Os oes arnoch chi eisiau cau ffordd dros dro, mae’n rhaid i chi gyflwyno cais i’r Cyngor.
Yn ogystal â chau ffyrdd ar gyfer gwaith ffordd, rydym ni’n gallu cau ffyrdd dros dro ar gyfer digwyddiadau fel gorymdeithiau cyhoeddus, marchnadoedd stryd neu weithred o ffydd ac ar gyfer adegau eraill lle mae’r stryd yn debygol o fod yn orlawn o bobl.
Sut ydw i'n ymgeisio?
I wneud cais ar gyfer cau ffordd dros dro mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen gais cau ffordd a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Rydym ni’n gwneud ein gorau i gadw ffyrdd ar agor ar bob adeg ac rydym ni’n edrych ar bob cais yn unigol. Nid yw cyflwyno cais yn golygu y byddem yn cau’r ffordd ar gyfer eich digwyddiad.
Os caiff eich cais i gau ffordd ei gymeradwyo, gallwch wneud taliad trwy ffonio ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01824 706000.
Faint mae'n costio?
Cost gorchymyn tymor byr ydi £751.30, mae gorchymyn brys yn £924.00, ac mae pob gorchymyn arall yn £2,137.30, gan gynnwys hysbysebu dwyieithog. Ni chodir TAW ar y taliadau hyn.
Codir tâl ychwanegol o £1,155 y dydd am gau ffyrdd heb awdurdod.
Nid ydym ni’n codi tâl am gau ffordd ar gyfer digwyddiadau wedi eu cynnal gan elusennau cofrestredig nac ar gyfer carnifalau na pharedau.