Beth ddylwn i ei wneud ag eitemau / offer trydanol?

Symbol ailgylchu trydanol

Gallwn gasglu eitemau trydanol bach trwy’r gwasanaeth casgliadau ailgylchu a gwastraff. Ni ddylai’r eitemau fod yn fwy na thaflen o bapur A4.  Gellir mynd ag eitemau trydanol mwy i Ganolfan Ailgylchu a Gwastraff.

Enghreifftiau o eitemau trydanol bach y gallwn eu casglu yw:

  • Raseli trydan
  • Sychwyr gwallt
  • Heyrn
  • Tegellau
  • Offer pŵer
  • Radios
  • Tostwyr

I gael gwared ag eitemau trydanol bach, defnyddiwch y cynhwysydd priodol ar gyfer eich gwasanaeth casgliadau ailgylchu a gwastraff neu fynd a nhw i Barc Ailgylchu a Gwastraff:

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol

Canllawiau

Mae’n rhaid i fanwerthwyr nwyddau trydanol ddarparu ffordd i chi i waredu hen gyfarpar trydanol ac electronig y cartref pan fyddwch yn prynu fersiwn newydd o’r un eitem. Mae hyn yn cynnwys manwerthwyr ar-lein.

Mae rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau manwerthwyr a dosbarthwyr ar wefan GOV.UK (gwefan allanol).

Fel arall, gellir ailgylchu’r rhain gydag eitemau trydanol mewn Canolfannau Ailgylchu. Os ydynt yn gweithio, efallai bydd eich eitemau yn addas i gael eu hailddefnyddio.

Siop Ailddefnyddio: Parc Gwastraff ac Ailgylchu'r Rhyl

Mae Siop ‘Ailddefnyddio’, wedi’i lleoli ym Mharc Ailgylchu gwastraff y Cartref y Rhyl, bellach ar agor 7 diwrnod yr wythnos.

Gellir rhoi bywyd newydd i hen ddodrefn ac eitemau trydanol sy’n gweithio, yn ogystal â dillad o ansawdd uchel neu eitemau cartref a bric-a-brac eraill drwy gyfrannu eich eitemau diangen i’r Siop Ailddefnyddio.

Mae man cyfrannu ar agor 7 niwrnod yr wythnos yn y tri Pharc Ailgylchu Gwastraff y Cartref. 

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.