pawb sydd eisiau defnyddio’r canolfannau yn gallu cael apwyntiad.
5.3 Gall preswylwyr Conwy wneud apwyntiadau drwy ddefnyddio’r ffurflen archebu ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (gwefan allanol) neu os nad oes cysylltiad â’r rhyngrwyd, drwy ffonio’r Tîm Cynghori ar 01492 575337.
Gall preswylwyr Sir Ddinbych wneud apwyntiadau drwy ddefnyddio’r ffurflen archebu ar wefan Cyngor Sir Ddinbych neu os nad oes cysylltiad â’r rhyngrwyd, drwy ffonio’r Tîm Cynghori ar 01492 575337.
5.4 Ceisiwch gyrraedd yn brydlon, er mwyn osgoi ciwiau. Arhoswch yn eich car gyda’ch ffenestri i fyny nes y bydd staff yn gofyn i chi yrru i’r ganolfan. Mae slotiau yn 10 munud o hyd, dylid dadlwytho’r holl wastraff yn ystod y cyfnod hwn o amser. Bydd angen didoli gwastraff cyn cyrraedd y safle er mwyn sicrhau y gellir ei ddadlwytho o fewn y slot 10 munud.
6.1 Gwastraff cyffredinol (gwastraff na ellir ei ailgylchu) mewn bagiau neu flychau: gwastraff na ellir ei ail-ddefnyddio, ei ailgylchu na’i gompostio. Gofynnir i unrhyw un sy'n dod â bagiau du neu flychau o wastraff cymysg i'r safle gan y cymhorthwyr i'w hagor a didoli gwastraff i ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu a deunyddiau na ellir eu hailgylchu. Bydd menig a chyfleusterau golchi dwylo ar gael. Y nod yw lleihau faint o wastraff sy'n mynd i’w waredu ac er mwyn cyflawni hyn, bydd gofyn i ddefnyddwyr y safle ddidoli eu gwastraff ac ni chaniateir iddynt gael gwared ar wastraff y gellir ei ailgylchu.
6.2 Gwastraff anifeiliaid: dim ond gwastraff gan anifeiliaid domestig dof a dderbynnir. Gellir dod ag uchafswm o ddau fag bin o bob cartref ar y mwyaf bob pythefnos - rhaid rhoi gwastraff mewn bagiau dwbl cyn cael gwared arnynt. Rhowch wybod i staff y safle pa fath o wastraff yw cyn ei roi yn y bin gwastraff cartrefi i'w gwaredu. Ni dderbynnir gwastraff gan dda byw, anifeiliaid wedi’u bridio, anifeiliaid sy’n preswylio, anifeiliaid mewn stablau neu rai a arddangosir.
6.3 Tiwbiau golau fflworoleuol (uchafswm o 5 y flwyddyn)
6.4 Batris car (uchafswm o 2 y flwyddyn)
6.5 Paent: rhaid i'r holl baent sy’n dod i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref fod mewn cynwysyddion wedi'u selio’n addas. Bydd cyfyngiad ar faint o baent a ganiateir a waredir y flwyddyn (15 uned y flwyddyn) yn seiliedig ar faint y cynhwysydd:
- < Can 2.5 litr = 1 uned
- > Can 2.5 - 5 litr = 2 'uned'
- > Can 5 - 10 litr = 4 'uned'
Asesiad yn seiliedig ar faint y can, a ydyw bron yn wag neu'n llawn.
6.6 Matresi: (uchafswm o ddwy fatres bob blwyddyn).
6.7 Olew injan ac olew coginio (uchafswm o 10 litr y flwyddyn).
6.8 Carpedi - sy'n gyfwerth â 6 ystafell y flwyddyn (gyda’r cyntedd, landin a grisiau yn cyfrif fel 1 ystafell).
6.9 Cynwysyddion Tanwydd - bydd cynwysyddion tanwydd fflamadwy bach ond yn cael eu derbyn os ydynt eisoes wedi’u torri i mewn i ddau ddarn neu fwy (i sicrhau nad oes unrhyw hylif tanwydd neu anweddau yn bresennol.)
