Rhoi gwybod am gasgliad bin a fethwyd

Ar eich diwrnod casglu arferol, sicrhewch fod eich cynwysyddion yn y man casglu erbyn 6.30am. Gallwn gasglu eich gwastraff unrhyw amser ar y diwrnod hwn hyd at 5pm, felly gadewch eich cynwysyddion allan tan hynny.

Os na fyddwch chi'n gosod eich cynwysyddion allan yn barod i’w casglu cyn 6:30am neu yn rhoi eich cynwysyddion allan ar y diwrnod anghywir, bydd angen i chi naill ai:

  • aros tan eich diwrnod casglu nesaf sydd wedi’i drefnu  
  • cymryd eich deunydd ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu i’ch Parc Gwastraff ac Ailgylchu lleol

Casgliadau gwastraff a fethwyd oherwydd y tywydd ddydd Mercher 20 Tachwedd 2024

Ni allai ein criwiau casglu sbwriel gwblhau'r holl gasgliadau sbwriel ddydd Mercher 20 Tachwedd 2024 oherwydd amodau'r tywydd.

Rydym yn ymwybodol o'r casgliadau a gollwyd yn:

  • Pentre
  • Bryneglwys
  • Rhyd-y-meudwy
  • Pentredwr
  • Graigfechan
  • Llangollen
  • Llanferres
  • Llanelidan
  • Corwen
  • Glyndyfrdwy
  • Llanarmon yn Iâl
  • Eryrys
  • Maeshafn

 

Os ydych chi'n byw yn unrhyw un o'r ardaloedd hyn ac rydym wedi colli eich casgliad gwastraff neu ailgylchu, peidiwch â rhoi gwybod am gasgliad a gollwyd.

Pan fydd y tywydd yn clirio a'r ffyrdd yn ddiogel, byddwn yn gweithio mor galed â phosibl i gasglu'r casgliadau coll hyn a byddwn yn blaenoriaethu'r gwastraff Nwyddau Hylendid Amsugnol.

Os oes mwy o broblemau gyda chasgliadau sbwriel ddydd Iau oherwydd y tywydd:

  • bydd cyfathrebiad pellach yn cael ei gyhoeddi maes o law
  • gan fod ailgylchu yn wasanaeth casglu wythnosol, ni fyddwn yn dychwelyd i gasglu unrhyw gynwysyddion ailgylchu a fethwyd yr wythnos hon, ac felly bydd yr eiddo hyn yn cael eu casglu ar eich diwrnod casglu arferol nesaf.
  • byddwn yn mynd â deunydd ailgylchu ychwanegol yr wythnos nesaf o unrhyw gartrefi nad oeddem yn gallu eu casglu heddiw. Os oes angen i chi gyflwyno deunydd ailgylchu ychwanegol, yna mae angen cadw'r deunydd hwn ar wahân.

Mae ein criwiau wedi ceisio casglu’r holl casgliadau a fethwyd o ddydd Mawrth, fodd bynnag, o achos parhad yn y tywydd garw, nid ydynt wedi gallu casglu popeth. Pan fydd y tywydd yn clirio a’r ffyrdd yn ddiogel byddwn yn parhau i weithio’n galed i gasglu’r casgliadau a fethwyd gan flaenoriaethu’r gwastraff na ellir ei ailgylchu a Nwyddau Hylendid Amsugnol.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.

Casgliadau ailgylchu a fethwyd (Trolibocs / Bagiau / Bag Cardfwrdd / Cadi bwyd)

Os caiff eich casgliad ailgylchu neu fwyd ei fethu, bydd ein criwiau yn anelu dychwelyd o fewn 2 ddiwrnod gwaith i’w gasglu os caiff ei gadarnhau fel casgliad a fethwyd. Os na allant gasglu o fewn yr amser hwn, bydd eich ailgylchu yn cael ei gasglu ar eich diwrnod casglu arferol nesaf.

Casgliadau NHA neu wastraff na ellir ei ailgylchu  a fethwyd

Of caiff eich casgliad NHA neu wastraff na ellir ei ailgylchu ei fethu, caiff ei gasglu o fewn 2 diwrnod gwaith i’r casgliad a fethwyd, os caiff ei gadarnhau fel casgliad a fethwyd.

Casgliadau gwastraff gardd a fethwyd

Os caiff eich gwastraff gardd ei fethu, caiff ei gasglu o fewn 5 diwrnod gwaith i’r casgliad a fethwyd, os caiff ei gadarnhau fel casgliad a fethwyd.

Rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd

Gofynnwn yn garedig i chi beidio â rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 5pm gan y bydd rhai criwiau yn parhau i gasglu gwastraff tan yr amser yma.

Os ydych chi’n credu bod ein criwiau wedi methu eich casgliad bin, gallwch roi gwybod i ni:

  • ar-lein o 5pm ar y diwrnod y dylai eich bin fod wedi’i wagio hyd at 3pm y diwrnod gwaith wedyn (dydd Llun i ddydd Gwener)
  • ffonio’r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid o 8:30pm i 3pm y diwrnod gwaith nesaf (dydd Llun i ddydd Gwener) ar ôl y diwrnod pan ddylai eich bin fod wedi’i wagio ar  01824 706 000 

Rhoi gwybod am gasgliad gwastraff a fethwyd arlein

Gallwch roi gwybod am gasgliad gwastraff a fethwyd arlein ar ôl 5pm ar y diwrnod dylai fod eich casgliad wedi ei gwblhau

Rhoi gwybod am gasgliad bin a fethwyd arlein