Apeliadau cludiant i'r ysgol

Os gwrthodwyd cludiant i'r ysgol am ddim i'ch plentyn, mae gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Mae 2 gam i'r broses apelio.

Cam 1: Adolygu'r penderfyniad

I apelio, mae'n rhaid i chi anfon cais i ni adolygu'r penderfyniad cyn pen 20 diwrnod gwaith o’r dyddiad y cafodd ei wrthod i ddechrau.

Dylid nodi yn eich cais:

  • y rhesymau pam yr hoffech i'r penderfyniad gael ei adolygu
  • unrhyw amgylchiadau perthnasol a allai effeithio ar y penderfyniad

Gallwch hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol i gefnogi eich cais.

Gallwch anfon eich cais dros e-bost at schoolsupport@denbighshire.gov.uk, neu drwy'r post at:

Cefnogaeth Addysg
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ

Ar ôl cyflwyno cais i adolygu'r penderfyniad

Cyn pen 20 diwrnod gwaith o gael y cais, bydd Uwch Swyddog o Gefnogaeth Addysg yn adolygu'r penderfyniad gwreiddiol ac yn ymateb gyda'r canlyniad.

Bydd yr ymateb yn amlinellu:

  • natur y penderfyniad a wnaed
  • sut y cynhaliwyd yr adolygiad
  • gwybodaeth am unrhyw adrannau/asiantaethau eraill yr ymgynghorwyd â nhw fel rhan o’r broses
  • pa ffactorau a ystyriwyd
  • y rhesymeg dros y penderfyniad a wnaed
  • gwybodaeth am uwchgyfeirio i Gam 2, os yw’n briodol

Cam 2: Apelio

Cyn pen 20 diwrnod gwaith o gael hysbysiad am benderfyniad Cam 1, gall rhieni neu ofalwyr wneud cais am uwchgyfeirio’r mater i Apêl Cam 2.

Sut i wneud hyn

Dylid anfon eich cais cam 2 dros e-bost at schoolsupport@denbighshire.gov.uk, neu drwy’r post at:

Cefnogaeth Addysg
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ

Eto, dylai gynnwys unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth gefnogol ychwanegol.

Ar ôl cyflwyno cais i uwchgyfeirio'r mater i apêl Cam 2

Cyn pen 40 diwrnod gwaith o gael cais Cam 2, bydd panel annibynnol yn ystyried yr apêl yn erbyn y Polisi Cludiant Dysgwyr ac yn dod i benderfyniad yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd.

Polisi Cludiant Dysgwyr (PDF, 905KB)

  • Ni fydd unrhyw aelod o’r panel apêl wedi bod yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol.
  • Bydd cyfarfod y panel yn cael ei recordio a bydd y cofnodion ar gael.
  • Bydd y panel yn ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd i gefnogi’r apêl.
  • Gall rhieni neu ofalwyr fynychu i roi crynodeb o’u hapêl.
  • Bydd Swyddogion Cefnogi Addysg hefyd yn cael cyfle i roi manylion eu hasesiad hwythau i’r panel.

Ar ôl y gwrandawiad apêl, bydd y rhiant neu ofalwr yn cael gwybod canlyniad eu hapêl yn ysgrifenedig gan Gefnogaeth Addysg. Bydd yr ymateb yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • natur y penderfyniad a wnaed
  • sut y cynhaliwyd yr adolygiad
  • gwybodaeth am unrhyw adrannau a/neu asiantaethau eraill yr ymgynghorwyd â nhw fel rhan o’r broses
  • pa ffactorau a ystyriwyd
  • y rhesymeg dros y penderfyniad a wnaed
  • gwybodaeth am uwchgyfeirio at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Os na fyddwch yn fodlon â’n penderfyniad ar ôl apêl cam 2, bydd arnoch angen gwneud cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Ewch i wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (gwefan allanol)