Datganiadau cyllideb adran 52
Pob blwyddyn rydym ni’n cyhoeddi datganiadau cyllideb Adran 52 i ddangos y gwariant cynlluniedig ar gyfer addysg yn Sir Ddinbych. Mae tair rhan i’r datganiadau:
- Rhan 1: Gwybodaeth lefel ysgol: crynodeb o gyllidebau ysgolion, gyda chyllideb pob ysgol, a’r gyllideb fesul y disgybl.
- Rhan 2: Cyllideb unigol ysgolion: ffactorau ariannu: ein fformiwla dyrannu, gyda disgrifiad o’r ffactorau a'r meini prawf, eu gwerth ariannol a’u methodoleg. Rydym ni hefyd yn darparu crynodeb o bob elfen.
- Rhan 3: Cyfran cyllideb ysgol: yn dangos sut mae ein fformiwla wedi ei ddefnyddio i gyfrifo cyfran cyllideb pob ysgol. Mae’n dangos yr holl ffactorau (ariannol ac anariannol) sy’n cael eu defnyddio i gyfrifo dyraniad fformiwla pob ysgol.
Gallwch lawrlwytho datganiadau cyllideb Adran 52 ar gyfer y pum mlynedd ddiwethaf isod.
Datganiadau Canlyniad Adran 52
Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol (31 Mawrth) rydym ni’n paratoi datganiad i grynhoi’r canlynol:
- cyfran cyllideb cynlluniedig pob ysgol
- newidiadau blynyddol
- gwir wariant ac incwm
- arian a ddygwyd ymlaen o’r flwyddyn ariannol ddiwethaf
- arian a ddygwyd ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf
Rydym ni’n cyflwyno’r datganiad hwn i Lywodraeth Cymru pob blwyddyn. Gallwch lawrlwytho datganiadau canlyniad Adran 52 ar gyfer y pum mlynedd ddiwethaf isod.