6.10 Y gwastraff peryglus o gartrefi y gellir eu derbyn mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref mewn symiau bach (ac wedi eu labelu yn glir) yw:
- cemegau fel hylif brêc neu arlliw argraffydd
- batris cartref
- toddyddion
- plaladdwyr
- cyfarpar sy'n cynnwys sylweddau sy'n teneuo’r osôn, fel oergelloedd
7.1 Dim ond rhwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu adnoddau canolfan ailgylchu ar gyfer gwastraff cartref sydd gan y Cynghorau (sef gwastraff sy'n deillio o redeg cartref o ddydd i ddydd). Fodd bynnag, mae eitemau o drwsio neu wella tai (fel gwastraff DIY) yn cael eu categoreiddio fel gwastraff adeiladu, a does dim rhaid i’r Cyngor ddarparu unrhyw wasanaeth ar gyfer gwaredu’r deunydd hwn na’i dderbyn yn rhad ac am ddim.
7.2 Cydnabyddir bod angen adnoddau er mwyn i drigolion lleol waredu ychydig o wastraff DIY (yn arbennig ar gyfer ychydig fagiau o wastraff lle nad yw’n werth iddynt logi sgip) a theiars, ac felly yn hytrach na chael gwared o’r gwasanaeth dewisol hwn yn llwyr, bydd gwastraff o’r fath yn cael ei dderbyn am dâl.
7.3 Diffinnir Gwastraff Cartref a gwastraff nad yw’n wastraff Cartref (gan gynnwys gwastraff adeiladu) yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012.
7.4 Bydd rhaid talu am dderbyn:
- Gwastraff adeiladu a dymchwel (pridd, rwbel a gwastraff DIY): gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i wastraff DIY, brics, concrid neu sment, rwbel, brics adeiladu, slabiau palmant, seiliau caled, toiledau, sinciau, cawodydd, baddonau, unedau cegin neu ystafelloedd ymolchi, paneli neu byst ffens, deunyddiau inswleiddio, cafnau a pheipiau glaw, fframiau drysau neu ffenestri PVC, ac adeiladau sy’n dod yn ddarnau. NODWCH: dylai pridd a rwbel gael ei gyrchu i’r safle mewn bagiau neu mewn bwcedi fel y gellir ei ollwng i’r cynhwysydd cywir. Ni fydd peirianwaith penodol ar y safle er mwyn gollwng cynnwys rhydd i gerbyd neu drelar.
- Plastrfwrdd (Gypswm): yn cynnwys plastr a chynnyrch sy'n gysylltiedig â gypswm.
- Asbestos: bydd amodau penodol yn berthnasol wrth ei dderbyn o ran ei gyflwyno yn ddiogel – rhaid iddo fod wedi ei lapio’n ddwbl mewn plastig caled ac wedi ei selio yn llwyr. Mae angen i breswylwyr ffonio'r safle o flaen llaw er mwyn sicrhau fod digon o adnoddau ar gael i dderbyn y deunydd. (Ni ellir gwarantu derbyn deunydd heb fod wedi gwneud apwyntiad i drefnu hynny o flaen llaw). Dylai trigolion sydd am waredu llawer iawn o asbestos gysylltu â chontractwr arbenigol.
- Coed a phren: gwastraff adeiladu cyffredinol fel drysau pren (mewnol ac allanol), siediau pren, paneli a physt ffens, cypyrddau cegin neu ystafell ymolchi, a chypyrddau dillad sefydlog, sglodfwrdd a phren adeiladu sydd dros ben (er mwyn osgoi amheuaeth, mae dodrefn pren yn cael ei drin fel gwastraff swmpus a byddai’n cael ei dderbyn am ddim).
- Teiars (cerbydau modur a beiciau modur): ni dderbynnir teiars cerbydau masnachol nac amaethyddol. Ni chodir tâl am deiars beics.
- Poteli Nwy
7.5 Cyhoeddir rhestr o daliadau ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol ar wefannau'r Cynghorau ac mae ar gael fel taflen yn y lleoliadau canlynol:
- Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Abergele
- Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Mochdre
- Canolfannau Gwastraff y Cartref ac Ailgylchu’r Rhyl
- Canolfannau Gwastraff y Cartref ac Ailgylchu Dinbych
- Canolfannau Gwastraff y Cartref ac Ailgylchu Rhuthun
Gellir darparu gwybodaeth mewn fformatau eraill (fel Braille neu CD) ar gais.
7.6 Dylai deiliaid tai sydd â llawer o’r math hwn o ddeunydd i’w waredu gysylltu â chwmni sgipiau trwyddedig. Bydd angen i ddeiliaid tai sydd â llawer o wastraff adeiladu a dymchwel i’w waredu gysylltu gyda chwmni rheoli gwastraff amgen.
