Lleoedd iau blwyddyn 3

Dim ond os yw eich plentyn ar hyn o bryd yn mynd i ysgol fabanod (naill ai Babanod Llanelwy neu Ysgol y Parc), a’ch bod yn dymuno gwneud cais am ysgol iau (naill ai Ysgol Esgob Morgan neu Ysgol Frongoch) y mae angen i chi gwblhau’r cais hwn.

Lleoedd mewn ysgol iau (blwyddyn 3) 2025

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol iau (blwyddyn 3) ar gyfer plant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2017 a 31 Awst 2018 oedd 18 Tachwedd 2024.

Os ydych wedi gwneud cais yn barod, byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 16 Ebrill 2025.

Gwneud cais ar ôl y dyddiad cau

Os ydych yn ymgeisio ar ôl y dyddiad cau, bydd eich cais yn cael ei brosesu ar ôl trin â'r holl geisiadau a ddaeth i law ar amser. Mae hyn yn golygu y gall eich ysgol ddewisol fod yn llawn erbyn yr amser y byddwn yn prosesu'ch cais, ac am y rheswm hwn, rydym yn argymell eich bod yn nodi mwy nag un dewis wrth ymgeisio.

Bydd ceisiadau hwyr a ddaw i law yn cael eu hystyried gyda’i gilydd, waeth beth oedd y dyddiad y daethant i law, yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio yng nghanllaw Ysgolion Sir Ddinbych.

Os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais oedd ar amser ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.

Sut i wneud cais am le mewn ysgol

Mae’r broses ymgeisio yn dibynnu ar pryd fyddwch chi’n cyflwyno cais.

Ar gyfer lleoedd mewn ysgol iau (blwyddyn 3) 2025:

  • roedd y cyfnod ymgeisio ar agor rhwng 23 Medi 2024 a 18 Tachwedd 2024, ac roedd ceisiadau’n cael eu gwneud trwy gyfrifon Hunan-wasanaeth Addysg
  • gellid cyflwyno ceisiadau hwyr rhwng 18 Tachwedd 2024 a 16 Mawrth 2025 trwy’r cyfrifon Hunan-wasanaeth Addysg, caiff y rhain eu prosesu ar ôl pob cais a gafodd eu cyflwyno’n brydlon
  • gallwch gyflwyno cais am lle mewn ysgol iau (blwyddyn 3) rŵan, ond mae’n rhaid ei gyflwyno trwy ffurflen ar-lein ar wahân (nid trwy gyfrif Hunan-wasanaeth Addysg) a chaiff y rhain eu prosesu ar ôl 16 Ebrill 2025

Gwneud cais am le mewn ysgol iau (blwyddyn 3)

Os ydych chi wedi cyflwyno cais am le mewn ysgol trwy gyfrif Hunan-wasanaeth Addysg, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif Hunan-wasanaeth Addysg i weld eich cais.

Mwy am Hunan-wasanaeth Addysg

Sut i wneud cais am le mewn ysgol

Bydd arnoch chi angen cyfrif Hunan-wasanaeth Addysg i wneud cais am le mewn ysgol. Gallwch greu eich cyfrif Hunanwasanaeth Addysg cyn i gyfnod ymgeisio ddechrau.

Creu neu fewngofnodi i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Addysg

Canfod rhagor am gyfrifon Hunan-wasanaeth Addysg.

Newid cais ar ôl ei gyflwyno

Ar ôl cyflwyno cais am le mewn ysgol, os hoffech chi newid unrhyw beth, bydd cyfnod byr lle bydd modd i chi ddad-gyflwyno eich cais drwy eich cyfrif Hunan-wasanaeth Aelodau a chyflwyno un newydd. Os nad ydych yn gweld opsiwn i ddad-gyflwyno cais, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais i roi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol.

Bydd ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau’n cael eu hystyried fel ceisiadau prydlon. Gallwch wneud unrhyw newidiadau o fewn y cyfnod hwn ac ni fydd hyn yn cael effaith ar statws prydlon eich cais.

Fodd bynnag, os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais a gyflwynwyd yn brydlon ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.

Rhoi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol (ffurflen gais)

Addysg cyfrwng Cymraeg

Nid oes gwell amser erioed wedi bod i ddysgu Cymraeg. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor i weld y Gymraeg yn ffynnu gyda miliwn o bobl yn gallu ei siarad erbyn 2050.

Mae dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn cynnig mantais yn addysgol, diwylliannol ac mewn cyflogaeth.

Darganfyddwch mwy am addysg cyfrwng Cymraeg

Canllawiau gwybodaeth ysgolion