Beth ddylwn i ei wneud â radios?
Gallwn gasglu radios trwy’r gwasanaeth casgliadau ailgylchu a gwastraff. Ni ddylai’r eitemau fod yn fwy na thaflen o bapur A4. Gellir mynd ag radio mwy i Ganolfan Ailgylchu a Gwastraff:
Gwasanaeth Trolibocs
-
Rhowch eich eitemau trydanol bach yn rhydd ar ben eich Trolibocs i'w casglu.
-
Gwasanaeth bagiau
-
Rhowch eich eitemau trydanol bach yn rhydd ar dop un o'ch bagiau y gellir eu hailddefnyddio
-
Gwasanaeth biniau cymunedol
-
Ar y llawr, wrth y biniau cymunedol
-
Siop Ailddefnyddio: Parc Gwastraff ac Ailgylchu'r Rhyl
Mae Siop ‘Ailddefnyddio’, wedi’i lleoli ym Mharc Ailgylchu gwastraff y Cartref y Rhyl, bellach ar agor 7 diwrnod yr wythnos.
Gellir rhoi bywyd newydd i hen ddodrefn ac eitemau trydanol sy’n gweithio, yn ogystal â dillad o ansawdd uchel neu eitemau cartref a bric-a-brac eraill drwy gyfrannu eich eitemau diangen i’r Siop Ailddefnyddio.
Mae man cyfrannu ar agor 7 niwrnod yr wythnos yn y tri Pharc Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Mwy o wybodaeth
Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.
Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.
Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.