8.1 Gwastraff gardd: rhywogaethau ymledol: gellir cael gwared ar wastraff gardd dros ben (sy'n dod o gyfeiriad y deiliaid tŷ yn unig) mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, fodd bynnag, ni fydd chwyn gwenwynig a rhywogaethau ymledol (gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i Lysiau’r Dial, Ffromlys Chwarennog a Llysiau'r Gingroen) yn cael eu derbyn.
8.2 Oergelloedd a rhewgelloedd masnachol
8.3 Gwastraff eraill
- Petrol a diesel
- Bwledi a chetris
- Tân gwyllt a fflerau morol
- Deunyddiau ffrwydrol arall
- Gwastraff Clinigol
- Meddyginiaethau
- Carcasau Anifeiliaid
8.4 Ni fydd gwastraff mawr neu anodd yn cael eu derbyn mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref fel cerbydau wedi eu gadael, trelars, siediau, carafanau, bonion coed mawr, cerrig mawr neu glogfeini, peiriannau, carcasau, hylifau fflamadwy, a ffrwydron.
9.1 Mae’n rhaid i ddefnyddwyr y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a roddir gan y personél ar y safle, cyfraith iechyd a diogelwch a chanllawiau, unrhyw arwyddion, cyfyngiadau cyflymder, a pholisi penodol didoli a gwahanu gwastraff.
9.2 O safbwynt yr uchod (7.4), mae’n rhaid talu am ddeunyddiau ac eitemau taladwy ar adeg eu gwaredu.
9.3 Bydd cyfyngiadau ar fathau a maint cerbydau yn berthnasol yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (gweler 11.7).
9.4 Ni fydd unrhyw berson o dan 16 oed yn cael mynediad i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref oni bai i ei fod yn cael ei oruchwylio gan oedolyn cyfrifol.
9.5 Ni fydd unrhyw anifeiliaid anwes yn cael mynediad i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.
9.6 Cyfrifoldeb y deiliad tŷ yw rhoi eu gwastraff eu hunain yn y lleoliad neu gynhwysydd priodol mewn Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref (yn ôl cyfarwyddyd personél y safle). Gall deiliaid tai ofyn am gymorth personél y safle i helpu gyda chodi a chario os oes angen.
9.7 Ni fydd staff y safle yn goddef unrhyw ymddygiad camdriniol nac ymosodol.
9.8 Bydd gan y Cynghorau’r hawl i wrthod unrhyw berson rhag dod i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref os yw'n amau eu bod wedi mynd yn groes i unrhyw un o'r amodau o fewn y Polisi Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
10.1 Nid yw Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y Cynghorau’n derbyn gwastraff masnachol na busnes, y gellir ei ddiffinio fel gwastraff o eiddo a ddefnyddir yn llwyr neu yn bennaf at ddibenion masnach neu fusnes neu at bwrpas chwaraeon, hamdden, addysg neu adloniant.
10.2 Bydd y Cynghorau’n monitro cam-ddefnyddio gwastraff masnachol yn ei Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref. Os bydd ymwelydd yn cael ei amau o gymryd gwastraff masnachol i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref, bydd personél y safle’n holi'r unigolyn ynglŷn â ffynhonnell y deunydd. Os bydd angen, bydd gofyn i'r ymwelydd safle lenwi 'Ffurflen Datganiad' yn cadarnhau manylion ynglŷn â’r gwastraff. Yn dilyn y wybodaeth hon, bydd y Cynghorau’n ymchwilio a gallai hyn arwain at un o'r camau gweithredu canlynol:
- Rhoi cyngor ynghylch cydymffurfiaeth
- Anfon llythyr â rhybudd ysgrifenedig
- Gwahardd unigolyn (unigolion) rhag defnyddio’r safle
- Cyhoeddi hysbysiad gorfodi
- Rhoi Rhybudd Ffurfiol
- Erlyn trwy'r llysoedd
- Cyfeirio'r mater at gorff arall ar gyfer camau gorfodi, e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Safonau Masnach neu'r Heddlu.
