Cludiant Ysgol i Ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Oherwydd gwyliau haf yr ysgol, mae’n bosib y bydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn ystod y cyfnod hwn yn arwain at oedi o fewn yr amserlenni isod. Byddwn yn ymateb i'ch cais cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr.
Mewn rhai achosion gellir darparu cludiant i’r ysgol i ddygwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol; (ADY).
Cymhwysedd
Darperir cludiant i blentyn ag ADY os oes ganddo un o’r canlynol:
- Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal
- Cynllun Datblygu Unigol (CDU)
- Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
Bydd cludiant ADY yn cael ei ddarparu os yw cludiant ysgol wedi’i gynnwys fel rhan o’r darpariaethau nad ydynt yn ymwneud ag addysg sydd wedi’u gwneud ar gyfer y plentyn fel rhan o’r Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal, CDU neu Ddatganiad AAA.
Gall plentyn hefyd fod yn gymwys i gael cludiant er nad yw hynny wedi’i gynnwys yn y Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal, CDU neu’r Datganiad AAA, os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- Yr ysgol honno yw’r ysgol addas agosaf
- Mae’r ysgol yn ysgol fwydo ddynodedig ar gyfer ysgol uwchradd benodol; yn amodol ar fodloni’r meini prawf cymhwyso
Ysgol addas agosaf
Yr ysgol addas agosaf yw’r ysgol agosaf at gartref y plentyn sydd:
- Yn darparu addysg ar gyfer oedran perthnasol y disgybl
- Yn bodloni eu gofynion iaith
- Neu’r ysgol agosaf sy’n ysgol ffydd neu’n ysgol nad ydi hi'n ysgol ffydd
Pellter
Efallai y bydd y pellter rhwng cartref y plentyn a’r ysgol addas agosaf yn cael ei ystyried wrth benderfynu a ddylid darparu cludiant ADY.
Gellir darparu cludiant ADY os yw’r pellter rhwng cartref y plentyn a’r ysgol addas agosaf yn fwy na:
- 2 filltir (i ddisgyblion ysgol gynradd)
- 3 milltir (i ddisgyblion ysgol uwchradd)
Sut i wneud cais am gludiant ADY
Gallwch wneud cais am gludiant ADY ar-lein.
Gwnewch eich trefniadau eich hun o ran cludiant ysgol tan ein bod ni wedi cadarnhau y bydd cludiant ADY ar gael.
Gwneud cais ar-lein
Gwneud cais am gludiant ADY ar-lein
Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cais
Byddwn yn adolygu eich cais o fewn 15 diwrnod gwaith. Mae’r 15 diwrnod hwn yn cyfeirio at wirio cymhwysedd ac ymateb, yn hytrach na phryd fydd cludiant yn dechrau.
Gwnewch drefniadau i'ch plentyn deithio i'r ysgol ac o'r ysgol tan ein bod ni wedi cadarnhau bod eich cais chi wedi bod yn llwyddiannus.
Penderfynu a ddylid darparu cludiant
Bydd y Panel Cynhwysiant yn cwrdd o fewn 10 diwrnod ysgol o dderbyn ffurflen gais lawn i benderfynu a ddylid darparu cludiant ADY. Mae’r Panel Cynhwysiant yn cynnwys amrywiaeth o gynrychiolwyr, o weithwyr addysg i weithwyr iechyd.
Bydd y Panel yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar y canlynol:
Canlyniad
Byddwch yn cael gwybod o fewn 5 diwrnod gwaith beth yw penderfyniad y Panel.
Os yw'ch cais yn llwyddiannus, bydd swyddog o’n tîm Cludiant Teithwyr yn cysylltu gyda chi i gadarnhau pryd y bydd y cludiant ADY yn dechrau.
Apelio
Os bydd eich cais am gludiant ADY yn cael ei wrthod, bydd gennych chi 20 diwrnod gwaith i apelio.
Canfod mwy am apeliadau cludiant ysgol.