Beth ddylwn i wneud gydag e-sigaréts?

Gallwch ailgylchu e-sigaréts a fêps drwy eu rhoi mewn bag plastig untro, clymu’r bag yn dynn ac yna ei roi ar ben y cynhwysydd priodol ar gyfer eich gwasanaeth casglu ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:

Gwasanaeth Trolibocs

  • E-sigarét wedi'i osod mewn bag clir ar ben trolibocs

    Rhowch e-sigaréts a vapes mewn bag plastig untro, gan glymu'r bag yn ddiogel ac yna rhowch y bag ar ben eich Trolibocs.

Gwasanaeth bagiau

  • E-sigarét wedi'i osod mewn bag clir ar ben sach ddu

    Rhowch e-sigaréts a vapes mewn bag plastig untro, gan glymu'r bag yn ddiogel ac yna rhowch y bag ar ben eich bagiau y gellir eu hailddefnyddio.

Gwasanaeth biniau cymunedol

  • E-sigaréts mewn bag plastig untro wedi'i osod yn rhydd ar y llawr, wrth ymyl y biniau

    Rhowch e-sigaréts a vapes mewn bag plastig untro, gan glymu'r bag yn ddiogel ac yna gosod y bag yn rhydd ar y llawr, wrth ymyl y biniau.

Canllawiau

Gall e-sigaréts neu fêps gynnwys batris a llygryddion organig parhaus. Gellir eu hailgylchu, ond oherwydd eu bod yn cynnwys batris, ni ddylid eu rhoi yn eich Trolibocs neu fagiau.

Rhaid peidio â rhoi e-sigaréts o unrhyw fath yn unrhyw rai o'ch cynwysyddion gwastraff oherwydd risg o dân yn eich bin chi, ein cerbydau casglu gwastraff ni neu yn y cyfleuster trin gwastraff.

Mae e-sigaréts neu fêps yn niweidiol i’r amgylchedd. Mae nifer o fanwerthwyr e-sigaréts neu fêps yn darparu cyfleusterau ailgylchu am ddim. Gallwch fynd â nhw gyda chi pan fyddwch yn mynd i’r lleoliadau hyn, er mwyn cael gwared ohonynt yn ddiogel.

Chwiliwch am y lleoliad agosaf y gallwch ailgylchu eich e-sigaréts wedi'u defnyddio yn 'Recycle Your Electicals' (gwefan allanol).

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.