10.3 Bydd y Cynghorau’n monitro cam-ddefnyddio gwastraff masnachol trwy ddefnyddio teledu cylch cyfyng.
10.4 Bydd gan y Cynghorau’r hawl i wrthod unrhyw berson rhag dod i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref os yw'n amau eu bod wedi mynd yn groes i unrhyw un o'r amodau o fewn y Polisi Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
Darperir Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref i ddeiliaid tai gael gwared ar eu gwastraff yn ddiogel ac yn gyfleus. Mae rhai masnachwyr yn defnyddio’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref i gael gwared ar eu gwastraff yn anghyfreithlon. Mae'r costau gwaredu hyn yn cael eu hariannu gan dalwyr treth y cyngor.
Mae defnydd masnach heb awdurdod hefyd yn arwain at faterion diogelwch sy'n gysylltiedig â cherbydau mwy ac yn ychwanegu at amseroedd aros ar gyfer defnyddwyr cyfreithlon eraill.
Mae rhai preswylwyr yn berchen ar fan neu gerbyd bach o fath masnachol a byddant am eu defnyddio i ymweld â Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref gyda'u gwastraff cartref eu hunain.
Cynllun caniatáu yw'r ffordd decaf i sicrhau y gall preswylwyr ddefnyddio eu cerbydau eu hunain i ymweld â'r safleoedd, wrth atal defnydd anghyfreithlon gan fasnachwyr.
Mae'r Cyngor yn gweithredu Cynllun Trwydded Fan Ddomestig a Thrwydded Defnydd Untro. Rhaid i bob defnyddiwr gydymffurfio â'r amodau canlynol:
11.1 Mathau o Drwyddedau
- Trwydded Fan Ddomestig (DVP)
- Yn berthnasol i'r rhan fwyaf o ddeiliaid tai sy'n berchen ar fan neu gerbyd o fath masnachol (heb arwydd ysgrifenedig) i gael gwared ar wastraff domestig o’u cartrefi eu hunain.
- Bydd deiliaid tai sy'n talu Treth safonol y Cyngor yng Nghonwy sy'n dymuno defnyddio fan neu gerbyd bach o fath masnachol i gael gwared ar eu gwastraff cartref eu hunain, â hawl i wneud cais am 20 Trwydded Fan Ddomestig (20 ymweliad) bob 12 mis er mwyn mynd i mewn i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.
- Bydd uchafswm o 20 trwydded (gan ganiatáu 20 ymweliad â Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref) yn cael eu cyhoeddi fesul cartref fesul blwyddyn.
- Trwydded Fan Defnydd Untro
- Ar gyfer deiliaid tai sy'n dymuno cael gwared ar wastraff domestig o’u cartrefi eu hunain gan ddefnyddio fan neu gerbyd wedi’i logi, ei fenthyca, neu waith, ac ar gyfer unrhyw fath o gerbyd sydd ag arwydd ysgrifenedig arno.
- Bydd uchafswm o 2 trwydded fan defnydd untro (gan ganiatáu 2 ymweliad â Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref) yn cael eu cyhoeddi fesul blwyddyn.
11.2 Amodau trwyddedau
- Ni fydd unrhyw drwydded yn cael ei hail-gyhoeddi cyn i'r cyfnod o 12 mis ddod i ben, oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol. Gall deiliad tŷ ddewis pryd i ddefnyddio'r trwyddedau - i gyd mewn un mis neu eu rhannu dros y flwyddyn.
- Mae trwyddedau a roddwyd yn berthnasol i gerbyd mewn cyfeiriad penodol yng Nghonwy neu Sir Ddinbych ac nid y gwastraff, felly, hyd yn oed gyda thrwydded, mae gan staff y safle mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref hawl i allu gwrthod unrhyw un dan amheuaeth o ddod â gwastraff o natur fasnachol.
- Bydd deiliaid tai sy'n talu Treth safonol y Cyngor yng Nghonwy neu Sir Ddinbych â hawl i wneud cais am drwyddedau trwy lenwi ffurflen gais yn llawn.
