Gwastraff masnach

Nid yw cost casglu gwastraff masnach wedi ei gynnwys mewn ardrethi busnes felly rydym yn codi ffi am ei gasglu a’i waredu. Gallwch ddewis defnyddio’r gwasanaeth a ddarparwn ni neu gallwch wneud eich trefniadau eich hun efo contractwr rheoli gwastraff trwyddedig preifat.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaethau ailgylchu a sbwriel cartref ar gyfer gwaredu gwastraff masnach.

Cyfraith Ailgylchu yn y Gweithle

Ar 6 Ebrill 2024, daeth yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliadau’r sector gyhoeddus drefnu eu gwastraff ar gyfer ailgylchu.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys pa wastraff sydd angen i wahanu ac i bwy mae’r gyfraith yn berthnasol, ewch i www.llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle (gwefan allanol)

Pa wasanaethau gwastraff masnach mae’r cyngor yn eu cynnig?

Rydym yn cynnig gwasanaethau casglu gwastraff masnach ar gyfer:

Cardfwrdd a phapur

Mae’n rhaid i gardfwrdd a phapur gael eu casglu ar wahân i ddeunyddiau eraill.

Labeli gwasanaeth casglu cardfwrdd

I gwsmeriaid nad oes ganddynt ddigon o le ar gyfer biniau ar olwynion, rydym yn cynnig gwasanaeth casglu cardfwrdd.  Gydag un o’n labeli wedi eu hatodi, gallwch osod hyd at 1 metr ciwbig o gardfwrdd wedi ei wasgu i’w gasglu.  Mae’r gwasanaeth hwn yn destun polisi defnydd teg.

Gallwch brynu taflenni o 14 o labeli gwasanaeth casglu cardfwrdd o’n Siopau Un Alwad.

Beth yw cost casgliadau gwastraff masnach cardfwrdd a phapur?

Gwelir costau casgliadau gwastraff masnach cardfwrdd a phapur yn y tabl canlynol:

Costau casgliadau gwastraff masnach cardfwrdd a phapur
CynhwysyddCost y casgliad
Bin 1100L ar olwynion £14.03
Bin 660L ar olwynion £11.28
Bin 360L ar olwynion £7.15
Bin 240L ar olwynion £4.95
Bin 120/140L ar olwynion £3.95
Sachau i’w hailddefnyddio £3.00
Labeli cardfwrdd £42.00

Yn ôl i’r rhestr o wasanaethau gwastraff masnach

Canfod sut i drefnu casgliadau gwastraff masnach


Bwyd

Rydym yn casglu oddeutu 4,000 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn o gartrefi a busnesau Sir Ddinbych. Mae’r gwastraff bwyd hwn yn cael ei brosesu’n lleol i gynhyrchu trydan adnewyddadwy a gwrtaith hylif llawn maeth sy’n cael ei ddefnyddio i gyfoethogi tir amaethyddol lleol. Yno gystal â bod y ffordd mwyaf buddiol o ailgylchu gwastraff bwyd, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn orfodol i fusnesau drefnu bod eu gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar wahân.

Gallwn eich helpu i ailgylchu eich gwastraff bwyd gyda gwasanaeth wythnosol hwylus gan ddefnyddio cadis fel y rhai a ddefnyddiwr yn y cartref neu finiau 120 litr ar olwynion, y gellir eu symud yn hawdd pan fyddant yn llawn.

Beth yw cost casgliadau gwastraff masnach bwyd?

Gwelir costau casgliadau gwastraff masnach bwyd yn y tabl canlynol:

Costau casgliadau gwastraff masnach bwyd
CynhwysyddCost y casgliad
Bin 120/140L ar olwynion £4.25
Cadi 23L £2.15

Yn ôl i’r rhestr o wasanaethau gwastraff masnach

Canfod sut i drefnu casgliadau gwastraff masnach


Poteli gwydr a jariau

Mae’n rhaid i boteli gwydr a jariau gael eu casglu ar wahân i ddeunyddiau eraill.

Beth yw cost casgliadau gwastraff masnach poteli a jariau?

