Gwneud cais am gludiant ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Cyn i chi ddechrau

    Mae’r ffurflen gais hon ar gyfer gwneud cais am gludiant ysgol i ddisgyblion y mae ganddyn nhw Gynllun Datblygu Unigol (CDU) neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Disgyblion sy’n byw yn Sir Ddinbych yn unig y gallwn ni ddarparu cludiant ar eu cyfer.

    I lenwi’r ffurflen hon, bydd yn rhaid i chi gyflwyno:

    • cynllun Datblygu Unigol neu Ddatganiad AAA eich plentyn (gallwch chi gyflwyno llun neu ddogfen (MS Word neu PDF) ar gyfer hyn)
    • eich cyfeirnod cludiant ysgol ADY
    • gwybodaeth am anghenion eich plentyn wrth deithio i’r ysgol
    • manylion am unrhyw broblemau gyrru posibl yn agos at gyfeiriad y cartref
    • cynllun meddygol a/neu ymddygiad eich plentyn os oes un ganddyn nhw (gallwch chi gyflwyno llun neu ddogfen (MS Word neu PDF ar gyfer hwn)

    Cyfeirnod

    Bydd angen cyfeirnod arnoch chi gan ein tîm ADY i lenwi’r ffurflen hon. Os nad oes gennych chi gyfeirnod, cysylltwch â’r Tîm ADY ar 01824 708064 cyn llenwi’r ffurflen. Dyma’r oriau agor:

    • 9am tan 5pm, Dydd Llun i Ddydd Iau
    • 9am tan 4:30pm ar dydd Gwener

    Trefniadau ar gyfer cludiant ysgol

    Gall gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith i brosesu cais a gwirio a ydych chi’n gymwys i gael cludiant ysgol ADY. Mae’r 15 diwrnod hwn yn cyfeirio at wirio cymhwysedd ac ymateb, yn hytrach na phryd fydd cludiant yn dechrau. Mewn rhai achosion, gall gymryd mwy o amser. Os ydych chi’n llwyddiannus, bydd Cludiant Teithwyr yn rhoi gwybod i chi pryd bydd y cludiant yn dechrau.

    Gwnewch eich trefniadau eich hun o ran cludiant ysgol tan ein bod ni wedi cadarnhau y bydd cludiant ADY ar gael.


  • Ydych chi'n gwneud cais am gludiant ysgol ar gyfer disgybl sy’n byw yn Sir Ddinbych?