Bydd yn ofynnol i ddeiliaid tai roi’r wybodaeth ganlynol:
-
- Enw'r Ymgeisydd
- Cyfeiriad
- Rhif ffôn
- Rhif Cofrestru’r Cerbyd
- Math a lliw’r cerbyd
- Math o gerbyd: fan, pic-up, trelar, cerbyd ag arwydd ysgrifenedig
- Manylion y geiriad ar gerbyd (os yw ag arwydd ysgrifenedig)
- Llofnod i gadarnhau eich bod yn derbyn Telerau ac Amodau cynllun trwyddedu’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref
- Bydd trwyddedau’n cael eu cyhoeddi yn erbyn y meini prawf canlynol:
- rhif cofrestru'r cerbyd
- cyfeiriad y cartref
- Rhaid i bob ffurflen gais wedi'i llenwi ddod gyda’r dystiolaeth ganlynol bod deiliad y cartref yn berchen ar y cerbyd ac yn byw yng Nghonwy neu Sir Ddinbych:
- Dogfen Gofrestru’r Cerbyd (V5/V5C) (dim angen ar gyfer trwyddedau untro)
- Prawf o breswylio yng Nghonwy neu Sir Ddinbych (dau fil cyfleustodau neu ddatganiadau banc diweddar) (bil treth y cyngor, cytundeb tenantiaeth / llyfr rhent, bil cyfleustodau, trwydded yrru.) Rhaid i bob dogfennaeth gynnwys enw a chyfeiriad ac yn ddyddiedig o fewn y 3 mis diwethaf o ddyddiad y cais)
- Llun o'r cerbyd a gofrestrir
- Dim ond os ydynt yn cyd-fynd â’r ddogfen prawf preswylio y bydd trwyddedau yn cael eu rhoi i gerbydau, yn y cyfeiriad ar y ddogfen gofrestru V5. (Bydd eithriadau’n cael eu gwneud ar gyfer cerbydau cytundeb les preifat hir dymor, lle gellir gwirio fod deiliad y les yn preswylio yng Nghonwy neu lle pan fydd ymgeisydd yn gwneud cais am drwyddedau untro ar gyfer cerbydau llogi).
- Gweler 11.3 a 11.4 ar gyfer gofynion cais am drwydded mewn perthynas â llogi cerbydau, cerbydau ag arwydd ysgrifenedig a defnyddio / benthyca cerbydau gwaith i wneud cais am Drwydded Defnydd Untro.
- Ar gyfer preswylwyr Conwy, mae’n rhaid i ffurflen gais wedi'i llenwi i gyd, ynghyd â dogfennau ategol (cofrestru'r cerbyd, prawf preswylio) gael ei hanfon dros e-bost at erf@conwy.gov.uk neu drwy’r post at Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN, lle bydd y manylion yn cael eu gwirio a'u dilysu gan aelod o staff y Cyngor.
- Ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych, gellir gwneud cais ar-lein.
- Dim ond unwaith y flwyddyn y bydd Trwyddedau’n cael eu rhoi i gyfeiriadau unigol - uchafswm o 20 trwydded fesul cartref fesul blwyddyn (ar gyfer trwydded Fan Ddomestig) neu uchafswm o 2 Drwydded Fan Defnydd Untro y flwyddyn. Os oes gan aelwyd fwy nag un cerbyd bach o fath masnachol yn eu cyfeiriad cartref, bydd yn rhaid iddynt benderfynu pa gerbyd sydd fwyaf addas i’w ddefnyddio.
- Ni ellir rhoi trwyddedau i gerbydau yn erbyn cyfeiriadau lluosog.
- Nid oes gwahaniaeth rhwng pa ddeiliad tŷ sy’n gyrru'r cerbyd.
- Wrth wneud apwyntiadau ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref rhaid nodi rhif y drwydded wrth wneud yr apwyntiad.
- Dim ond ar gyfer y cerbyd a ddisgrifir ar y drwydded y mae trwydded yn ddilys.
- Mae trwyddedau a gyflwynir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ddilys yn y ddwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yng Nghonwy. Mae trwyddedau a gyflwynir gan Gyngor Sir Ddinbych yn ddilys yn y tair Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn Sir Ddinbych.
- Os yw deiliad tŷ yn newid eu cyfeiriad neu eu cerbyd rhaid iddynt roi gwybod i’r Cyngor cyn ail ymgeisio gyda manylion newydd. Bydd trwyddedau wedi eu diwygio yn annilysu’r hen drwydded.
- Dylai preswylwyr Conwy sy’n colli neu ddifrodi eu trwyddedau anfon e-bost at yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau erf@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 575337 am ragor o fanylion.
- Dylai preswylwyr Sir Ddinbych sy’n colli neu ddifrodi eu trwyddedau ail-ymgeisio.