Gwelir costau casgliadau gwastraff masnach poteli a jariau yn y tabl canlynol:

Costau casgliadau gwastraff masnach poteli a jariau
CynhwysyddCost y casgliad
Bin 360L ar olwynion £7.15
Bin 240L ar olwynion £4.95
Bin 120/140L ar olwynion £3.95
Sachau i’w hailddefnyddio £3.00

Yn ôl i’r rhestr o wasanaethau gwastraff masnach

Canfod sut i drefnu casgliadau gwastraff masnach


Plastig, caniau a chartonau

Mae’n rhaid i blastig, caniau a chartonau gael eu casglu ar wahân i ddeunyddiau eraill.

Beth yw cost casgliadau gwastraff masnach plastig, caniau a chartonau?

Gwelir costau casgliadau gwastraff masnach plastig, caniau a chartonau yn y tabl canlynol:

Costau casgliadau gwastraff masnach plastig, caniau a chartonau
CynhwysyddCost y casgliad
Bin 1100L ar olwynion £14.03
Bin 660L ar olwynion £11.28
Bin 360L ar olwynion £7.15
Bin 240L ar olwynion £4.95
Bin 120/140L ar olwynion £3.95
Sachau i’w hailddefnyddio £3.00
Trolibocs £6.00

Yn ôl i’r rhestr o wasanaethau gwastraff masnach

Canfod sut i drefnu casgliadau gwastraff masnach


Casgliadau gwastraff gweddilliol

Gwastraff gweddilliol yw’r enw a roi i’r gwastraff sydd ar ôl wedi i’r holl ddeunydd a ellir ei ailgylchu gael ei dynnu allan ohono. Yn hytrach nag anfon y gwastraff hwn i safle tirlenwi, rydym yn anfon gwastraff gweddilliol i losgydd ynni-o-wastraff, lle caiff ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan.

Ni chesglir gwastraff gweddilliol sy’n cynnwys deunyddiau ailgylchadwy neu wastraff ailgylchu sydd heb ei ddidoli’n iawn.

Beth yw cost casgliadau gwastraff masnach gweddilliol?

Gwelir costau casgliadau gwastraff masnach gweddilliol yn y tabl canlynol:

Costau casgliadau gwastraff masnach gweddilliol
CynhwysyddCost y casgliad
Bin 1100L ar olwynion £28.45
Bin 660L ar olwynion £17.40
Bin 360L ar olwynion £10.22
Bin 240L ar olwynion £7.68
Bin 120/140L ar olwynion £6.00
Sachau brown £29.10

Yn ôl i’r rhestr o wasanaethau gwastraff masnach

Canfod sut i drefnu casgliadau gwastraff masnach


Sut allaf i drefnu casgliad?

Gallwch ddewis y cynwysyddion sydd fwyaf addas i chi.

Cysylltwch â ni er mwyn trefnu eich gwasanaeth casglu

Gallwch gysylltu â’n canolfan gwasanaethau i gwsmeriaid hefyd ar 01824 706000 i drefnu gwasanaeth casglu. Bydd angen i ni drefnu’r cynwysyddion gwastraff cywir ar eich cyfer, ac os ydych yn derbyn gwasanaethau biniau ar olwynion, bydd angen contract wedi’i arwyddo.


Rhoi gwybod am gasgliad gwastraff masnach wedi ei fethu

Rhoi gwybod am gasgliad gwastraff masnach wedi ei fethu


Casgliad eitemau masnach swmpus

Gallwch drefnu casgliadau hefyd ar gyfer rhai eitemau swmpus. Nid yw cost y gwasanaeth hwn yr un fath â chasgliadau swmpus cartref, gan fod yn rhaid i ni godi ffi am waredu’r eitemau. Ymholwch isod er mwyn gweld beth allwn ni ei gasglu a beth yw’r costau.

Gofynnwch am ddyfynbris ar gyfer casglu eitem fasnach swmpus

Fel arall, gallwch gysylltu â’r ganolfan gwasanaeth i gwsmeriaid ar ar 01824 706000.


Mwy o wybodaeth

Mae perchnogion busnes sy’n torri eu dyletswydd gofal wrth din gwastraff yn troseddu dan Adran 34 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Y gosb uchaf am hyn mewn llys ynadon yw £5,000 neu ddirwy benagored os ceir y busnes yn euog yn llys y goron. Mae’n rhaid i chi, yn unol â’r gyfraith, ddangos copïau o’ch nodiadau Dyletswydd Gofal Trosglwyddo Gwastraff pan ofynnir i chi wneud hynny gan swyddog awdurdodedig i brofi eich bod chi’n gwaredu eich gwastraff mewn ffordd gyfrifol.