Beth ddylwn i ei wneud â phadiau anymataliaeth a chlytiau?

Nid oes posib' ailgylchu eitemau fel y rhain.

Gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol

O fis Mehefin 2024, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu am ddim ar draws y sir ar gyfer eich cynnyrch hylendid amsugnol, yn cynnwys clytiau tafladwy a chynnyrch hylendid amsugnol eraill. Os byddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn, byddwn yn casglu’r gwastraff hwn i chi bob wythnos.

Gallwch waredu padiau anymataliaeth a chlytiau yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol

Canllawiau

Nwyddau Hylendid Amsugnol

O fis Mehefin 2024, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu am ddim ar draws y sir ar gyfer eich cynnyrch hylendid amsugnol, yn cynnwys clytiau tafladwy a chynnyrch hylendid amsugnol eraill.

Os byddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn, byddwn yn casglu’r gwastraff hwn i chi bob wythnos.

Clytiau go iawn

Os ydych yn byw yn Sir Ddinbych neu Sir y Fflint a bod eich plentyn rhwng 0 ac 18 mis oed, gallech fod â hawl i dalebau hyd at £75 i’ch helpu i brynu clytiau go iawn neu helpu i dalu am y Gwasanaeth Golchi Clytiau Go Iawn.

Darganfod mwy am glytiau go iawn.

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.