- Mae'r Cynghorau’n cadw'r hawl i ganslo trwyddedau neu newid gweithrediad y cynllun Trwydded Fan Ddomestig y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref ar unrhyw adeg.
- Bydd deiliaid tai sy'n dod i safle Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref heb drwydded ar gyfer eu fan neu gerbyd bach o fath masnachol yn cael eu troi ymaith.
- Ni fydd cerbydau mawr o fath masnachol nad ydynt yn cwrdd â'r meini prawf maint â’r hawl i fynd i mewn Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ac ni fyddant yn gymwys i gael unrhyw drwyddedau. Gweler 11.7
11.3 Llogi Fan Neu Gerbyd o Fath Masnachol (Trwydded Defnydd Untro)
- Gall preswylwyr Conwy sy’n dymuno defnyddio fan wedi’i llogi i gael gwared ar wastraff eu cartrefi eu hunain wneud cais am Drwydded Defnydd Untro. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y tŷ ddarparu’r cytundeb llogi cerbyd drwy ei anfon dros e-bost at erf@conwy.gov.uk neu drwy’r post at Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN, lle bydd aelod o staff y Cyngor yn gwirio a dilysu’r manylion.
- Gall preswylwyr Sir Ddinbych sy’n dymuno defnyddio fan wedi’i llogi i gael gwared ar wastraff eu cartrefi eu hunain wneud cais am Drwydded Defnydd Untro. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y tŷ ddarparu’r cytundeb llogi cerbyd y gellir ei gyflwyno ar-lein.
- Mae cyfyngiadau cerbydau yn dal yn berthnasol i gael mynediad i’r safle - os nad yw’r cerbyd yn bodloni gofynion maint neu fath cerbyd, ni fydd yn cael mynediad i safle’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.
11.4 Benthyca neu ddefnyddio faniau cwmni neu faniau gwaith a cherbydau o fath masnachol (gan gynnwys cerbyd ag arwydd wedi'I ysgrifennu arno) (Trwydded Fan Defnydd Untro)
- Gall deiliaid tai o Gonwy a Sir Ddinbych ddefnyddio fan eu cyflogwyr neu gerbydau o fath masnachol (cyn belled fod y cerbyd yn cydymffurfio â chyfyngiadau maint 11.7) i gael gwared ar wastraff cartrefi eu hunain mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref gydag uchafswm o 2 Drwydded Fan Defnydd Untro’r flwyddyn. Fodd bynnag, bydd y deiliad tŷ angen llythyr gan y perchennog (neu ei gynrychiolydd) ar bapur y cwmni sy'n rhoi caniatâd i'r ymgeisydd ddefnyddio'r cerbyd i symud eu gwastraff domestig eu hunain, a fydd yn cael ei ddefnyddio yn lle'r Ddogfen Cofrestru Cerbyd V5 ar gyfer dibenion dilysu (bydd prawf preswylio yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn dal yn ofynnol gan ddeiliad y tŷ).
- Ni all deiliaid tai ddefnyddio trwydded i ddod ag unrhyw wastraff sy'n ymwneud â'r gweithgaredd busnes y defnyddir y cerbyd ar ei gyfer fel arfer. Er mwyn osgoi amheuaeth, er enghraifft, os yw'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio yn bennaf ar gyfer gwasanaethau torri gwair, ni fyddai’r safle’n gallu derbyn unrhyw doriadau gwair, fodd bynnag, byddai symiau bach o wastraff domestig arall (yn unol â'r Polisi) yn cael eu derbyn.
11.5 Cerbydau a threlars na fydd angen trwydded
Ni fydd y cynllun trwyddedu’n effeithio ar y rhan fwyaf o ddefnyddwyr safle, gan gynnwys y cerbydau canlynol:
- ceir maint safonol
- cerbydau 4x4 (ac eithrio trycs 4x4 a fydd angen trwyddedau, gweler 11.6)
- ceir mawr (people carriers)
- trelars echel sengl
11.6 Faniau a cherbydau o fath masnachol a fydd angen trwydded
Bydd angen trwydded aelwyd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref ar ddeiliaid tai i gael mynediad i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref os ydynt yn defnyddio faniau neu gerbydau o fath masnachol nad ydynt yn fwy na 5 metr o hyd neu’n uwch na 2.0 metr (yn cynnwys unrhyw osodion a ffitiadau allanol fel rheseli pen to, ysgolion ac ati). Mae cerbydau o fath masnachol yn cael eu diffinio fel cerbyd gydag un neu fwy o'r nodweddion canlynol:
- Nid oes ffenestri cefn
- Nid oes ffenestri ochr
- Nid oes seddi cefn
- Cefn agored, neu gefn ar wahân i’r prif gaban (pic-yps a chaban caeedig)
- Unrhyw fath o gerbyd (gan gynnwys ceir a cherbydau 4x4) gydag arwydd allanol ag ysgrifen yn hysbyseb busnes masnachol (Trwydded Defnydd Untro yn unig).
11.7 Cerbydau masnachol mawr na fydd yn cael mynediad i safleoedd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref
- Mae gan y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref gyfyngiadau maint cerbydau yn eu lle oherwydd amodau trwydded amgylcheddol, rheoli traffig, iechyd a diogelwch ac i reoli'r camddefnydd o wastraff masnachol.
- Nid yw cerbydau mawr o fath masnachol sydd dros 5.0 metr o hyd neu dros 2.0 metr o uchder (gan gynnwys unrhyw osodion a ffitiadau allanol fel rheseli pen to, ysgolion ac ati) yn cael mynediad i'r safleoedd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.
- Yn ogystal â maint cerbyd, ni fydd y mathau o gerbydau penodol canlynol yn cael mynediad i safleoedd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref:
- faniau sylfaen olwyn hir
- faniau uchel (faniau bocs Luton)
- tryciau gwastad
- cerbyd tipio
- tractorau a pheiriannau amaethyddol neu gerbydau tebyg (fel telehandler)
- Cyfyngir ar drelars mawr (gydag echel ddwbl) (Trwydded Defnydd Untro).
11.8 Pobl nad ydynt yn breswylwyr yng Nghonwy
- Dim ond i gartrefi Conwy a Sir Ddinbych y bydd trwyddedau yn cael eu dosbarthu. (Dim ond cartrefi yng Nghonwy a Sir Ddinbych sy’n talu Treth y Cyngor safonol sydd â’r hawl i ddefnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y Cyngor).
11.9 Ffurflenni ymwadiad Gwastraff Masnachol
- Dim ond rhoi caniatâd i fynd i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref mae trwydded, ac nid yw’n drwydded i gael gwared ar wastraff. Bydd unrhyw ddeunydd (mathau a meintiau) sy’n dod i’r safleoedd yn dal i fod yn destun Polisi Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych ac efallai y bydd gofyn i ddeiliaid tai gadarnhau fod gwastraff yn dod o’u cartrefi eu hunain.
- Bydd ffurflenni ymwadiad gwastraff masnachol yn parhau i gael eu defnyddio, lle na all staff y safle wahaniaethu bod y gwastraff yn ganlyniad i weithgarwch masnachol neu weithgarwch yn y cartref, gan mai’r cerbyd sy’n cael ei ganiatáu ac nid y gwastraff. Gan ddibynnu ar ba mor aml y gwneir ymweliadau neu'r math o wastraff sy'n cael ei waredu, efallai y gofynnir i ddeiliaid trwydded lenwi ffurflen ymwadiad i gadarnhau bod y gwastraff yn dod o ffynhonnell cartref (eu cartref eu hunain), ac nad yw’n cael ei gludo er mwyn gwneud elw neu mewn perthynas â gweithgarwch masnachol. Bydd cofnodion a ffotograffau yn cael eu cynnal at ddibenion monitro ac os bydd hynny'n briodol, byddant yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos o dorri rheolau safle neu ddeddfwriaeth, er enghraifft tipio anghyfreithlon.
- Ar gyfer gwastraff cartref yn unig mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, ac ni chaniateir gwastraff masnachol. Mae gwastraff masnachol yn cael ei ddiffinio fel gwastraff sy'n deillio o unrhyw weithgarwch crefftau, busnes, masnachol neu ddiwydiannol. Ni all unrhyw un sydd wedi derbyn unrhyw dâl am gario gwastraff neu sy’n cynhyrchu gwastraff o'u gwaith fynd â’r gwastraff hwn i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.
11.10 Rheolau'r Safle
- Gofynnir i ddeiliaid tai gydymffurfio â rheolau’r safle a Pholisi Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref ar gyfer canolfannau yng Nghonwy a Sir Ddinbych, mewn perthynas â defnyddio Trwyddedau Fan Ddomestig neu Drwyddedau Defnydd Untro.
11.11 Monitro a gwerthuso
- Bydd y cynllun Trwydded Fan Ddomestig yn cael ei weinyddu gan y Cynghorau. Bydd Trwyddedau Faniau Domestig a 2 Drwydded Defnydd Untro yn cael eu cyhoeddi’n electronig a rhaid nodi rhif y drwydded ar y ffurflen archebu wrth wneud apwyntiad i ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.
- Bydd monitro i atal ceisiadau anghyfreithlon neu ddefnydd o'r drwydded yn digwydd fel a ganlyn:
- drwy gyfrwng y ffurflen gais gan staff gweinyddol y Cyngor
- bydd pob trwydded â rhif trwydded unigryw
- gan staff y safle yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref drwy ddilysu pob trwydded y cyfeirir atynt ar archebion apwyntiadau cerbydau sy'n dod i'r safle
- Mae’n bosibl y bydd meddalwedd camera Adnabod Rhifau Ceir yn Awtomatig (ANPR) yn cofnodi pob cerbyd sy'n mynd i'r safle. Croesgyfeirir nifer yr ymweliadau a gofnodwyd ar y system ANPR yn erbyn nifer y trwyddedau a gyhoeddir ac a ddefnyddir ym mhob Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
- Teledu cylch cyfyng yn y ddwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref
- Ffurflenni ymwadiad gwastraff masnachol
- Bydd ymweliadau’n cael eu cofnodi a bydd y wybodaeth yn cael ei chadw gan y Cynghorau at ddibenion monitro.
- Gwneir rhagor o groesgyfeiriadau gyda'r ffurflenni ymwadiad gwastraff masnachol a bydd unrhyw anghydfod dros y cyfnod o 12 mis yn cael eu cofnodi.
- Os yw preswylydd Conwy’n newid cyfeiriad, neu fanylion y cerbyd, mae'n rhaid iddynt roi gwybod i’r Cyngor er mwyn diweddaru’r manylion a chael trwyddedau newydd. Gellir anfon y wybodaeth newydd dros e-bost at erf@conwy.gov.uk neu drwy'r post at Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN, lle bydd aelod o staff y Cyngor yn gwirio a dilysu’r manylion. Bydd deiliaid tai ond yn derbyn trwyddedau newydd yn seiliedig ar nifer y trwyddedau sydd heb gael eu defnyddio yn ystod eu cyfyngiad cyfredol o 12 mis. Bydd trwyddedau blaenorol yn annilys a rhaid eu rhoi yn ôl i'r Cyngor. Pe na byddai trwyddedau heb eu defnyddio yn cael eu rhoi yn ôl, bydd y Cyngor yn trin y sefyllfa hon yr un fath â phe bai deiliad tŷ wedi colli’r trwyddedau.
- Os yw preswylydd Sir Ddinbych yn newid cyfeiriad neu fanylion y cerbyd, mae’n rhaid i ddeiliad y tŷ wneud cais am drwydded newydd. Bydd deiliaid tai ond yn derbyn trwyddedau newydd yn seiliedig ar nifer y trwyddedau sydd heb gael eu defnyddio yn ystod eu cyfyngiad cyfredol o 12 mis. Bydd trwyddedau blaenorol yn annilys a rhaid eu rhoi yn ôl i'r Cyngor. Pe na byddai trwyddedau heb eu defnyddio yn cael eu rhoi yn ôl, bydd y Cyngor yn trin y sefyllfa hon yr un fath â phe bai deiliad tŷ wedi colli’r trwyddedau.
- Bydd y Cynghorau’n monitro ymweliadau i atal a rheoli ceisiadau dyblyg ar gyfer adnewyddu trwyddedau coll neu sydd wedi’u dwyn, hynny yw deiliaid tai sy'n parhau i ddefnyddio'r trwyddedau yr honnwyd iddynt fynd ar goll, ar ôl derbyn rhai newydd.
- Bydd y Cyngor yn monitro ymweliadau i nodi unrhyw drwyddedau sydd wedi cael eu copïo neu sy’n gopïau ffug.
- Bydd gan y Cyngor yr hawl i wrthod unrhyw berson rhag dod i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref os yw'n amau eu bod wedi mynd yn groes i unrhyw un o'r amodau a amlygwyd o fewn y Polisi Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.